Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon gyda’i phwyslais ar weithio’n broffesiynol wedi'i chynllunio i'ch arfogi â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sy'n allweddol i lwyddo ym myd deinamig cwmnïau rhyngwladol a marchnadoedd ariannol rhyngwladol. Fel arall, efallai y byddwch chi'n dewis defnyddio'r sgiliau a'r profiad i weithio yn y sector cyhoeddus neu sefydlu'ch busnes eich hun. Mae ein rhaglen wedi'i hachredu gan yr holl brif gyrff cyfrifeg, sy’n eithrio graddedigion rhag sefyll arholiadau craidd llawer o'r cyrff hyn. Mae hon yn fantais enfawr oherwydd bydd yr eithriadau yn hwyluso'r broses o gymhwyso yn broffesiynol, gan ganiatáu mwy o amser ichi ganolbwyntio ar ddatblygu eich gyrfa.
Mae Cyfrifeg a Chyllid yn rhan hanfodol o redeg sefydliad llwyddiannus a chyfrannu at dwf economaidd. Mae angen cyfrifwyr a gweithwyr cyllid proffesiynol i asesu refeniw a gwariant, cydymffurfio â rheoliadau a darparu gwybodaeth allweddol i reolwyr, buddsoddwyr, y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill at ddibenion gwneud penderfyniadau strategol. Byddwch yn ennill sylfaen gadarn wrth ddeall swyddogaeth gwybodaeth ariannol a chyfrifyddu mewn sefydliadau, a sut i gymhwyso'r wybodaeth hon fel ei bod yn cael effaith wirioneddol ar benderfyniadau rheoli ac ar gyfleu gwybodaeth berthnasol i bartïon allanol.
Yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym ni dîm cymwys iawn o academyddion blaenllaw gyda phrofiad a diddordebau proffesiynol mewn ystod eang o bynciau cyfrifyddu a chyllid gan gynnwys: cyfrifeg ryngwladol ac adrodd ariannol, trethiant, cyllid corfforaethol, cyfathrebu corfforaethol, marchnadoedd ariannol, a statws credyd. Mae ein tîm academaidd yn ymwneud ag ymchwil o'r radd flaenaf ym maes cyfrifeg a chyllid, gyda’r aelodau’n gweithio'n rheolaidd gyda llunwyr polisi yn y llywodraeth, rheoleiddwyr a melinau trafod. Maent yn ymroddedig i gyfrannu o’u dirnadaeth o fyd polisi, ymchwil ac ymarfer proffesiynol i'ch helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ac i wireddu'ch potensial fel gweithiwr proffesiynol cyfrifyddu a chyllid.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Eithriadau o arholiadau craidd a gynigir gan gyrff cyfrifeg proffesiynol.
- Pwyslais ar faterion a datblygiadau cyfredol mewn marchnadoedd ariannol, cyfrifyddu a chyllid corfforaethol.
- Cyfunir cynnwys academaidd trylwyr â phwyslais ymarferol go iawn sy'n arwain at ragolygon gyrfa rhagorol.
- 2il am Ansawdd y Addysgu o fewn Cyfrifeg a Chyllid (Times & Sunday Times: Good University Guide 2023).
- Fe'ch addysgir mewn sawl ffordd wahanol gan ymchwilwyr ac academyddion blaenllaw sydd wedi gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant cyfrifyddu.
- Ymhlith y 10 Uchaf ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid (Guardian University Guide 2023).
- Ymhlith 10 Uchaf ar gyfer Boddhad Myfyrwyr o fewn Cyfrifeg a Chyllid (Complete University Guide 2023).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd modd ichi ddefnyddio cyfleusterau rhagorol, cronfeydd data ariannol a ffynonellau technoleg gwybodaeth helaeth i gefnogi'ch taith ddysgu. Fe'ch addysgir gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan ymchwilwyr ac academyddion blaenllaw sydd wedi gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant cyfrifyddu a chyllid. Ar ben hynny, gwahoddir gweithwyr proffesiynol allanol o fyd cyfrifyddu a chyllid i gyflwyno sesiynau i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch cysylltiadau ehangach yn y byd go iawn. O ddiwrnod cyntaf eich cwrs gradd, fe'ch anogir i feddwl yn feirniadol, gan ganiatáu ichi ddadansoddi materion busnes y byd go iawn er mwyn darparu'r atebion gorau posibl. Fe’ch cefnogir yn drwyadl hefyd i sicrhau lleoliad gwaith dewisol 12 mis i ddatblygu eich proffil cyflogadwyedd trwy roi’r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith mewn lleoliad busnes yn y byd go iawn.
Cyflwynir y cwrs yn bennaf trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Gallwch ddisgwyl cael o leiaf 12 awr o amser cyswllt gyda staff academaidd yn ystod pob wythnos addysgu. Disgwylir i chi hefyd ymgymryd ag astudio annibynnol a gwaith grŵp, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein gan ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol, Darganfod economeg, Egwyddorion rheolaeth a seflydiad, Dulliau dadansoddi busnes, Egwyddrion cyfrifeg ariannol ac Egwyddorion cyfrifeg rheolaeth. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Technegau a Dadansoddi Cyllidol a Cyllid personol a bancio. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 4 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol, Cyllid Corfforaethol, y Gyfraith ar gyfer busnes, Rheolaeth cyfrifeg ac Adrodd ariannol. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Ymwybyddiaeth fasnachol a mewnwelediad o waith, Econometreg, Cyfrifeg ariannol a Buddsoddi a rheoli portffolio. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 5 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o bynciau fel Theori ac Ymarfer Cyfrifeg a Threthiant. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Llywodraethu Corfforaethol. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 6 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Y radd hon gyda’i phwyslais ar waith proffesiynol yw'r dewis cyntaf i unrhyw un sy'n ystyried amrywiaeth eang o yrfaoedd ym maes cyfrifeg a rheolaeth ariannol. Caiff ein gradd ei chydnabod fel gradd drylwyr sy’n cynnig sylfaen gadarn yn y sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar bob sefydliad. O’i gwneud, cewch eich eithrio rhag gorfod gwneud arholiadau proffesiynol a chyfle i roi eich gyrfa ar lwybr carlam ar ôl graddio. Mae galw am gyfrifwyr proffesiynol ym mhob sector. Fe allech weithio i un o'r pedwar cwmni cyfrifeg mawr neu ddewis datblygu eich gyrfa gyda chwmni bach neu ganolig ei faint. Dros amser, efallai yr hoffech sefydlu eich practis proffesiynol eich hun. Mae cyfrifeg yn y sector cyhoeddus yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil a diddorol ledled y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Mae adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol i gyd yn cyflogi cyfrifwyr, gan gynnig cyfleoedd datblygu a dilyniant gyrfa. Cefndir mewn cyfrifeg oedd man cychwyn llawer o Brif Weithredwyr cwmnïau a restrir yn gyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cyfrifeg a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.