Fy ngwlad:
A rainbow over Bangor University Main Arts Building

Coleg Treftadaeth Bangor

Faint ydych chi wir yn ei wybod am yr ardal rydych chi'n byw ynddi?


Dyma gyfle i chi, gyda chymorth eich ffrindiau, rhieni, aelodau o'ch teulu a'ch cymdogion, ddysgu mwy am yr ardal rydych chi'n byw ynddi.


Mae'r prosiect hwn yn dathlu 1500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu'r Eglwys Gadeiriol ym Mangor.

Croeso i'r Coleg

Darganfyddwch Bangor!

Bangor Heritage College colour logo

 

Croeso i Goleg Treftadaeth Bangor, lle mae digon o gyfleoedd dysgu cyffrous a diddorol ac fe allwch ennill credydau am gymryd rhan. Rydym yn ceisio gwneud dysgu’n bleserus drwy eich annog i weithio’n agos gyda ffrindiau, aelodau’r teulu a’r gymuned leol fel y gallwch ddod i adnabod yr ardal rydych yn byw ynddi yn well.
Ar y dudalen hon, fe welwch lawer o awgrymiadau ar gyfer pethau i’w harchwilio am Fangor a’r ardal leol. Gallwch chwilio am wybodaeth ar-lein; gofyn i ffrindiau a theulu; ymweld â llefydd lleol; neu fynd am dro i ddod o hyd i’r atebion.
Gallwch ddechrau gyda’r modiwl sydd o ddiddordeb i chi, felly edrychwch drwy’r pynciau a dewiswch yr hyn sy’n apelio atoch!
Ar hyn o bryd rydym yn treialu'r prosiect hwn gydag ysgolion ym Mangor, gyda ffocws penodol ar Flynyddoedd 5, 6, 7 ac 8. Os yw eich dosbarth yn cymryd rhan, gallwch gael cerdyn aelodaeth gan eich athro/athrawes. Ar ôl i chi ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau, cofiwch roi gwybod i'ch athro/athrawes i gofnodi'r credydau! Gallwch ennill tystysgrifau am gasglu credydau:
50 Credyd = Efydd
150 Credyd = Arian
300 Credyd = Aur
Os nad ydych chi'n rhan o ddosbarth sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot, mae croeso i chi archwilio'r modiwlau hyn ond nid yw credydau ar gael ar hyn o bryd. Gobeithiwn y gallwn ehangu'r prosiect hwn ar ôl y cynllun peilot fel y gallwch gofnodi eich credydau yn y dyfodol. Cadwch lygad ar y wefan hon am ragor o wybodaeth am hyn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Bangor Heritage College wedi’i gynllunio i gefnogi’ch dosbarth i feithrin eu hymdeimlad o berthyn a ‘cynefin’ yn eu hardal eu hunain. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar waith a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Tirwedd Ynys Gybi. Bydd pob plentyn sy’n cymryd rhan yn y gwaith hwn yn dod yn fyfyriwr yng Ngholeg Treftadaeth Bangor ac yn derbyn cerdyn aelodaeth.

Gellir cwblhau’r modiwlau hyn gan ddosbarth cyfan neu gan fyfyrwyr yn annibynnol neu gyda’u ffrindiau a’u teulu. Rydym yn gofyn i chi:

  • Helpu’r myfyrwyr rydych yn gweithio gyda nhw i ddeall sut mae’r coleg yn gweithio
  • Rhoi amser i fyfyrwyr archwilio’r modiwlau sydd ar gael iddynt
  • Lle bo’n bosibl, ymgorffori un neu fwy o’r modiwlau yn eich gweithgareddau dosbarth
  • Annog ymgysylltiad â’r modiwlau
  • Cadw cofnod o sawl credyd mae myfyrwyr wedi’u hennill fel y gallant dderbyn eu tystysgrifau!

Nid oes cynllun marcio ar gyfer credydau. Rhoddir credydau am ymgysylltiad â’r modiwl. Darperir atebion ar gyfer eglurhad, trafodaeth, ac archwiliad pellach.

Gobeithiwn y byddwch yn gweld hwn yn adnodd defnyddiol a phleserus i chi ac i’r myfyrwyr!

Mae Coleg Treftadaeth Bangor wedi’i ddatblygu gan dîm Ymgysylltu Cymunedol Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â’r Ysgol Addysg Gogledd Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi’i ysbrydoli gan Goleg Treftadaeth Cybi a ddatblygwyd gan Bartneriaeth Tirwedd Ynys Gybi ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Rydym yn ddiolchgar am eu caniatâd i ddatblygu eu syniadau ar gyfer ardal Bangor. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect hwn yma:

https://www.anglesey.gov.wales/en/Business/Regeneration/Holy-Island-Landscape-Partnership/projects/local-learning

Mae’r Coleg yn cael ei ariannu gan Gyngor Dinas Bangor a Phrifysgol Bangor. Hoffem ddiolch i Mervyn Jones am ei waith wrth ddod o hyd i gynnwys y modiwlau hyn, eu casglu, a chefnogi datblygiad y Coleg.

Hoffem hefyd fynegi ein diolch i bawb sydd wedi cyfrannu syniadau ar gyfer modiwlau. Mae hyn yn cynnwys yr academyddion sydd wedi rhannu eu meysydd diddordeb, partneriaid o leoliadau a gwasanaethau ar draws Dinas Bangor, a’r plant a’r bobl ifanc o ysgolion lleol.

Yn olaf, hoffem ddiolch i chi am gymryd yr amser i archwilio Dinas Bangor a’i threftadaeth amrywiol. Gobeithiwn y byddwch yn dysgu rhywbeth newydd am Fangor ac am eich cysylltiad â’r ddinas wrth i chi weithio drwy’r modiwlau hyn.

Bangor City Council logo including shield and wording

 

Cybi Island Anglesey logo

Am ragor o wybodaeth am Goleg Treftadaeth Bangor, cysylltwch â’r Dr Nia Young drwy e-bost: nia.young@bangor.ac.uk 

Modiwlau

Isod mae rhestr o’r modiwlau y gallwch eu cwblhau. Cliciwch ar fodiwl i ddarganfod beth allwch chi ddysgu. Cofiwch, gallwch ddechrau gyda’r modiwl sydd o ddiddordeb i chi! Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau, cofiwch roi gwybod i ni fel y gallwch gael eich credydau!

Gweithgareddau Arlein

Cofiwch ofalu amdanoch chi'ch hun ar-lein. Mae'r modiwlau hyn yn awgrymu syniadau i chi ymchwilio iddynt ond ni allwn wirio popeth sydd ar y rhyngrwyd. Cofiwch ddefnyddio gwefannau rydych chi'n gyfarwydd â nhw yn unig ac i wirio gydag oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth.

Mae yna nifer o ffeithiau diddorol am addysg ym Mangor.

Pethau wedi newid gryn dipyn.

Dewch i ddysgu ychydig mwy amdanynt. Cewch hyd i’r atebion yn y dinas neu arlein.

 

  1. Ble oedd lleoliad cyntaf Prifysgol Bangor?

  2. Pryd sefydlwyd y Brifysgol?

  3. Beth yw motto y coleg yn Gymraeg a Saesneg?

  4. Roedd dau goleg hyfforddi athrawon arall ym Mangor, beth oedd eu henwau?

  5. Pryd sefydlwyd ysgol Ramadeg y Friars?

  6. Pwy oedd yn gyfrifol am sefydlu’r ysgol?

  7. Beth oedd ffocws yr addysg yn Friars ar y cychwyn?

  8. Pam fu i’r ysgol gau yn 1861?

  9. Ysgol Tryfan oedd yr ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf ym Mangor. Pryd fu iddi agor?

  10. Pryd unwyd y Coleg Normal gyda’r Brifysgol?

 

 

Fe elwir nifer o lefydd ar draws y byd yn Bangor. 

Dewch i ni ddarganfod ble maent.

 

  1. Gyda pa ddinas yn yr Almaen mae Bangor Gwynedd wedi ei chyfeillio?

  2. Sawl lle yn y byd sy’n cynnwys yr enw Bangor?

  3. Faint o’r rhain sydd yn yr Unol Dalaethau o America?

  4. Pa bentref yn ymyl Wrecsam sy’n cynnwys yr enw Bangor?

  5. Ble yng Nghymru mae Bangor Teifi?

  6. Ym ble yn gogledd Iwerddon mae Bangor?

  7. Ble yn Tasmania mae Bangor?

  8. Enwch ddau le yn America ble ceir Bangor?

  9. Enwch un lle yn Canada ble geir Bangor?

  10. Ble yn Ffrainc mae Bangor?

 

 

Mae rhyfeloedd yn effeithio ar bawb. Dewch i ddysgu ychydig am effaith rhyfeloedd ar Fangor.

