Prif Adeilad y Celfyddydau a Pontio, Prifysgol Bangor

Croeso gan y Brifysgol

Llongyfarchiadau mawr ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor. Rydych ar fin ymuno â chymuned fywiog a chyfeillgar, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd di-ri a fydd ar gael i chi. Gobeithio eich bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at gychwyn eich taith gyda ni, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Medi.

Yn rhan o'ch croesawu i Brifysgol Bangor, cewch eich gwahodd i Groeso Ffurfiol ar ddydd Llun Medi 18, ar yr adegau canlynol:

  • 9.30yb-10.15yb: Ysgol Gwyddorau Naturiol.
  • 10.30yb-11.15yb: Ysgol Gwyddorau Eigion; Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg.
  • 11.30yb-12.15yp: Ysgol Busnes Bangor; Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas; Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau; Ysgol Addysg.
  • 12.30yp-1.15yp: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon.

Bydd yr holl sgyrsiau Croeso Ffurfiol yn cael eu cynnal yn Neuadd PJ. Os yw’r Neuadd yn llawn, gallwch wylio llif byw o’r sgwrs ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau (MALT).

Os na allwch ddod i’r Croeso Ffurfiol, bydd fersiwn wedi'i recordio ymlaen llaw ar gael ar y dudalen hon o ddydd Mawrth Medi 19.

1
00:00:00,000 --> 00:00:03,090
 Bore da bawb, a croeso cynnes iawn i chi gyd. 

2
00:00:04,440 --> 00:00:07,840
Trwy ddod yma i Fangor rydych wedi dewis Prifysgol arbennig. 

3
00:00:08,039 --> 00:00:14,640
Sefydlwyd y Brifysgol yn ôl  yn 1884, sy’n golygu ein bod yn sefydliad â threftadaeth o fri...

4
00:00:14,840 --> 00:00:18,770
yn ogystal â gweledigaeth gref ar gyfer y dyfodol. 

5
00:00:18,970 --> 00:00:25,930
Mae’r dyfodol hwnnw’n eich cynnwys chi i gyd, oherwydd o heddiw ymlaen, eich prifysgol chi yw Prifysgol Bangor. 

6
00:00:26,130 --> 00:00:29,840
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn Brifysgol arobryn. 

7
00:00:30,230 --> 00:00:38,330
Dan ni wedi ennill Gwobr Aur, y radd uchaf bosibl, am ein dysgu, ac am ein cymuned cyfeillgar a chefnogol. 

8
00:00:38,530 --> 00:00:44,310
Yn fwy diweddar, mae Bangor wedi cael ei rhestru ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig...

9
00:00:44,510 --> 00:00:50,100
ac yn ail yng Nghymru, yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf. 

10
00:00:50,320 --> 00:01:00,370
Ac fe gyrhaeddon ni'r 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig mewn 4 categori yng Ngwobrau 'WhatUni' eleni, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn.  

11
00:01:00,710 --> 00:01:08,190
At hynny, dan ni hefyd yn gwybod bod ein harbenigedd ymchwil yn bwysig iawn i’ chi fel myfyrwyr. 

12
00:01:08,390 --> 00:01:15,140
Mae ein staff yn cyflawni cymaint o waith ymchwil rhagorol… yn arbennig felly ym maes cynaliadwyedd...

13
00:01:15,340 --> 00:01:20,480
 maes lle rydym unwaith eto’n cael ein hystyried ymysg y gorau yn y byd.

14
00:01:20,910 --> 00:01:28,510
I ddewis enghraifft ddiweddar, dyfarnwyd bron i hanner miliwn o bunnoedd i rai o’n hymchwilwyr Gwyddorau Amgylcheddol...

15
00:01:28,640 --> 00:01:36,920
ar broject sy’n nodi arwyddion cynnar o’r coronafeirws yng nghymunedau Cymru, drwy fonitro dŵr gwastraff. 

16
00:01:37,130 --> 00:01:42,680
Gallwn fod wedi dewis enghreifftiau o’n hymchwil yn y Labordy Dwyieithrwydd Plant, 

17
00:01:42,860 --> 00:01:49,770
neu’r gwaith ar dementia lle mae'n hymchwilwyr yn archwilio’r broses o ddiagnosis yn fanylach.

18
00:01:49,920 --> 00:01:54,830
Dan ni hefyd yn rhagorol am hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. 

19
00:01:55,030 --> 00:02:04,790
Byddaf yn aml yn defnyddio dyfyniad, sy’n gwbl wir, i’r perwyl mai ni yw’r brifysgol fwyaf Cymreig a'r mwyaf rhyngwladol yng Nghymru. 

20
00:02:04,990 --> 00:02:12,890
Rwy'n gobeithio y gallwch gymryd mantais ar rai o'r cyfleoedd yma i gwrdd â phobl eraill o bob rhan o'r byd.

21
00:02:13,090 --> 00:02:20,860
Rydym hefyd wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd diogel a chefnogol i bawb, heb ddim aflonyddu na gwahaniaethu. 

22
00:02:21,060 --> 00:02:25,650
Rydym yn manylu ar hynny yn ein Siarter Myfyrwyr a'n Côd Ymddygiad. 

23
00:02:25,850 --> 00:02:35,060
Dan ni'n disgwyl i bawb drin ein cymuned o staff a myfyrwyr gyda pharch a chymerwn bob achos o ymddygiad negyddol o ddifrif. 

24
00:02:35,260 --> 00:02:37,970
Ar y llaw arall, yn ystod eich cyfnod ym Mangor...

25
00:02:38,070 --> 00:02:46,270
 cewch ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi sydd ar gael i'ch helpu chi wneud yn fawr o'ch amser yn y brifysgol...

26
00:02:46,570 --> 00:02:51,250
a byddwn yn eich cymell i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig.  

27
00:02:51,450 --> 00:02:56,780
Felly, llongyfarchiadau ar ddechrau ar eich siwrnai fel myfyriwr ym Mangor. 

28
00:02:57,000 --> 00:03:05,430
Dyma i chi le gwirioneddol ryfeddol i astudio, felly mwynhewch a gwneud y gorau ohono!  Diolch yn fawr
 

Gwybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb i chi:

Myfyrywyr yn chwarae 'quadball'

Croeso gan Undeb Bangor

Undeb Bangor yw enw undeb y myfyrwyr - enw uniaith Gymraeg gan ein bod yn falch iawn o'n gwreiddiau Cymreig.

Y pwyslais ar gyfer yr Wythnos Groeso yw eich helpu i gael eich traed danoch: gan roi digon o gyfle i chi gwrdd â phobl a chymryd rhan gydag Undeb Bangor.

Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Cofrestru a Dewis Modiwlau

Rhaid i chi gofrestru gyda'r Brifysgol ar-lein cyn i chi gyrraedd, a chael eich manylion wedi eu gwirio pan fyddwch yn cyrraedd.

Yma fe welwch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gofrestru a hefyd am ddewis eich modiwlau.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?