Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol - mae'r radd wedi'i thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd y rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau cywir i fyfyrwyr addasu i gymhlethdod proffesiynol plismona modern, gan gynnwys natur newidiol troseddu a galwadau ar wasanaethau'r heddlu. Mae'r radd hon yn adeiladu ar brofiad o'r Radd Sylfaen Heddlu hynod lwyddiannus a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai, a rhaglen radd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol hirsefydlog Bangor.
Addysgir y cwrs hwn mewn gwahanol leoliadau ac mae'n defnyddio arbenigedd mewn troseddeg a gweithdrefn yr heddlu gan y ddau sefydliad.
Trwy gydol y cwrs rhoddir cipolwg i fyfyrwyr o arfer cyfredol yr heddlu, ynghyd â dealltwriaeth o ymchwil a theori mewn perthynas ag achosion troseddau a rheoli troseddau. Gyda'r cyfuniad hwn o wybodaeth am weithdrefn yr heddlu, a chipolwg academaidd ar blismona, gall graddedigion ddilyn gyrfaoedd gyda’r heddlu, yn ogystal â rhannau eraill o'r sector diogelwch ac asiantaethau eraill y llywodraeth sy'n ymwneud â phlismona.
Lleoliad
Noder os gwelwch yn dda bod y cwrs hwn yn cael ei ddysgu ar-y-cyd rhwng Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai. Am fanylion llawn lle byddwch yn astudio ym mhob blwyddyn, ewch i’r tab Cynnwys.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r rhaglen yn manteisio ar gysylltiadau agos â Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill yn yr ardal, o ran cynorthwyo myfyrwyr ag opsiynau gyrfa.
- Dysgu gan droseddegwyr sy’n weithgar mewn ymchwil a chyn-heddweision profiadol
- Mae’r rhaglen radd wedi’i llunio i roi ymgysylltiad effeithiol i fyfyrwyr â chwricwlwm y Coleg Plismona sy'n cyfuno dysgu ymarferol ac academaidd drwy gydol y tair blynedd.
- Mae amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn ychwanegu at y profiad dysgu.
- Rydym yn cynnig cefnogaeth fugeiliol ac arweiniad trwy dîm ymroddedig o diwtoriaid personol a chydlynwyr blwyddyn sy'n monitro perfformiad myfyrwyr ac yn rhoi arweiniad trwy gydol tair blynedd y rhaglen radd.
Cynnwys y Cwrs
Mae modiwlau ar y cwrs hwn yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau gweithdy yng Ngholeg Llandrillo a Phrifysgol Bangor*. Yn ystod blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn y radd, bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn senarios chwarae rôl er mwyn dysgu am wahanol agweddau ar ddyletswyddau cwnstabliaid heddlu. Anogir myfyrwyr i drafod gwahanol agweddau ar blismona gan gynnwys strategaethau effeithiol mewn plismona cymunedau, arwain ymchwiliadau ac ymdrin â throseddau cymhleth.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio dros gwrs y radd at astudiaethau academaidd ac adroddiadau ar drosedd a rheoli troseddau, gan ddefnyddio ein llwyfan dysgu ar-lein 'Blackboard', a Llyfrgell Prifysgol Bangor, sy'n rhoi mynediad at ystod o adnoddau.
Trwy gydol y radd rydym yn cynnwys sesiynau gan siaradwyr gwadd fel cynrychiolwyr o'r system cyfiawnder troseddol ac academyddion sy'n ymweld, i roi profiad dysgu deinamig i fyfyrwyr.
Rydym yn defnyddio cymysgedd o wahanol strategaethau asesu yn ystod y radd, o dasgau cyflwyno i draethodau ac adroddiadau.
*Cyflwynir Blwyddyn 1 gan Grŵp Llandrillo Menai. Bydd myfyrwyr wedi'u lleoli ar gampws Grŵp Llandrillo Menai, Llandrillo yn Rhos.
Cyflwynir Blwyddyn 2 ar y cyd rhwng Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor:
- Yn Semester 1 - bydd 40 credyd yn cael eu darparu ar gampws Grŵp Llandrillo Menai, Llandrillo yn Rhos, ac 20 credyd ym Mangor.
- Yn Semester 2 - bydd 40 credyd yn cael eu cyflwyno ym Mangor ac 20 credyd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai, Llandrillo yn Rhos.
Cyflwynir Blwyddyn 3 gan Brifysgol Bangor. Bydd myfyrwyr wedi'u lleoli ar brif gampws Prifysgol Bangor, Bangor.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Plismona Proffesiynol BSc (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: C/4 mewn Mathemateg a Cymraeg/Saesneg.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96-112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DMM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): MMM-DMM
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: gradd C
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Sylwer: Nid yw cwblhau'r radd hon yn sicrhau cewch eich recriwtio i'r heddlu. Cynghorir y sawl sydd yn cynllunio gyrfa gyda'r heddlu, wirio'r meini prawf cymhwystra sydd wedi eu gosod gan y gwasanaethau heddlu unigol.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Yn bennaf, mae'r radd yn caniatáu i fyfyrwyr ddilyn gyrfa yn gweithio i unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr. Gall y rhai sy’n graddio gyda'r radd hon hefyd ddilyn gyrfaoedd mewn amryw o swyddi yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys swyddi sifil yn yr heddlu, gwaith yn y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf. Yn ystod y radd, bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o blismona ar sail tystiolaeth a'r defnydd o ddulliau ymchwil gwyddorau cymdeithas sy'n rhoi sawl sgil trosglwyddadwy iddynt sy'n ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd. Mae gallu llunio a rheoli projectau ymchwil, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol a sgiliau dadansoddi beirniadol, yn golygu bod y radd hon yn berthnasol i lawer o feysydd. Gall graddedigion hefyd edrych am waith mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, ac yn y sector diogelwch preifat, lle mae eu gwybodaeth am blismona a chyfiawnder troseddol yn ddefnyddiol. Gall myfyrwyr hefyd fynd ymlaen i astudio ar lefel ôl-raddedig ar un o'n cyrsiau MA niferus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.