 

  1. Ble yn Bangor mae Cofeb Bwa i goffau dewrion Gogledd Cymru?

  2. Pwy gynlluniodd y cofeb yn y Gadeirlan: Er Cof am y rhain a gollodd ei bywydau 1914-1918

  3. Oswald Griffiths: I ba ysgol ym Mangor aeth Oswald Griffiths?

  4. Thomas Glyn(ne) Williams: Gradd ym ma pwnc gafodd Thomas?

  5. Thomas Barron Winter: Ble cafodd Thomas ei ladd?

  6. John Pritchard: Ble mae John wedi ei gladdu?

  7. Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd fe sefydlwyd gwersyll milwrol ar feysydd chwarae Brenin Sior V. Ble mae y meysydd chwarae?

  8. Byddin pa wlad oedd yno yn 1944?

  9. Pa GI (milwr Americanaidd) enwog fu yn aros yno. Fe gyfeirir ato fel y‘Brown Bomber?

  10. Milwyr o ba wlad fu’n garcharorion yno?

 

 

Lle anhygoel yn llawn dadl. Dewch i ddysgu am ddylanwad un teulu ar yr ardal.

 
  1. Pwy oedd y pensaer a gynlluniodd ac adeiladu Castell Penrhyn?

  2. Cafodd y castell ei adeiladu ym mha ddull?

  3. Enwch dau ddeunydd a gafodd ei ddefnyddio i wneud y dodrefn.

  4. Pwy oedd Arglwydd 1af Penrhyn o Llandegai?

  5. Ble oedd yn ei gynrychioli fel Aelod Seneddol?

  6. Pa frenhines a fu yn ymweld a’r castell?

  7. Ble oedd y blanhigfa siwgr ble bu i’r teulu Pennant wneud ei cyfoeth?

  8. Ar wahân i adeiladu Porth Penrhyn, beth arall adeiladodd Richard Pennant?

  9. Be ddigwyddodd yn Chwarel Penrhyn yn 1900?

  10. Pryd ddaeth Castell Penrhyn dal ofal yr Ymddiriedolath Cenedlaethol?

 

Sut yr hoffech chi weithio mewn chwarel lechi mor ifanc a 14eg oed? 

Bywyd caled ac yn wahanol iawn i heddiw!

 
  1. Pwy oedd perchennog chwarel Dinorwic yn y 18fed ganrif?

  2. Ble oedden y teulu’n byw?

  3. Pryd fu i’r chwarel ddechrau cynhyrchu llechi a pryd fu iddi gau?

  4. Mewn beth oedd y chwarelwyr a oedd yn teithio o bell fel Ynys Môn yn byw?

  5. Beth oedd yn nodweddiadol am bentref Deiniolen a Clwt y Bont yn y cyfnod yma?

  6. Pa ddatblygiad fu yn 1825 i hwyluso cludo’r llechi?

  7. Pa ddau beiriannydd enwog ddylanwadodd ar ddatblygu dulliau newydd technolegol yn y chwarel?

  8. Be sefydlwyd yn 1874 i edrych ar oI hawliau’r chwarelwyr?

  9. Be gafodd ei ddatblygu yn y chwarel ar ôl iddi gau?

  10. Be agorodd yn Gilfach Ddu yn 1972?

 

Mae clwb pêl droed dinas Bangor wedi cael llawer i lwyddiant dros y blynyddoedd. Dewch i ddarganfod rhai ohonynt.

 
  1. Pryd ffurfiwyd y clwb?

  2. Ym mha dymor enillodd y clwb Gwpan Cymru?

  3. Pwy oedd gwrthwynebwyr Bangor yng Nghwpan Ewrop yn 1962?

  4. Ble gafodd y gem ail-gyfle ei chwarae?

  5. Pwy oedd gwrthwynebwyr Bangor yn gem cwpan yr FA Trophy yn Wembley yn 1984?

  6. Daeth cyn chwaraewr Bangor yn Brif Weithredwr Cymdeithas Pêl droed Lloegr yn 2004-05. Pwy oedd o?

  7. Pryd ymunodd y clwb gynghrair Cenedlaethol newydd Cymru?

  8. Pwy oedd yn rheoli’r clwb yn 1998?

  9. Yn erbyn pwy oedd y clwb yn fuddugol i ennill Cwpan Cymru yn 2008?

  10. Pwy gymerodd y clwb trosodd yn 2019?

 

1500 o flynyddoedd ers sefydlu y gadeirlan yn Bangor. Pwy oedd Sant Deiniol?

Dewch i ddarganfod mwy. Fe geir yr atebion i’r modiwl yma ar wefan - www.pererinysgolion.cymru

 

  1. Yn ystod pa ganrif oedd Deiniol Sant yn byw?

  2. Ym mha flwyddyn y bu farw?

  3. Beth oedd enw ei dad?

  4. Beth oedd enwau brodyr/chwiorydd Deiniol?

  5. Pryd mae diwrnod dathlu Deiniol Sant?

  6. I ba ardal wnaeth Deiniol symud gyda’i deulu pan adawodd yr Hen Ogledd, a cyn dod i Fangor?

  7. Gyda pa Sant wnaeth Deiniol astudio?

  8. Pa frenin wnaeth rhoi cefnogaeth ariannol i Deiniol pan ddaeth i Fangor?

  9. Roedd seintiau yn credu mewn ffynhonnau – beth oedd pobl yn gredu y gallai dŵr y ffynhonnau yma ei wneud?

  10. Ble y claddwyd Deiniol?


 

Fe gewch lawer o wybodaeth diddorol am yr ardal wrth ddysgu am ddigwyddiadau allweddol y 18fed, 19eg, ac 20fed ganrif.

Pryd...

1. ddechreuodd gwasanaeth y goets fawr rhwng Caer a Caergybi?

2. adeiladwyd Porth Penrhyn? 

3. ddatblygwyd chwareli’r Penrhyn?

4. adeiladwyd ffordd Caergybi Thomas Telford?

5. agorodd Pont y Borth?

6. gychwynnodd y rheilffordd o Gaer i Caergybi?

7. agorwyd Pont Britannia?

8. sefydlwyd Clwb Pêl-droed Bangor?

9. agorodd Pwll Nofio Bangor?

10. agorodd Ysbyty Gwynedd?

 

Ffeithiau diddorol am y ddinas. E,e.Beth gyflwynodd y Frenhines Elizabeth II i Fangor yn 1974? Dewch i ddysgu mwy!

 

  1. Ydy Bangor yn dref ynte yn ddinas?

  2. Ym mha sir mae Bangor?

  3. Beth yw ystyr yr enw Bangor?

  4. Gyda pa ddinas yn Yr Almaen mae Bangor Gwynedd wedi ei chyfeillio?

  5. Beth gyflwynodd y Frenhines Elizabeth II i Fangor yn 1974?

  6. Heddiw mae Bangor yn bennaf adnabyddus am beth?

  7. Pryd bu i brifysgol Bangor agor?

  8. Be mae’r gadeirlan yn ei ddathlu yn 2025?

  9. Beth yw enw y ddwy bont sydd yn cysylltu Bangor ac Ynys Môn?

  10. Mae dwy afon o fewn ffiniau Bangor. Pa rai ydynt?

 

 

Albanwr a oedd yn ‘Superstar’ ei gyfnod. Adeiladwr ffyrdd, camlesi, pontydd, eglwysi a llawer arall. Dysgwch ychydig amdano.

 

  1. Pwy oedd yn gyfrifol am wella’r ffordd A5 o Llundain drwy Fangor ac ymlaen i Caergybi?

  2. Beth oedd gwaith ei dad?

  3. Ym mha wlad gafodd o ei eni?

  4. Ble mae o wedi ei gladdu?

  5. Beth yw enw’r bont a adeiladodd ym Metws y Coed?

  6. Ar wahân i bontydd roedd hefyd yn enwog am adeiladu beth?

  7. Beth agorodd yn 1826?

  8. Enwch unrhyw le arall ar Ynys Môn oedd Thomas Telford yn gyfrifol am ei adeiladu.

  9. Cyn 1826 sut oedd pobl yn teithio dros yr Afon Fenai?

  10. Beth oedd enw’r gwesty ar lan yr afon Fenai ble byddai teithwyr yn aros cyn croesi i Ynys Môn?

 

 

200 gan mlynedd yn ôl, nid oedd rheilffordd yn Gogledd Cymru.

Mi fu newid mawr ar ôl 1848. Pam tybed?

 

  1. Pryd agorwyd yr orsaf?

  2. Rhan o ba reilffordd oedd Bangor?

  3. Pwy ddaru gynllunio yr orsaf?

  4. Roedd teithio i Ynys Môn yn dipyn haws ar ôl 1850, pam?

  5. Be ddigwyddodd i Bont Britannia yn 1970?

  6. Cyn 1850 ble roedd y rheilffordd i Caergybi yn cychwyn ar Ynys Môn?

  7. Yn ystod yr Ail Ryfel byd fe ddefnyddiwyd y stesion fel beth?

  8. Trenau stêm oedd yn rhedeg drwy Fangor i ddechrau. Pryd fu’r newid i disel?

  9. Pam oedd gwella trafnidiaeth rhwng Llundain a Dulyn yn bwysig yn y 19eg ganrif?

  10. Pwy sydd yn rheoli y rheilffordd heddiw?

Person a gyfranodd lawer i wella bywydau pobl Bangor. 

