Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ym mis Medi 2024, bydd Prifysgol Bangor yn lansio ei rhaglen feddygaeth gyntaf a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau rhaglen radd feddygol lawn yng ngogledd Cymru.
Gan gydweithio'n agos â Phrifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, meddygon teulu a darparwyr gofal sylfaenol ar draws gogledd Cymru, bydd y rhaglen newydd hon yn cyflwyno rhaglen C21 Prifysgol Caerdydd, wedi ei haddasu i ddiwallu anghenion lleoliadau gwledig a threfol cymysg ar draws y rhanbarth a chan hefyd gynnwys y Gymraeg a chyd-destun diwylliannol cymunedau gogledd Cymru.
Meddygaeth - cofrestru diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb astudio meddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gan ddechrau yn 2024 a thu hwnt, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Llenwch y ffurflen isod, a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch cyn gynted ag y bydd ar gael.
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn darparu rhaglen C21 Meddygaeth Gogledd Cymru Prifysgol Caerdydd ers 2019 ar ran Caerdydd ond mae bellach wedi dechrau ar y gwaith o sefydlu ei rhaglen annibynnol ei hun gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Er bod rhaglen newydd Bangor yn parhau yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol, mae’r partneriaethau cryf ar draws y rhanbarth a chyda Phrifysgol Caerdydd wedi ein galluogi i bennu dyddiad i’r myfyrwyr cyntaf ymuno â’r rhaglen.
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnig gradd 5 mlynedd a gradd 4 blynedd (Mynediad i Raddedigion) mewn meddygaeth. Bydd y rhaglenni newydd yn adeiladu ar raglen Feddygaeth C21 enwog Prifysgol Caerdydd, ynghyd â phrofiad arbenigol mewn meddygaeth gymunedol, wledig a mynyddig yn harddwch gogledd Cymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu fel y gwarantwr wrth gefn sy'n ofynnol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ystod ei broses ddilysu.
Bydd myfyrwyr yn astudio gwyddorau biofeddygol trwy ddysgu seiliedig ar achosion mewn grwpiau bach ar ein prif gampws, gydag adnoddau anatomeg, efelychu a sgiliau clinigol o'r radd flaenaf, a chyswllt cynnar â chleifion. Mae profiad clinigol cynnar yn dechrau gyda dysgu 'ar lawr gwlad' mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, lle darperir 90% o ofal iechyd. Yn y drydedd blwyddyn, bydd myfyrwyr allan mewn cymunedau, yn cael eu goruchwylio'n unigol gan uwch feddyg teulu, ac yn gweithio mewn tîm aml-broffesiynol. Treulir dwy flynedd olaf y rhaglen yn bennaf yn cael profiad mewn amrywiol arbenigeddau mewn ysbytai, gan arwain at baratoi at fynediad i Raglen Sylfaen y Deyrnas Unedig. Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais arbennig ar gyfrifoldeb myfyrwyr am eu dysgu eu hunain, gwaith tîm, addysg ryngbroffesiynol, a phroffesiynoldeb.
Trwy gydol y rhaglen, bydd amrywiaeth o ddewisiadau ar gael i fyfyrwyr; mae'r rhaglen yn ddwyieithog, gyda'r rhan fwyaf o gydrannau'n gallu cael eu hastudio yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Mae gan ogledd Cymru dri ysbyty cyffredinol acíwt mawr, 17 o ysbytai cymunedol a dros 100 o feddygfeydd teulu, ac mae gan bob rhan o’r rhanbarth ei daearyddiaeth a’i diwylliant unigryw ei hun, ac ymdeimlad cyfoethog o gymuned a chydlyniad.
Sylwer nad ydym yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol.