Dydd Iau 19/01/2023
Dewch i gwrdd â'ch Ymgynghorydd Cyflogadwyedd a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael i chi o'ch diwrnod cyntaf yn astudio yma ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys chwilio am swyddi rhan-amser a phrofiad gwaith, a ffyrdd y gallwch chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i wella eich cyflogadwyedd tra byddwch chi’n astudio.
Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prif Adeilad y Celfyddydau
Friday 20/01/2023
Dewch i gwrdd â'ch athrawon Ysgol Busnes Bangor a glasfyfyrwyr eraill, yn ogystal â myfyrwyr mwy profiadol (Arweinwyr Cyfoed) yn ein digwyddiad Croeso BBS yn PL5, Pontio. Mae hwn yn gyfle i chi ddarganfod mwy am fodiwlau/rhaglenni ond hefyd am fywyd myfyriwr mewn ffordd anffurfiol.
9.00 – 10.00am: Cyflwyniad i Ysgol Busnes Bangor, Cefnogi Myfyrwyr ac Adnoddau Dysgu.
10.15 – 11.15am: Strwythurau Rhaglen Ysgol Busnes, Amserlen, Asesu a Thiwtoriaid Personol.
11.30am – 12.00pm: Rheoliadau'r Brifysgol a Chôd Ymddygiad Myfyrwyr y Brifysgol.
Lleoliad: PL5, Adeilad Pontio
Dydd Mercher 25/01/2023
Bydd y sesiwn ar gael ar yr adegau hyn:
1.00 - 2.00pm / 2.00 - 3.00pm / 3.00 - 4.00pm
Mae’r sesiwn hon yn cynnwys gwybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch i wneud y gorau o’r TG rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer eich cwrs.
Offer cyfathrebu, offer Swyddfa, Blackboard, Llyfrgell a llawer mwy
Am yr holl wybodaeth yn ymwneud â gwasanaethau TG:
Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu iaith arall? Nawr yw eich cyfle chi i wneud hynny. Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau nos mewn pum iaith:
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Eidaleg
- Sbaeneg
- Tsieinëeg (Mandarin)
Mae’n cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal â phobl y tu allan i’r Brifysgol.
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi eu llunio i ddarparu ar gyfer amryw o lefelau, o ddechreuwyr hyd at ddysgwyr sydd eisiau gloywi medrau iaith sydd wedi rhydu a/neu barhau ar ôl astudiaethau TGAU/lefel A.
*Cynhelir cyrsiau'n amodol ar nifer benodol o bobl. Mae rhai cyrsiau'n boblogaidd iawn - mewn achosion lle mae gormod o geisiadau am gyrsiau, byddwn yn cofrestru ar sail y cyntaf i'r felin. Yr oedran lleiaf yw 18.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Gweler holl ddigwyddiadau’r Wythnos Groeso Ganolog yma.