Beth yw ei cysylltiad â chae pêl-droed Bangor tybed? Dewch i ddysgu mwy am y gwr bonheddig yma.

 

  1. Pryd ganwyd Isidore Wartski?

  2. Ym mha wlad cafodd ei eni?

  3. Pa fath o nwyddau oedd yn cael ei gwerthu yn siop Isidore Wartski ym Mangor?

  4. Pryd penodwyd Isidore Wartski yn faer i Bangor?

  5. Pa westy ym Mangor fu iddo ddatblygu i fod yn westy moethus?

  6. Ble ym Magor oedd ei siop gyntaf?

  7. Beth oedd y siop ar Ffordd Mostyn Llandudno yn ei werthu?

  8. Yn ei ewyllys fe adawodd gweddw Wartski gaeau i’r ddinas. Ble mae caeau Wartski?

  9. Pa Brif Weinidog fu’n dwrna i’r busnes am gyfnod?

  10. Ym mha ddinas yn Lloegr symudodd y teulu eu busnes?

Olion Neolithic a Rhufeinig, pentref i chwarelwyr a phlasty moethus.

Dyma i chi gymysgedd diddorol.

 
  1. Beth gafodd ei ddarganfod ar safle Bryn Cegin yn 2006 a 2007?

  2. Yn ystod pa ryfel bu brwydr yn Dalar Hir yn 1648?

  3. Pwy ddatblygodd y pentref yn 1800-1886?

  4. Beth oedd yn cael ei wahardd o’r pentref yn y cyfnod yma?

  5. Pwy sefydlodd yr eglwys?

  6. O pryd mae’r eglwys bresennol yn dyddio?

  7. Sawl cloch sydd i’r eglwys?

  8. Ar gyfer pwy oedd yr ysgol i gychwyn?

  9. Pryd adeiladwyd ysgol i’r bechgyn?

  10. Pwy yw perchnogion castell Penrhyn heddiw?

Brenin wedi ei gladdu yng Nghadeirlan Bangor. Pwy fuasai’n meddwl!

 
  1. Brenin ble oedd Owain Gwynedd?

  2. Beth oedd enw ei dad?

  3. Pwy oedd ei fam?

  4. Faint o blant oedd ganddo?

  5. Pryd y ganwyd Owain Gwynedd?

  6. Beth oedd enw brawd hŷn Owain Gwynedd a gafodd ei ladd mewn brwydr?

  7. Pwy oedd brenin Lloegr pan anwyd Owain Gwynedd a phwy oedd brenin Lloegr pan bu iddo farw?

  8. Pa frenin Lloegr bu Owain Gwynedd yn ymladd yn erbyn?

  9. Ble mae Owain Gwynedd wedi ei gladdu?

  10. Beth yw enw ei frawd sydd wedi ei gladdu yn yr un lle?

Yr ail bier hiraf yng Nghymru. Esgob wedi rhedeg gwasanaeth yno. Gisgodau bach tlws o oes Fictoria yma ac acw. Gwerth dysgu mwy amdano.

 
  1. Pryd agorwyd pier Bangor?

  2. Pwy oedd yn gyfrifol am redeg feri ‘Porthesgob ar draws y Fenai yn 1292?

  3. Beth oedd ar safle’r pier cyn iddo gael ei adeiladu?

  4. I ble yn 1891 roedd gwasanaeth ddwywaith yr wythnos o lanfa’r Garth?

  5. Beth oedd enw’r stemar?

  6. Oddeutu faint o arian costiodd y pier i’w adeiladu?

  7. Pwy oedd y peiriannydd a arweiniodd y prosiect i adeiladu’r pier?

  8. Pwy agorodd y pier yn swyddogol?

  9. Beth oedd hyd a lled rhan fwyaf o’r pier ar y pryd?

  10. Yn y 60au be rhaid cau y pier am gyfnod hir. Pryd fu iddo ail agor?

Mae cysylltu gyda’r naill a’r llall tipyn yn wahanol heddiw. Dewch i weld sut oeddcludo llythyrau a parseli yn yr oes a fu.

 

  1. Pryd adeiladwyd Swyddfa Post Bangor ar Ffordd Deiniol?

  2. Pwy oedd yn cario’r Post Brenhinol rhwng Llundain a Chaergybi yn y 16eg ganrif?

  3. Sut oedden nhw’n teithio?

  4. Beth oedd y Bechgyn Post yn ei wisgo?

  5. Sut oedd y Post Brenhinol yn cael ei gludo ym 1785 cyn adeiladu’r rheilffordd drwy Fangor?

  6. Pa mor aml oedd angen newid y ceffylau?

  7. Cyn 1826 sut oedd y Post yn croesi Afon Fenai?

  8. Beth hwylusodd pethau yn 1826?

  9. Mae enw tri lle ar garreg filltir yng Nghymru. Beth yw ystyr y tri?

  10. Pam ddaeth y gwasanaeth i ben?

Y gwahaniaeth rhwng y cyfoethog a’r tlawd; bywyd afrad, cyfforddus. Sut tybed?

 
  1. Pryd y ganwyd Richard Pennant?

  2. Ble oedd yn ei gynrychioli fel gwleidydd?

  3. Am sawl blwyddyn bu’n aelod seneddol?

  4. Roedd yn berchen ar ba gastell lleol?

  5. Sut wnaeth o ei gyfoeth cychwynnol?

  6. Sawl planhigfa oedd ganddo yn Jamaica?

  7. Yn ble bu iddo ddechrau cloddio llechi?

  8. Beth oedd incwm blynyddol chwarel Penrhyn yn 1859?

  9. Yn ble adeiladodd harbwr i allforio’r llechi?

  10. I ble yn America yn 1809 hwyliodd llong yn llawn o lechi?

Peiriannydd enwog arall sydd wedi gadael ei farc ar Wynedd ac Ynys Mon. Dewch i ddysgu mwy amdano.

 

  1. Pa bont enwog gafodd ei hadeiladu gan Robert Stephenson er mwyn gwella’r rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi?

  2. Pa fath o bont oedd hi pan adeiladwyd hi gyntaf?

  3. Pa bryd yr adeiladwyd y bont?

  4. Beth ddigwyddodd yn 1970?

  5. Beth sy’n wahanol am y bont heddiw?

  6. Beth sydd wedi’u lleoli bob ochr i’r bont?

  7. Pwy adeiladodd y bont enwog arall sy’n croesi Afon Menai?

  8. Pryd a ble y cafodd Robert Stephenson ei eni?

  9. Ble mae o wedi ei gladdu?

  10. Roedd Robert Stephenson yn fab i beiriannydd enwog arall. Pwy oedd o?

Oeddech chi’n gwybod y cyfeirir at Felinheli fel Portdinorwig hefyd. Yr ail enw yn arwydd da o hen hanes y lle. Beth tybed?

 
  1. Beth oedd yr enw blaenorol Felinheli yn Saesneg?

  2. Beth yw enw’r afon sydd yn rhedeg drwy’r pentref?

  3. Yn wreiddiol, roedd dau bentref yn y Felinheli. Beth oedd eu henwau?

  4. Pryd cafodd y felin ei ail adeiladu yn nes i’r mor?

  5. Beth oedd y rheswm am i’r ardal gael ei drawsnewid yn y 19eg ganrif?

  6. Pwy oedd perchennog chwarel lechi Dinorwig?

  7. Pryd fu i’r harbwr newydd gael ei adeiladu?

  8. Heddiw, mae’r harbwr yn ganolog i beth?

  9. Pryd adeiladwyd y ffordd osgoi?

  10. Bellach ddim yn bodoli ond pryd agorwyd y rheilffordd i deithwyr?

Un o adeiladau mwyaf adnabyddus Bangor yn dyddio’n ôl ganrifoedd. Mae’n werth ymweld a’r addoldy yma. Cyfle hefyd i gwblhau modiwlau eraill.

 
  1. Pwy oedd Esgob cyntaf Bangor?

  2. Pryd sefydlwyd yr Eglwys Gadeiriol?

  3. Beth yw ystyr yr enw Deiniol?

  4. Pwy oedd tad Deiniol Sant?

  5. Pa enwad yw’r Eglwys?

  6. Ble y claddwyd Sant Deiniol?

  7. Enwch un Eglwys arall yng Ngogledd Cymru sydd wedi ei chysegru i Deiniol Sant.

  8. Enwch un tywysog o Gymru sydd wedi ei gladdu yn y Gadeirlan Bangor.

  9. Roedd George Guest sy’n gysylltiedig a’r Gadeirlan yn adnabyddus am beth?

  10. Pa ganwr/cyflwynwr adnabyddus sy’n gysylltiedig a’r Gadeirlan?

Sut fuasech chi yn hoffi mynychu ysgol o’i math. Tipyn gwahanol i’r hyn ydych chi yn ei brofi. Ydy cyfeirio ati fell long bechgyn drwg yn deg. Be da chi’n feddwl?

