Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau’n flynyddol i fyfyrwyr uwchraddedig o Gymru sy’n astudio am radd Meistr neu PhD.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ddiwedd mis Mai fel arfer.
Cynigir y grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig.
Rhaid bod gan ymgeiswyr gyfeiriad parhaol yng Nghymru.
Rhaid hefyd i bob ymgeisydd fod NAILL AI wedi ei (g)eni yng Nghymru, NEU fod ag un o’i r(h)ieni wedi eu geni yng Nghymru, NEU fod wedi treulio cyfnod o saith mlynedd neu fwy fel disgybl neu fyfyriwr mewn unrhyw sefydliad(au) addysgol yng Nghymru.
Gellir cysylltu â’r Ymddiriedolaeth am fwy o wybodaeth ar 01970 612806 neu post@jamespantyfedwen.cymru. Mae’r canllawiau i gyd a’r ffurflenni cais i’w gweld ar wefan yr Ymddiriedolaeth o fis Ionawr ymlaen bob blwyddyn.