Rydych yn mewngofnodi i PURE.
Yna dylech weld tudalen sy'n cynnwys rhai manylion sylfaenol amdanoch, wedi eu tynnu o'ch manylion cofrestru. Dylech glicio ar EDIT PROFILE ac ychwanegu gwybodaeth ychwanegol am eich project ymchwil, diddordebau ymchwil a chymwysterau. Gallwch ychwanegu llun ond sylwch y dylai fod yn llun o'ch pen yn unig heb sbectol haul neu het etc. oherwydd hwn yw eich proffil proffesiynol. Gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth gyswllt.
Dan CURRICULUM AND RESEARCH DESCRIPTION fe welwch dab o'r enw TYPE, sy'n rhoi dewislen o flychau testun is-bennawd megis Overview, Research, Personal, Other.... Gofynnir i chi gynnwys gwybodaeth berthnasol am ymchwil yn unig yn yr adrannau hynny sy'n berthnasol i chi oherwydd, os cytunwch, rhoddir y meysydd hyn yn eich proffil yn y Porth a thrwy hynny hybu eich diddordebau ymchwil y tu allan i Fangor. Ymhellach i lawr, gallwch ychwanegu Addysg / Cymwysterau. Ar ôl i chi wneud hyn, cliciwch y botwm SAVE glas ar waelod y dudalen.
Os ewch i ymyl dde'r dudalen, fe welwch fotwm gwyrdd ADD NEW. O'r fan hon gallwch ychwanegu manylion am gynnyrch ymchwil, megis erthyglau cyfnodolion, cyfraniadau i gynadleddau, sgyrsiau, posteri, cymryd rhan mewn gweithdai, digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn y blaen. Gallwch ychwanegu cynnyrch at hyn ar unrhyw adeg i ddiweddaru eich gwybodaeth ymchwil. Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth a gofnodwch yn gywir ac yn gyflawn. Yn ogystal, ar ochr chwith y dudalen, gallwch ychwanegu gwybodaeth am effeithiau a setiau data, ond awgrymwn eich bod yn ymgynghori â'ch Goruchwyliwr cyn ychwanegu gwybodaeth yma.
Gofynnir i chi nodi a ydych yn dymuno i'r wybodaeth fod ar dudalennau'r Porth (ac yn dilyn hynny ar we-dudalennau'r Ysgol) y gellir eu gweld y tu allan i Fangor. Er y byddem yn hoffi i bob myfyriwr ôl-radd ymchwil greu Proffil PURE, gallwch ddewis peidio â chael proffil allanol, er ei fod yn dda i hyrwyddo eich diddordebau ymchwil yn y rhan fwyaf o achosion. Er mwyn gwneud eich proffil yn weladwy, ewch i'r gosodiad VISIBILITY sydd ar waelod y dudalen proffil golygu a newid hyn o'r rhagosodiad ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil, sef 'Backend - Restricted to PURE users’ i ‘Public – No restriction’ gan alluogi i agweddau allweddol y proffil i fod yn weladwy i'r byd tu allan trwy'r Porth PURE.
Isod ceir dogfen Word sy’n rhoi canllawiau manylach ar gofnodi gwybodaeth proffil yn PURE, ond dylid nodi fod mwy o swyddogaethau yma nag sy'n debygol o fod eu hangen arnoch, ac mae rhai o nodweddion PURE ar gyfer staff a gweinyddwyr ymchwil yn unig, ac ni fyddant ar gael i chi. Mae'r Ysgol Ddoethurol yn cynnig Gweithdy Ymchwil Ôl-radd sy’n rhoi sylw i PURE, ac efallai yr hoffech fynd i’r gweithdy hwnnw.
Pan fyddwch wedi cwblhau eich thesis ôl-radd ymchwil, byddwch yn cael gwybodaeth am sut i gyflwyno'r fersiwn derfynol a arholwyd ac a gywirwyd i'r llyfrgell yn defnyddio PURE
Ni ddylai gymryd llawer o amser i chi greu proffil yn PURE. Bydd cyfarfod nesaf eich Pwyllgor Adolygu yn gwirio bod gennych broffil PURE.