 

  1. Pryd ddaeth y llong Clio i’r Afon Fenai?

  2. Faint oedd oed y bechgyn a oedd ar y llong?

  3. Beth oedd pwrpas y llong?

  4. Disgrifiwch un ffordd o gadw disgyblaeth?

  5. Mewn beth oedd y bechgyn yn cysgu?

  6. Oddeutu faint o fechgyn oedd yn byw ar y llong?

  7. Enwch ddau le o ble oedd y bechgyn yn dod

  8. Yn 1887 bu i fachgen o Llandudno ei yrru ar y llong. Beth oedd ei drosedd?

  9. Faint or gloch yn y bora oeddynt yn dechrau ar eu gwaith?

  10. Beth oedd natur y brecwast oeddynt yn ei gael?

Mae gan Fangor ddigonedd o leoedd naturiol ac amgylcheddau diddorol i’w harchwilio. Dysgwch fwy amdanynt drwy edrych ar fapiau o’r ardal ar-lein!

 

  1. Enwch ddwy Warchodfa Natur sy'n bodoli yn Ninas Bangor

  2. Nodwch ddau beth y gallwch eu gweld neu eu gwneud yn y Gwarchodfeydd Natur hyn

  3. Enwch ddwy Warchodfa Natur Genedlaethol sydd o fewn 10 milltir i Ddinas Bangor

  4. Pam mae'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol hyn yn bwysig ar gyfer gwarchod natur?

  5. Ble mae'r ardal chwarae agosaf (er enghraifft, parc) atoch chi?

  6. Ble mae’r Gerddi Beibl ym Mangor?

  7. Pwy all ddefnyddio’r Gerddi Beibl ym Mangor a phryd?

  8. Ble mae Gerddi Treborth?

  9. Pa fathau arbennig o flodau sy'n cael eu tyfu yn nhai gwydr Gerddi Treborth?

  10. Beth yw enw'r Llwybr Beicio Cenedlaethol sy'n cychwyn ym Mangor ac yn mynd i lyn?

Fel pob dinas, mae angen adnoddau ar Fangor i gadw popeth i redeg! Felly o ble mae'r cyfan yn dod? Ymchwiliwch sut mae Bangor yn cael ynni, dŵr, a mwy yma!

 

  1. Ble ym Mangor mae prif swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru?

  2. Beth mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud?

  3. Ble mae'r ganolfan ailgylchu agosaf at Fangor?

  4. Pwy sy'n rhedeg y ganolfan ailgylchu?

  5. Pan fydd pobl yn troi eu tapiau ymlaen gartref ym Mangor, mae dŵr yfed yn dod allan. O ble mae'r dŵr hwnnw wedi dod?

  6. Ble mae'r orsaf ynni trydan dŵr agosaf at Fangor?

  7. Beth mae 'trydan dŵr' yn ei olygu?

  8. Ble mae'r fferm ynni gwynt agosaf at Fangor?

  9. Pam mae'r mathau hyn o ynni'n cael eu defnyddio?

  10. Beth arall ydych chi'n meddwl sydd ei angen ar Fangor i'w helpu i redeg yn dda?

Tipyn o newid wedi bod yn Chwarel lechi y Penrhyn dros y blynyddoedd.

Dewch i ni ddysgu ychydig o’r hanes!

 

1.      Pryd agorwyd y chwarel dan berchnogaeth Richard Pennant?
2.      Yn ei hanterth, faint oedd yn gweithio yn y chwarel?
3.      Erbyn heddiw mae’r chwarel wedi cael ei disodli gan lechi o ble yn bennaf?
4.      O ble oedd y llechi yn cael ei allforio?
5.      Pryd oedd y streic gyntaf yn y chwarel?
6.      Beth oedd yr ail streic yn 1900 yn cael ei galw?
7.      Am faint fu i’r streic bara?
8.      Beth ymddangosodd yn ffenestr tai y rhai wnaeth ddim ‘torri’ y streic?
9.      Pwy oedd un o’r rhai a sefydlodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru?
10.   Beth yw’r prif atyniad hamdden yn y chwarel heddiw?

Choeliwch chi byth, mae clwb Rygbi Bangor wedi bodoli ers dros gan mlynedd ac wedi cynhyrchu chwaraewyr o’r safon uchaf.

Pwy ydynt tybed?

 

1.      Pryd sefydlwyd y clwb?
2.      Sawl chwaraewr sydd mewn tim undeb rygbi?
3.      Beth yw enw eu maes chwarae heddiw?
4.      Pryd symydodd y club i’w maes newydd?
5.      Ble oeddynt yn chwarae gynt?
6.      Beth oedd enw y cae?
7.      Pa dri chwaraewr gynrychiolodd Cymru ar ôl i’r clwb gael ei sefydlu?
8.      Sawl chwaraewr sydd wedi chwarae i Gymru?
9.      I ble yng Nghymru aeth cynrychiolaeth o’r clwb i sefydlu Undeb Rygbi Cymru?
10.   Pryd fu i’r clwb ail sefydlu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf?

Cymysgedd o grefyddau ym Mangor erbyn heddiw.

Dewch i ni weld beth yw rhai ohonynt. 

 

1.      Beth yw’r crefydd mwyaf amlwg ym Mangor, Gwynedd heddiw?
2.      Beth yw’r ail grŵp mwyaf crefyddol ym Mangor?
3.      Pryd fu i Sant Deiniol sefydlu y Gadeirlan?
4.      I ba eglwys mae Cadeirlan Bangor yn perthyn?
5.      Mae sensws 2021 yn cydnabod dau grefydd arall ym Mangor. Beth ydynt?
6.      Yn ôl sensws 2021 faint o Foslemiaid sydd yn byw yn Nghymru?
7.      Ble mae’r rhan fwyaf yn byw?
8.      Ble ma prif ganolfan y Moslemiaid ym Mangor?
9.      Pa ddiwrnod yn yr wythnos sy’n cael ei gyfrif fel diwrnod gweddi pwysig i’r Muslemiaid?
10.   Pa ddau ŵyl arbennig mae’r  Moslemiaid yn ei ddathlu?

Dim Pont y Borth na Phont Britannia. Dynion y Fferis oedd y rhai oedd yn cludo pobl ar draws yr Afon.

Gwaith angenrheidiol a pheryglus iawn.

Nifer fawr o drychinebau!

 

1.      Mi oedd y Fferis yn fwy angenrheidiol yn dilyn pa ddeddf Uno?
2.      Enwch dri lleoliad y Fferies ar lan yr Afon Fenai.
3.      Faint o bobl oroesodd yn dilyn trychineb mawr yn 1785?
4.      Faint foddodd?
5.      Pa ddau beth oedd yn gwneud croesi’r Afon yn beryg?
6.      Sawl llanw sydd i’r Afon bob dydd?
7.      Pan fydd y llanw ar ei isaf be ydy dyfnder yr Afon mewn rhai llefydd?
8.      Faint oedd hi’n gymryd i deithio o Llundain i Caergybi yn 19fed ganrif?
9.      Beth oedd enw’r gwesty ar lan yr Afon Fenai ble byddai teithwyr yn aros cyn croesi?
10.   Fe newidiodd pethau’n sylweddol yn 1826; pam?



 

Bangor wedi rhoi lloches i nifer fawr o Faciwîs amser rhyfel; amser anodd iawn i blant o’r dinasoedd.

 

1.      Beth yw Faciwî?
2.      O ble ddaeth yr Faciwîs i Bangor?
3.      Oddeutu faint o plant ddaeth i Fangor?
4.      Faint o blant symudwyd allan o’r dinasoedd a threfi yng Nghymru?
5.      Pam symud y plant?
6.      Pryd ddaeth y plant i Fangor?
7.      Enwch un ysgol yn Lerpwl o ble ddaeth rhai o’r plant.
8.      Sut fu iddynt gael ei cludo?
9.      Pwy oedd yn gyfrifol am ffeindio cartref iddynt?
10.   Sut oedd y llywodraeth yn cyfeirio at y broses?



 

Sut fuasech chi yn hoffi cael eich rhoi mewn lle diarth ymhell o’ch cartref a gyda rhywun nad oeddech yn ei adnabod. Trist ac ofnus iawn y tybiwn. Dyma’n union  ddigwyddodd i Maurice Giddins o Lerpwl.

Dowch i ni weld beth sydd ganddo i’w ddweud.

 

1.      Pryd y cyhoeddwyd fod yr Ail Ryfel Byd   rhwng yr Almaen a Prydain wedi cychwyn?
2.      Faint oedd oed Maurice pan ddaeth i Fangor?
3.      Beth oedd ei eiddo pan symudodd i Fangor?
4.      O ba stesion yn Lerpwl oedd o’n teithio?
5.      I ba ysgol yn Lerpwl oedd o’n mynd?
6.      Beth oedd enw brawd Maurice?
7.      Ar wahân i frawd Maurice beth oedd enw’r bachgen arall oedd yn lletya hefo, nhw?
8.      Ble oedd toiled y tŷ?
9.      Roedd disgwyl iddynt wneud beth ar ddydd Sul? 
10.   Am faint fu iddynt fyw y eu cartref newydd ym Mangor?

