Ystafelloedd Darlithio
Mae Ystafelloedd Darlithio 1,2,3,4,5 i gyd ar y llawr cyntaf, Prif Adeilad y Celfyddydau (Bangor LL57 2DF), trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Mae gan yr adeilad hwn faes parcio, sydd fel arfer am ddim gyda'r nos.
Cynhelir sesiynau ar-lein ar Blackboard: https://blackboard.bangor.ac.uk/ultra. Wedi cofrestru, os cewch unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich e-bost Prifysgol Bangor neu safle Blackboard ar gyfer eich modiwl(au), cysylltwch â: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk.
Os gwelwch yn dda, unwaith y byddwch wedi cofrestru, gwiriwch Blackboard yn aml am fanylion pellach a diweddariadau.
Amserlen Ieithoedd i Bawb
Mae pob modiwl iaith yn cynnwys 10 sesiwn, un sesiwn/wythnos. Mae rhai cyrsiau’n cael eu cynnig wyneb yn wyneb, rhai eraill ar-lein. Porwch i lawr i wirio pa gyrsiau sydd ar gael ym mhob fformat. Mae’r holl ddosbarthiadau’n cael eu cynnal gyda’r nos, o 6 Hydref 2025 (Tymor 1).
TYMOR 1
- Dechrau: 6.10 yp. Toriad: 7.00-7.10 yp. Diwedd: 8 yp.
- Sesiwn gyntaf: wythnos yn dechrau 6 Hydref 2025.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 3 Tachwedd 2025.
- Sesiwn olaf: wythnos yn dechrau 5 Rhagfyr 2025.
TYMOR 2
- Dechrau: 6.10 yp. Toriad: 7.00-7.10 yp. Diwedd: 8 yp.
- Sesiwn gyntaf: wythnos yn dechrau 2 Chwefror 2026.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 2 Mawrth 2026.
- Toriad y gwanwyn (3 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 30 Mawrth 2026.
- Sesiwn olaf: wythnos yn dechrau 4 Mai 2026.
DYDDIAD CAU COFRESTRU: TBC
Sylwch: (1) Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn amodol ar niferoedd lleiaf; (2) Mae llawer o ddosbarthiadau’n boblogaidd - gan fod nifer y dosbarthiadau’n gyfyngedig, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl i osgoi siom; (3) Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir, gall yr amserlenni newid
Modiwl ac amserlenni 2025-26 TBC
FFRANGEG - TBC
Dechreuwyr [Cod LXN-1021], lefel A1. Grŵp 1. Dydd Llun (LR1).
Dechreuwyr [Cod LXN-1021], lefel A1. Grŵp 2. Dydd Mawrth (LR1).
Canolradd [Cod LXN-1051], lefel A2. Dydd Mercher (LR1).
SPANISH - details TBC
Beginners [Code LXN-1012], lefel A1. Grŵp 1. Dydd Mawrth (LR2).
Beginners [Code LXN-1012], lefel A1. Grŵp 2. Dydd Mercher (LR2).
Intermediate [Code LXN-1043], lefel A2. Dydd Mawrth (LR5).
TSIEINEEG - TBC
Dechreuwyr [Cod LXN-1401], lefel HSK1. Dydd Llun (ar lein neu LR2).
SYLWER: Mae modiwlau “Plus” yn barhad o fodiwlau Semester 1. E.e. os oeddech yn gwneud “LXN-1021 Ffrangeg – Dechreuwyr” yn semester un, yn semester 2 dylech gofrestru i “LXN-1022 Ffrangeg – Dechreuwyr Plus”.
FFRANGEG
Dechreuwyr [Cod LXN-1524], lefel A1. Dydd Llun (LR1).
Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1022], lefel A1+. Dydd Mawrth (LR1).
Canolradd Plus [Cod LXN-1052], lefel A2+. Dydd Mercher (LR1).
SBAENEG
Dechreuwyr [Cod LXN-1523], lefel A1. Dydd Mawrth (LR2).
Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1525], lefel A1+. Grwp 2. Dydd Mercher (LR2).
Canolradd Plus [Cod LXN-1526], lefel A2+. Dydd Mawrth (LR5).
TSIEINEEG
Dechreuwyr [Cod LXN-1527], lefel HSK1. Dydd Mawrth (ar-lein).
Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1402], lefel HSK1+. Dydd Llun (ar-lein).
Rhagor o wybodaeth
Edrychwch ar y daflen Gwybodaeth i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth am y gwahanol lefelau, codau modiwlau a'r amserlen. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk.