Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Hanes yn bwnc sy'n ysbrydoli ac mae'n ddeinamig ac yn berthnasol. Mae'n ehangu'n gyson ac yn addasu i dderbyn syniadau newydd a gofyn cwestiynau newydd am y gorffennol. Bydd astudio Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn eich helpu chi ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, megis gallu casglu a dadansoddi data a llunio dadl glir.
Mae’r cwrs Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn gwrs pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen integredig sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r radd anrhydedd tair blynedd. Cynlluniwyd y cwrs yn benodol i fyfyrwyr sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad neu ddim yn meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Mae'r flwyddyn sylfaen (Blwyddyn 0) yn gyfle i chi ehangu a chryfhau eich hyder, sgiliau a gwybodaeth - gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i symud ymlaen i Flwyddyn 1 y radd israddedig.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae’r adran yn gymharol fach ond mae gennym arbenigwyr ym mhob maes o Hanes o'r Oesoedd Canol hyd at yr ugeinfed ganrif, sy'n gweithio'n bennaf ar Brydain, Ewrop ac Unol Daleithiau America. Mae ein hymchwil yn dylanwadu ar y dysgu ac mae’n rhan hanfodol ohono.
- Mae ein graddau'n drylwyr a byddant yn datblygu eich sgiliau dadansoddi, dadlau a beirniadaeth, ond byddwch chi'n dysgu mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol. Mae staff yn glên ac yn frwdfrydig.
- Mae’r radd yn hynod eang a hynny oherwydd mai’r nod yw cynnig amrywiaeth dda o fodiwlau i chi. Yna cewch chi ddewis beth i'w astudio. Efallai hoffech fwrw golwg dros amrywiaeth eang o gyfnodau amser a lleoedd, neu efallai hoffech arbenigo yn y Canoloesoedd a’r Cyfnod Modern Cynnar neu Hanes Modern a Chyfoes.
- Yn aml cewch eich dysgu mewn grwpiau bach, ac oherwydd ein bod yn derbyn tua 120 o fyfyrwyr yn unig bob blwyddyn, bydd y staff yn gwybod eich enw. Yn ogystal, cewch ddefnyddio amrywiol adnoddau Technoleg Gwybodaeth gan gynnwys yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE), cewch gyfle i fynd ar deithiau maes neu fynd i ddigwyddiadau fel colocwiwm canoloesol blynyddol Gregynog, a seminarau ymchwil yr Ysgol.
- Gwyddom fod sgiliau trosglwyddadwy’n bwysig i chi a'ch darpar gyflogwyr, gan gynnwys gallu ysgrifennu'n dda a chyflwyno'n glir a gallu defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth gwahanol. Mae hynny’n rhan annatod o'r rhaglenni gradd a gynigiwn.
- Mae’r fro’n llawn hanes ac yn cynnig adnoddau ar gyfer gwaith maes ac mae’n lle gwych i astudio. Boed yn henebion cynhanesyddol a chylchoedd meini o bwys rhyngwladol, neu gestyll a threfi canoloesol gan gynnwys safleoedd Treftadaeth y Byd megis Biwmaris, Caernarfon a Chonwy, plastai a’r dreftadaeth ddiwydiannol - ym Mangor mae'r gorffennol ar garreg y drws.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen), bydd gennych tua 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau bob wythnos. Byddwch yn treulio tua dwywaith yr amser hwn yn darllen ac yn gwneud gwaith cwrs. Yn ogystal â hynny ceir teithiau maes a sesiynau ymarferol yn gysylltiedig â modiwlau archeoleg a threftadaeth.
Mae rhai modiwlau hanes, yn enwedig cyrsiau pwnc arbennig, yn cynnwys teithiau lleol a thu hwnt. Cewch ddewis gwneud modiwl lleoliad gwaith neu gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid yn yr ail flwyddyn.
Mae dulliau asesu'n cynnwys cymysgedd o arholiadau, traethodau, gwaith ysgrifenedig, cyflwyniadau a phortffolau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbyniwn Ddiplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Scottish Highers
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbyniwn Ddiplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Scottish Highers
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Cryfder gradd Hanes yw'r ehangder a'r hyblygrwydd deallusol sydd iddi. Oherwydd hynny mae graddedigion y cwrs Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn ddeniadol iawn i gyflogwyr sy'n chwilio am feddyliau dadansoddol ac ochrol.
Byddwch yn cael gwybodaeth hanesyddol gadarn ac amryw o sgiliau dadansoddi a chyflwyno trosglwyddadwy. Bydd y rheini’n fodd i chi ystyried amrywiol ddewisiadau o ran gyrfa gan gynnwys y rhai sy'n canolbwyntio ar weinyddiaeth ac arweinyddiaeth gyhoeddus; er enghraifft, adrannau personél y sector preifat, y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol, yn ogystal ag amryw o alwedigaethau trosglwyddadwy uniongyrchol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, aeth graddedigion Hanes Bangor ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiant treftadaeth, masnach, y gyfraith, dysgu a'r lluoedd arfog.
O astudio ar gyfer gradd mewn Hanes byddwch yn caffael amryw o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys:
- Gallu adolygu llenyddiaeth yn feirniadol a llunio dadleuon rhesymegol a strwythuredig
- Gallu gwneud cyflwyniadau llafar effeithiol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu a golygu
- Gwerthfawrogi cymhlethdod ac amrywiaeth sefyllfaoedd, digwyddiadau a meddylfryd y gorffennol
- Ennill profiad o gyflawni a chwblhau project ymchwil mawr yn y drydedd flwyddyn - y traethawd hir
- Sgiliau TG rhagorol
- Sgiliau rheoli amser
Mae'r sgiliau trosglwyddadwy hynny’n hanfodol i sectorau cyflogaeth eraill, megis y sector cyhoeddus, dysgu, twristiaeth, y gyfraith, cyfrifeg a rheolaeth.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.