Darganfod olion tai o’r oes Neolithig a thŷ o’r Oes Haearn yn Parc Bryn Cegin ger bentref Llandygai.

Olion Rhufeinig hefyd! Hynod o ddiddorol!

 

1.      Pryd fu i’r Ymddiriedolaeth Archeolegol gloddio’ ym Mharc Bryn Cegin, Llandygai?
2.      Mae ardal Llandygai yn adnabyddus am beth?
3.      Pwy o’r Oes Efydd a ddarganfyddwyd wedi ei gladdu yn y Parc?
4.      Oddeutu pryd y bydd hi/fo fyw?
5.      Beth oedd hi/fo yn ei wisgo?
6.      O ba ardal oedd y mwclis ambr yn debygol o fod wedi dod?
7.      Beth arall oedd wedi ei gladdu gyda’r corff?
8.      Beth oedd y Rhufeiniaid wedi ei adeiladu i warchod y bobl?
9.      O ba gyfnod oedd y fynwent yn tarddu?
10.   Beth sydd ar y safle heddiw?



 

Mae Madoc yn fab i’r brenin Owain Gwynedd sydd wedi ei gladdu yng Nghadeirlan Bangor. Yn ôl Llên Werin mae sôn iddo hwylio i America 300 o flynyddoedd o flaen Christopher Columbus.

Be da chi’n feddwl?

 

1.      Ble ganwyd Madoc?
2.      Faint oedd ei oed pan fu farw?
3.      Beth yw ystyr yr enw Madoc?
4.      Pryd honnwyd iddo hwylio i America?
5.      Pryd fu i Christopher Columbus hwylio i America?
6.      O ble yng Ngogledd Cymru yr honnwyd iddo hwylio?
7.      Daeth stori Madoc yn adnabyddus iawn yn oes ba frenhines?
8.      Oes sail i’r stori fod Madoc a’i cyd-deithwyr wedi ymgartrefu ymysg brodorion cynhenid y wlad?
9.      Pa dref yng Ngogledd Cymru sydd wedi ei henwi ar ôl Madoc?
10.   Pwy yw perchenog y llong o’r enw Prince Madoc sy’n hwylio o pier Porthaethwy?



 

Dyma i chi bentref sydd wedi newid ei enw sawl gwaith!

Pam tybed?

 

1.      Beth yw enw’r afon sydd yn mynd i’r môr ger y pentref?
2.      Pwy newidiodd yr enw i Port Dinorwig?
3.      Pwy newidiodd yr enw yn ôl i Felinheli?
4.      Yn ystod blwyddyn brysur, oddeutu faint o longau oedd yn gadael y porthladd?
5.      I ble yn y byd oedden nhw’n hwylio?
6.      Beth yw enw’r diwydiant cig adnabyddus sy’n gysylltiedig a’r Felinheli?
7.      O pryd mae’r Neuadd Goffa a’r Cloc Coffa’n dyddio?
8.      Beth yw enw eglwys y pentref?
9.      Pwy oedd y pensaer a gynlluniodd yr eglwys?
10.   Pryd adeiladwyd yr eglwys?



 

Faint o’r bobl diddorol a llwyddiannus yma ydych chi’n ei adnabod?

Pob un a chysylltiad a Bangor ac wedi gwneud marc yn eu maes. Dewch i ni weld!

 

1.      Ym mha faes oedd Syr David Brailsford yn adnabyddus?
2.      Beth oedd Dyffy yn ei wneud?
3.      Enwch dri clwb fu Wayne Henessey yn chwarae iddynt.
4.      Enwch dri glwb fu Iwan Wyn Roberts yn chwarae iddynt.
5.      Ym mha gyfresi deledu lwyddiannus yn y 60/70degau bu David Barry (ganwyd yn Meurig Wyn Jones) yn chwarae rhan?
6.      Ym mha gyfres deledu lwyddiannus yn y 80au bu Ben Roberts yn chwarae rhan?
7.      Yn dilyn ymddangos ar ba raglen deledu ddaeth Tammy Jones (ganwyd yn Helen Wyn Jones) yn llwyddiannus.
8.      Periannydd llwyddiannus i ba gwmni ceir oedd Richard Parry Jones?
9.      Pa fath o ganwr yw Aled Jones?
10.   Pa actores Gymraeg fu’n chwarae rhan yn Hedd Wyn, Rebecca’s Daughters a Under Milk Wood?

Roman Camp’ uwchben Ffordd Siliwen! Wyddoch i na fu y Rhufeiniaid erioed yn agos i’r lle.

Dewch inni weld pwy fu yn byw yno ganrifoedd yn ôl.

 

1.      Pwy adeiladodd gaer ar y bryn a elwir y ‘Roman Camp’?
2.      Sut gastell a adeiladwyd yno?
3.      Faint o’r cestyll yma a adeiladwyd yng Nghymru?
4.      Pwy oedd brenin cyntaf y Normaniaid ym Mhrydain?
5.      Ym mha frwydr bu iddo drechu Harold II brenin Lloegr?
6.      O ble oedd y Normaniaid yn tarddu?
7.      Mewn sut dai oedd y bobl gyffredin yn byw yn amser y Normaniaid?
8.      Sut fath o fwyd oeddynt yn ei fwyta?
9.      Beth oedd y ‘Bloody Code’?
10.   Ar wahân i’r brenin beth arall oedd yn dylanwadu ar fywyd y bobl?

Hanes amrywiol a diddorol i’r stad dros y canrifoedd. Pwy fuasai’n meddwl fod Sw wedi bod ar y tir unwaith.

Dewch i ddysgu mwy am ddylanwad y stad ar yr ardal!

 

1.      Pryd fu i Thomas Assheton Smith ddod yn berchen ar stad y Faenol?
2.      Pryd gymerodd o’r cyfrifoldeb am redeg chwarel lechi Dinorwic?
3.      Roedd yn berchen faint o dir yn y cyfnod yma?
4.      Faint o lechi oedd chwarel Dinorwic yn allforio yn 1806?
5.      Pryd fu i fab Thomas Assheton Smith gymryd drosodd Stad y Faenol?
6.      Beth oedd ei hoff ddiddordeb?
7.      Fel ei dad roedd yn daer yn erbyn beth?
8.      Pryd ddaeth George William Duff yn berchennog y stad?
9.      Pwy oedd y prif weinidog a fu’n aros yn y Faenol yn 1888?
10.   Pa fath o anifeiliaid oedd George William Duff yn ei gadw ar y stad ar un adeg?

Yr unig ffordd i groesi o Wynedd i Ynys Môn flynyddoedd yn ôl oedd ar draws Traeth Lafan. Dim Pont y Borth na Phont Britannia. Llanw peryg a chryf pob dydd.

Dewch i ni weld sut le ydy Traeth Lafan.

 

1.      Beth ydy Traeth Lafan?
2.      Beth sy’n digwydd pan mae’r llanw’n uchel?
3.      Beth yw lled yr Afon Fenai ger Biwmaris pan mae’r llanw allan?
4.      Pam mae’r ardal yn cael ei adnabod fel ardal wyddonol bwysig? 
5.      Pwy mae haneswyr yn dyfalu groesodd yma gyntaf i ymosod ar Ynys Môn?
6.      Pryd ddisgwddodd hyn?
7.      Cyn i Bont y Borth a Phont Britannia agor, sut oedd pobl yn croesi’r Afon Fenai?
8.      Beth oedd enw’r llong a suddodd ar Draeth Lafan yn 1831?
9.      Oherwydd y drychineb beth gafodd ei sefydlu ym Mhenmon?
10.   Beth oedd enw y goleudu ym Mhenmon a agorodd yn 1837?

Da ni gyd yn gyfarwydd iawn a’r Afon Fenai ac wedi ei chroesi droeon dwi’n siŵr. Pa mor dda yw ein gwybodaeth am yr afon arbennig yma tybed.

Dewch i ni ddysgu ychydig mwy amdani.

 

1.      Afon yn gwahanu pa ddau le yw’r Afon Fenai?
2.      I ba for mae’r Afon Fenai yn rhedeg?
3.      Rhwng pa ddau fae mae’r afon wedi ei lleoli?
4.      Beth yw hyd yr afon?
5.      Beth yw lled yr afon rhwng Caer Belan a Trwyn Abermenai?
6.      Beth yw lled yr afon rhwng Ynys Seiriol a Penmaenmawr?
7.      Mae dwy bont yn croesi Afon Menai. Pa ddwy?
8.      Pa ffordd sydd yn croesi Pont y Borth a Phont Britannia?
9.      Pa ran o’r afon sydd beryclaf?
10.   Beth oedd enw’r llong hyfforddi a aeth i drafferthion yn 1953?

