0:00:00
Helo a chroeso i Fangor!
0:00:05
Dyma hawliau myfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg.
0:00:11
Cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg.
0:00:16
Cyfarfodydd yn Gymraeg.
0:00:21
Gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg.
0:00:26
Tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg.
0:00:31
Gohebiaeth yn Gymraeg.
0:00:35
Cais am gymorth ariannol yn Gymraeg.
0:00:39
Llythyrau, ffurflenni a thystysgrifau yn Gymraeg.
0:00:46
Llety myfyrwyr Cymraeg.
0:00:50
Unrhyw gwestiynau?
0:00:51
Cysylltwch â Chanolfan Bedywr.
Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor. Nid yw hyn yn fawr syndod gan ystyried fod Bangor wedi ei lleoli yn y sir gyda’r % uchaf o siaradwyr Cymraeg. Yn wir mae gan tua 70% o’n staff sgiliau yn y Gymraeg. Mae modd felly i chi dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma, gan gynnwys adran Gwasanaethau Myfyrwyr.
Yn academaidd, fe sylwch fod y darlithoedd a grwpiau seminar cyfrwng Cymraeg yn dueddol o fod yn llai o ran maint sy’n golygu fod y myfyrwyr yn dueddol o deimlo’n fwy cyfforddus ynddynt. O ganlyniad felly, mae mwy o gyfle i’r myfyrwyr hynny holi cwestiynau i’w darlithwyr a derbyn ychydig mwy o gefnogaeth.
Ceir cymuned Gymraeg gref ymysg ein myfyrwyr tu hwnt i’r darlithoedd hefyd, yn enwedig drwy weithgareddau UMCB sef Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.
Hyderwn felly y byddai unrhyw fyfyriwr sy’n siaradwr Cymraeg, waeth pa mor rhugl, yn teimlo’n gartrefol iawn ym Mhrifysgol Bangor ac mai dyma’r lle gorau ar eich cyfer i gael defnyddio a datblygu eich sgiliau iaith Gymraeg.
Cymerwch olwg yma ar yr holl fanteision sydd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r gefnogaeth sydd ar gael i'ch cynorthwyo i wneud hynny, yn ogystal â chylwed gan ein myfyrwyr a darlithwyr.