Rhan fwyaf ohonom yn hoffi bwyta pysgod dwi’n siŵr ac mae’r diwydiant pysgota wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd yr ardal ers canrifoedd.

Dewch i ni weld sut mae pethau wedi newid.

 

1.      I ba gyfnod mewn hanes mae’r diwydiant pysgota yn Bangor yn   dyddio?
2.      Yn nyddiau cynnar y diwydiant roedd Môr Iwerddon yn adnabyddus am ba fath o bysgod?
3.      Enwch ddau fath arall o bysgod a oedd yn  ddigonol yn y cyfnod cynnar.
4.      Yn ystod y Chwildro Diwydiannol, fe ddatblygodd Bangor yn sydyn. Beth oedd y prif reswm?
5.      Beth oedd enw’r harbwr o ble allforwyd y llechi?
6.      Yn y 19eg a’r 20fed ganrif sut fath o longau a gyflwynwyd i gynorthwyo datblygiad y diwydiant pysgota?
7.      Erbyn canol y 20fed ganrif fe welwyd cwymp mawr yn y diwydiant. Beth oedd y prif reswm?
8.      Pa borthladd yn Ne Cymru oedd a gwell cyfleusterau i barhau i lwyddo?
9.      Pam oedd y Porthladd yn Ne Cymru yn llwyddo?
10.   Erbyn heddiw mae’r diwydiant yn gyfyngedig i beth?

Arwahan i’r Llong Clio mi fu llong adnabyddus arall ar yr Afon Fenai yn y 19ed ganrif. Roedd bwriad hon beth bynnag tipyn yn wahanol.

Dewch i ni weld. 

 

1.      Beth oedd pwrpas HMS Conway?
2.      Ble oedd cartref cynta y llong?
3.      Pryd symydodd y llong i’r Afon Fenai?
4.      Pryd fu iddi fynd ar dan?
5.      Pwy oedd yn byw ym Mlas Newydd ar lan yr Afon Fenai?
6.      I ble symudodd yr ysgol ar ol i’r llong gael ei difrodi?
7.      Pa ran o’r Afon Fenai sy’n adnabyddus am lanw troellog a pheryg?
8.      Pryd fu i’r Ysgol Forwrol ym Mhlas Newydd gau?
9.      Mi fu y person cyntaf i nofio rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddisgybl yn yr ysgol. Pwy poedd o?
10.   Mi fu hyfforddwr rygbi Lloegr rhwng 1969-1974 yn ddisgybl yn yr ysgol. Pwy?

Streic Fawr y Penrhyn oedd un o anghydfodau diwydiannol hiraf a mwyaf chwerw yn hanes Prydain.

Teuluoedd a ffrindiau yn cael ei chwalu. Dewch i ddarganfod!

 

1.      Pryd ddechreuodd y streic?
2.      Am faint fu iddi bara?
3.      Faint o chwarelwyr a wrthododd weithio?
4.      Beth oedd y tri brif reswm am y streic?
5.      Faint o chwarelwyr aeth yn ôl i’w gwaith ar ôl 6 mis?
6.      Beth ddigwyddodd oherwydd hyn?
7.      Beth a addawyd i’r chwarelwyr i’w perswadio i fynd yn ôl i’r gwaith?
8.      Pwy oedd yr arwain y chwarelwyr?
9.      Pwy oedd rheolwr y chwarel ar y pryd?
10.   Faint sy’n gweithio yn y chwarel erbyn heddiw?

Lleoliadau

Mae'r modiwlau nesaf yn awgrymu rhai lleoedd y gallech ymweld â nhw i ddysgu mwy am Fangor. Cofiwch y gall pethau newid dros amser felly gwiriwch bob amser gydag oedolyn cyfrifol os hoffech ymweld ag un o'r lleoedd hyn.

Nodyn i Oedolion Cyfrifol: Nid yw Prifysgol Bangor yn gyfrifol am unrhyw leoliadau allanol a awgrymir yn y modiwlau hyn. Gall lleoliadau newid. Gwnewch yn siŵr eich
bod yn gwirio manylion unrhyw leoliadau cyn trefnu ymweliad.

Ydy absenoldeb yn broblem yn ysgolion heddiw? Mi oedd o yn y 19eg ganrif.

Oedd cosb i gael am siarad Cymraeg hefyd! Pam tybed?

 

 
  1. Pwy oedd yn debygol o gael addysg cyn 1870?

  2. Beth oedd iaith swyddogol Cymru yn y 1500?

  3. Beth oedd iaith swyddogol yr Eglwys Pabyddol yn y 1500?

  4. Ble oedd y rhan fwyaf yn dysgu darllen yn y cyfnod yma?

  5. Beth oedd yn digwydd i blant oedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol?

  6. Beth oedd yn cael ei ddefnyddio pan oedd plant yn siarad Cymraeg?

  7. Pwy oedd Prif Arolygwr adran Gymraeg y Bwrdd Addysg yng Nghymru yn 1907?

  8. Roedd absenoldeb yn broblem yn y 19eg ganrif. Beth oedd y rheswm am hyn?

  9. Pwy adawodd dir i adeiladu Ysgol Friars yn 1577?

  10. Ar gyfer pwy sefydlwyd Ysgol Friars i gychwyn?

Gwaith pobl heddiw wedi newid yn sylweddol i be oedd o ganrif a mwy yn ôl. Dychmygwch pa mor galed oedd pethau!

 

 
  1. Pa brif ddiwydiant fyddai bobl yn debygol o ddweud oedd y rhai mwyaf poblogaidd yng Ngwynedd yn hanesyddol?

  2. Enwch dri diwydiant lleol arall

  3. Pa ddefnydd dyfeisgar sydd yn cael ei wneud o dirwedd y chwareli heddiw?

  4. Pa ddiwydiannau traddodiadol sy’n gysylltiedig a Gwynedd ers amser?

  5. Am beth oedd Conwy yn adnabyddus yn y gorffennol?

  6. Am beth oedd dwr Ffynnon Cegin Arthur yn enwog?

  7. Roedd sôn bod beth ar gael yn y dwr?

  8. Beth mae DMM, 2015 yn ei werthu?

  9. Pwy oedd yn defnyddio rhicbren?

  10. Pryd oedd y rhicbren yn cael ei ddefnyddio?

Mi rydym yn dal i glywed am drychinebau rhyfeloedd ar draws y byd hyd yn oed heddiw. Sut oedd pethau yn Bangor yn ystod y Rhyfel Byd 1af a’r Ail Ryfel Byd tybed?

 

 
  1. Faint o filwyr o Gymru fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?

  2. Be gafodd ei hepgor yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1915?

  3. Pryd ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd?

  4. I bwy ddaeth Gogledd Cymru yn gartref tua diwedd 1939

  5. Pwy roddodd rodd o flychau pres boglynnog i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf??

  6. Beth oedd rhaid i bawb ei wneud yn ystod y rhyfel?

  7. Pryd oedd golau beic gyda chaead arno yn cael ei ddefnyddio?

  8. Beth oedd rheng William H Allchia yn ystod y Rhyfel?

  9. Ble oedd darluniau o Oriel Bortreadu Llundain yn cael eu cadw’n ddiogel yn ystod y rhyfel?

  10. Pwy gafodd y tankard am ei waith yn helpu i ddod o hyd i gartrefi i bobl o Lerpwl?

Mae bob offer modern ar gael heddiw i hwyluso gwaith yn y cartref. Dim felly bu hi. Dewch i ni gymharu.

 

 
  1. Mae’r casgliad o wrthrychau sy’n gysylltiedig a’r cartref yn cynnwys tin; i wneud beth?

  2. Nodwch tri peth y byddai bobl cefn gwlad gogledd Cymru yn debygol o’i fwyta cyn 1900.

  3. Pryd fu i drydan gyrraedd rhan fwyaf o bentrefi gogledd Cymru?

  4. Cyn bod trydan beth oedd yn cael ei ddefnyddio i goginio a chynhesu’r tŷ?

  5. Beth fyddai’n cael ei fwyta bron pob dydd?

  6. Cymysgedd o beth yw piwter?

  7. Ers pryd y defnyddiwyd piwter?

  8. Beth gymerodd lle piwter?

  9. Sut byddai siwgr yn cael ei werthu?

  10. Sut oedd yn cael ei ffurfio?

Un o chwaraewyr enwocaf Manchester United wedi chwarae i Fangor. Pwy tybed? Sut ydych chi yn ymlacio heddiw, treulio amser ar y ffôn, yn y gampfa, chwaraeon? Fel mae pethau wedi newid!

 

 
  1. Pa fath o adloniant a geir yng nghefn gwlad yn y gorffennol?

  2. Yn aml, roedd y cymdeithasau yma yn gysylltiedig a beth?

  3. Mwy o beth oedd yn bodoli yn y gorffennol?

  4. Pa fudiad oedd yn sarsio ar i bobl beidio ac yfed diodydd meddwol?

  5. Yn erbyn pwy oedd Bangor yn chwarae yn rownd derfynol Tlws yr FA?

  6. Beth oedd y sgôr terfynol yn y gem ailchwarae?

  7. Pa beldroediwr enwog o Manchester United a chwaraeodd i Fangor yng nghwpan Eingl-Eidalaidd yn 1978?

  8. Am beth oedd Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn yn enwog?

  9. Pa fath o het oedd Morgan Jones yn ei wisgo tua 1880?

  10. Beth oedd snisin?

Fuasech chi yn cerdded yn droednoeth i dderbyn llyfr? Be petasai rhywun yn dweud wrthych na chewch ddawnsio! Felly roedd hi unwaith.

 

  1. Be fu i grwpiau o anghydffurfwyr greu yn yr 16eg ganrif?

  2. Beth ddaeth i Gymru yn y 1730au?

  3. Pwy ddaru gyfieithu y Beibl i Gymraeg?

  4. Beth oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ysgol Sul i ddysgu canu?

  5. Beth oedd yn cael ei ddefnyddio i roi y nodyn cyntaf?

  6. Pwy oedd un o bregethwyr enwog y Methodistiaid Calfinaidd?

  7. Pwy oedd un o brif arweinwyr y mudiad Methodistiaid yng Nghymru?

  8. Pwy gerddodd yn droednoeth am 26 milltir i gael Beibl gan Thomas Charles?

  9. Beth gafwyd wedi ei gladdu mewn clawdd pridd ger Caergybi yn y 1870au?

  10. Am beth oedd y Methodistiaid yn feirniadol iawn?

Nifer o ddiwydianau a oedd ar ei hanterth oddeutu dau gan mlynedd yn ôl ond bellach wedi mynd yn angof bron.

Dewch i ni ddysgu ychydig amdanynt!

 

1.      Pa olion o’r diwydiant llechi a welir yn ardal Bangor heddiw?
2.      Enwch un peth hardd a defnyddiol oedd y chwarelwyr llechi yn ei greu ar gyfer y cartref.
3.      Enwch un o’r addurniadau,
4.      Faint o lechi ysgrifennu gafodd ei gwneud yn Mhorth Penrhyn yn 1778?
5.      Sawl cwmni oedd yn cynhyrchu llechi ysgrifennu ym Mangor yn 1880?
6.      Pam oedd defnyddio llechan ysgrifennu yn ddefnyddiol ar gyfer ymarfer ysgrifennu neu dynnu lluniau?
7.      Yn ble daethpwyd o hyd i deils Rhufeinig?
8.      O ba oes mae bwyell fflat Llanfaglan yn dyddio?
9.      Pwy ddechreuodd gynhyrchu arian ei hun pan yn cloddio copr ar Fynydd Parys ger Amlwch, Ynys Môn?

10.   Sut oedd y chwarelwyr yn paratoi’r graig ar Mynydd Parys i’w chloddio?

 

Mae plismona Heddiw yn wahanol iawn i’r hyn a fu 500 mlynedd yn ôl.

Dewch inni weld be sydd wedi newid.

 

1.      Yn y gorffennol mi all cosb fod yn llym iawn.  Rhowch ddwy enghraifft.
2.      Pwy oedd yn rheoli Llys y Sesiwn Chwarter rhwng 1536 a 1972?
3.      Sut gafodd lleidr ei gosbi gan y llys yng Nghaernarfon yn 1557?
4.      Faint gafodd ei dienyddio rhwng 1822 a 1830?
5.      Beth oedd ei trosedd?
6.      Pan oedd yr heddlu ddim yn gallu ymdopi a helyntion pwy fyddai’n cael ei galw i’w cynorthwyo?
7.      Pan benodwyd T.P.Williams yn Brif Gwnstabl, faint oedd ei gyflog? 
8.      Pwy oedd yn debygol o gael mwy o gyflog na’r Prif Gwnstabl?
9.      Pryd sefydlwyd Heddlu Gogledd Cymru?
10.   Pryd fu i Heddlu Gwynedd ei ailenwi’n Heddlu Gogledd Cymru?



 

Mae Cymru’n falch iawn o’i diwylliant a’i thraddodiadau.

Dewch i ddysgu ychydig mwy am yr amrywiaeth.

 

1.      Pryd bu y chwildro diwylliannol yng Nghymru?
2.      Pam oedd angen gwarchod yr iaith Gymraeg?
3.      Be oedd yn rhan bwysig ym mywyd bobl bob dydd y bobl yng Nghymru?
4.      Pwy ddaru ddyfeisio gwyddor ffug tua 1791?
5.      Pwy wnaethpwyd Corn Hirlas 1907?
6.      Yn draddodiadol pryd defnyddir y Corn Hirlas?
7.      Enillwyd Coron yr eisteddfod gan R Silyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902. Am beth?
8.      Pwy wnaeth y print o Salem?
9.      Pryd mae Caseg Fedi yn cael ei gwneud?
10.   Pwy sefydlodd Urdd Gobaith Cymru?

Doedd bod yn llongwr yn y 18fed ganrif ddim yn fywyd hawdd. Amodau caled dros ben.

Sut fuasech chi yn hoffi’r gwaith?

 

1.      Pa fath o nwyddau oedd yn cael ei fewnforio i borthladdoedd Gogledd Cymru?
2.      Pwy oedd yn dueddol i fod yn berchnogion y llongau?
3.      Newidiodd pethau’n sylweddol yn 1850au; pam?
4.      O pryd mae cynnwys y cwpwrdd ffisig yn dyddio?
5.      Faint o ynnau oedd ar y llong ‘HMS Nile’?
6.      Pryd ysgrifennwyd y derbynneb am nwyddau o’r ‘Susanna May?
7.      I beth oedd y cwyr gwenyn yn cael ei ddefnyddio?
8.      Perthyn i ba long oedd y belen canon?
9.      Beth oedd cost gwreiddiol y llong ‘Colony?
10.   Beth oedd llongwyr yn debygol o gadw yn y blychau bach?

Mae archaeolegwyr, ffermwyr a hynafiaethwyr yn darganfod eitemau amrywiol am fywyd yn y gorffennol yn rheolaidd.

Dewch i ni weld ychydig o enghreifftiau lleol.



 

1.      Beth gyflwynodd Syr Thomas Assheton Smith yn anrheg i’r Brifysgol yn 1884?
2.      Beth oedd rodd David Lloyd George i’r amgueddfa?
3.      Beth oedd yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod o ble oedd eitem archeolegol wedi dod yn wreiddiol?
4.      Roedd y bwyeill llaw cynnar o Ddyffryn Tafwys yn galluogi myfyrwyr i astudio pa gyfnod?
5.      Sut mae’r casgliadau yn cael ei cofnodi heddiw?
6.      Beth oedd yn gwneud arfau’n fwy effeithiol?
7.      Mi fu prinder mwynau mewn rhai ardaloedd yn arwain at beth?
8.      Oddeutu pryd cafodd y fwyell Palstave ei gwneud?
9.      Pryd daethpwyd o hyd i’r cleddyf Rhufeinig yn Segontium?
10.   Pryd canfuwyd yr arch blwm ar Ynys Môn?

Amrywiaeth o gasgliadau diddorol.

Dewch i ni ddarganfod ychydig mwy amdanynt.

 

1.      Beth mae nifer o gasgliadau’r amgueddfa yn ei adlewyrchu?
2.      Ym mha wledydd oedd y cenhadon yn gweithio amlaf?
3.      Pasbort pwy a welir yn y cwpwrdd gwydr?
4.      Pwy oedd yn cael eu herlid yn Rwsia?
5.      Pryd fu iddynt gael eu herlid?
6.      Pryd oedd rhyfel y Boeriaid?
7.      At bwy ysgrifennodd Charles Dickens Lythyr?
8.      Pwy ddaeth a’r arian papur yn ôl o’r Ariannin?
9.      Ble ganfyddwŷd y tomahawk, silwêt, bwledi, a’r medalau?
10.   Pwy maent yn ei anrhydeddu?



 

Dwy bont iconic. Pont Grog y Borth, y bont grog fwyaf yn y byd pan fu iddi agor.

Pont reilffordd Britannia i hwyluso’r daith rhwng Llundain a’r Iwerddon.

 

1.      Cyn 1826, sut oedd teithwyr yn croesi’r Afon Fenai?
2.      Pwy gafodd ei benodi i gynllunio pont grog?
3.      Pam oedd rhaid i’r bont fod o uchder penodol?
4.      Pa mor uchel yw’r bont?
5.      Pwy gynlluniodd Pont Britannia?
6.      Pryd agorwyd Pont Britannia?
7.      Pryd achosodd tan ddifrod mawr i’r bont?
8.      Beth sydd yn gorwedd pob ochr i’r bont?
9.      Beth yw gwerth y papur arian sydd yn dangos llun o Bont Grog Menai?
10.   Pryd gyhoeddwyd y tocyn olaf i groesi Pont Grog Menai?

Fe geir protestio rhywle yn y byd bron yn ddyddiol. Dros y blynyddoedd, mae Cymru wedi chwarae rhan amlwg yn y gweithgareddau yma.

Dewch i ddysgu am rai ohonynt.

 

1.      Rhowch ddau enghraifft o streicio dros hawliau gweithwyr ac anghyfiawnder.
2.      Pa symudiadau yng Nghymru a sefydlwyd oherwydd protestio?
3.      Be ddigwyddodd ar ôl i David Lloyd George ddod yn Brif Weinidog?
4.      Pryd ddechreuodd yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain?
5.      Beth ymddangosodd yn ffenestri rhai tai?
6.      Beth oedd y gân brotest a ganodd Dafydd Iwan yn 1969?
7.      Pryd oedd Rhyfel Cartref Sbaen?     
8.      Am beth oedd Meibion Glyndwr yn adnabyddus?
9.      Pwy sy’n ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg a’r cymunedau Cymraeg yng Nghymru heddiw?
10.   Be drefnwyd yn 1983?

Hen eglwysi’n ddiddorol a hudolus iawn. Tydi Eglwys Sant Tegai ddim yn eithriad. Mae’n werth mynd yno ymchwilio!

 

 
  1. Sawl Eglwys sydd wedi ei adeiladu ar y safle?

  2. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o pa bryd?

  3. Pwy dalodd am adeiladu’r Eglwys bresennol?

  4. Pa berthyn oedd Sant Dafydd, Nawddsant Cymru i Tegai?

  5. Pwy yw’r pedwar Efengylwr sy’n ymddangos ar Ffenestr y Bugail Da?

  6. Sawl cloch sydd yn y Clochdy?

  7. Pwy oedd y Cerflunydd adnabyddus yn oes Fictoria? 

  8. Faint oedd oed yr Archesgob John Williams yn marw?

  9. Fel anrhydedd i bwy y gosodwyd canopi pren ar y bedyddfan yn 1909?

  10. O ble daeth yr organ wreiddiol i’r Eglwys?

Mae’n syndod be ddysgwch wrth edrych ar ddim ond un bwrdd gwybodaeth. Fe ddysgwch lawer mewn cyfnod byr. 

Dewch draw i’r Felinheli i weld drostoch eich hun. Safle: Bwrdd Gwybodaeth dros ffordd i dŷ tafarn Garddfôn

 

  1. Beth oedd yn gwarchod y Caer yn Dinas?

  2. Pa mor hen yw rhai o waliau’r eglwys?

  3. Yn ôl hanes beth ddigwyddodd i’r eglwys wreiddiol?

  4. Be ddigwyddodd yn 1282?

  5. Beth ddigwyddodd i fyddin y Saeson?

  6. Beth fyddai’r porthmyn yn ei wneud yn ‘ardd Sir Fôn’?

  7. Sut oeddynt yn croesi yr afon Fenai?

  8. Bogel i be oedd Dinas yn y 19eg ganrif?

  9. Faint o longau a adeiladwyd?

  10. Be ddigwyddodd i’r sgwner ‘Ordovic’?

Toes dim dwywaith fod John a Ioan yn gweithio’n galed ym mhob tywydd, ac am gyflog bychan iawn maen siŵr. Prin ddigon i gynnal teulu. 

Fuasech chi yn hoffi gwneud y gwaith? Safle: Byrddau gwybodaeth ar ddechrau Lon Las Ogwen ger y siop bysgod Porth Penrhyn.

 

Bwrdd Gwybodaeth - OGWEN

  1. Sawl blwyddyn fu Ioan Bryngwyn
    Bach yn cyfri’r llechi oddi ar y trenau
    ceffyl?

  2. Be newidiodd yn 1879?

  3. Beth oedd yn gael ei roi rhwng y
    bwndeli o lechi ar y sgwneri?

  4. Sawl tunnell o lechi gafodd ei
    allforio yn 1883?

  5. Enwch y dinasoedd i ble oedd y
    llechi yn cael eu hallforio.

Bwrdd Gwybodaeth – DYFFRYN OGWEN

  1. Pryd aeth y llwyth trên olaf o lechi o
    Porth Penrhyn?

  2. Pryd ddechreuodd y teulu Pennant
    adeiladu y porthladd?

  3. Sut oedd y llechi yn cael ei pacio ar
    gyfer y llongau ar ol 1960?

Bwrdd Gwybodaeth - TRAPHONT CEGIN

  1. Sawl wagen lechi oedd yn cael ei
    tynnu gan ddau geffyl?

  2. Pryd fu i’r lein stêm agor?

Mae’r sialens yma fel helfa drysor. Rhaid craffu’n ofalus i chwilio am yr atebion. T

ipyn o hwyl, dwi’n siŵr.

 

 
  1. Pwy ddisgyblion i’r Iesu a enwir yn yr ail ffenest liw?

  2. Beth sydd wedi ei ysgrifennu ar flaen y pulpud?

  3. Beth sydd wedi ei ysgrifennu yng nghanol yr Uchel Allor?

  4. Pryd anwyd Sir Michael Duff Bart?

  5. Pryd oedd John Charles Jones yn Esgob Bangor?

  6. Pwy oedd tad Owain Gwynedd?

  7. Ble yn y Gadeirlan maent wedi ei claddu?

  8. Faint oedd oed y gweinidog Hugh Hughes pan fu farw?

  9. Am faint fu Owen Gwynedd yn Dywysog Cymru?

  10. Pwy oedd ei frawd?

Teithiau Cerdded

Mae'r modiwlau nesaf yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer mynd am dro o amgylch Bangor. Cofiwch wirio gydag oedolyn cyn i chi fynd allan a gofyn a fyddan nhw'n dod gyda chi. Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn gwybod i ble rydych chi'n mynd. Cofiwch y gall pethau newid ac efallai bod y llwybrau a awgrymir yma wedi newid. Peidiwch byth â mynd i unrhyw le sy'n edrych yn anniogel neu os ydych chi'n teimlo'n ansicr amdano. Mae digon o lwybrau eraill o amgylch Bangor y gallwch eu defnyddio i archwilio'r ardal hefyd.

Dewch ar daith odidog i ddarganfod mwy am yr ardal a mwynhau y golygfeydd bendigedig.

 

Cychwyn ar rodfa Hirael a gwneud eich ffordd i Borthladd Penrhyn. Mae’r daith yn gorffen yma. Efallai yr hoffech barhau ar hyd Ffordd Ogwen i Glasinfryn a hyd yn oed i Bethesda. Mwy o fyrddau gwybodaeth ar y ffordd!

 

Bwrdd Gwybodaeth – Isidore Wartski

  1. Rhowch un disgrifiad o sut mae’r ardal yn cael ei ddisgrifio amser maith yn ôl?

  2. Ble ganwyd Isidore Wartski?

 

Bwrdd Gwybodaeth – Porth Penrhyn

  1. Rhowch un rheswm beth oedd yn gyfrifol am ddatblygiad Hirael yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif?

 

Bwrdd Gwybodaeth – Abercegin Porth Penrhyn (Yn ymyl y bont wrth y siop bysgod).

  1. Beth newidiodd yn 1879?

Y fainc ddur

  1. Beth sydd wedi ei ysgrifennu ar y fainc?

 

Bwrdd Gwybodaeth – Adar Dyffryn Cegin

  1. Enwch dri aderyn a welir yn y dyffryn

 

Bwrdd Gwybodaeth – Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

  1. Ym mha wlad oedd y planhigfeydd siwgr?

  2. Pa fath o longau oedd yn allforio’r llechi ar y dechrau?

  3. Pryd aeth y llwyth llechi olaf o Borth
    Penrhyn?

 

Bwrdd Gwybodaeth – Ogwen (mae ar y bont ond yn hawdd ei fethu)

  1. Sawl wagen lechi oedd dau geffyl yn ei dynnu?

Dewch am dro i lawr stryd fawr Bangor ac fe ddysgwch llawer ar y ffordd. Angen edrych i lawr yn ofalus ar y ‘Llinell Amser’. Digon o lefydd am luniaeth wedyn.

 

Cychwyn yn ymyl y Gadeirlan ger ‘Llinell Amser Bangor’ a dilynwch y placiau i lawr y stryd fawr. Mae’r daith yn gorffen wrth stryd Dean. Efallai yr hoffech ymweld a’r Gadeirlan a/neu Storiel a chwblhau mwy o fodiwlau.

 

1.Pa mor hen yw’r pennau saethau Fflint?

2.Pryd oedd y Rhufeiniaid yn yr ardal?

3.Pryd ddarganfyddwŷd celc o arian y Llychlynwyr?

4.Pryd sefydlwyd Ysgol Friars?

5.Pryd agorwyd Ysbyty Môn ac Arfon?

6.Pa afiechyd gychwynnodd yn 1850?

7.Pryd adeiladwyd y cloc?

8.Pryd ddaeth y BBC i Bryn Merllyn?

9.Pa grŵp pop enwog a fu yn ymweld a Bangor yn 1967?

10.Pryd ddaeth y fflam Olympaidd i Fangor?

Dewch i fwynhau golygfeydd godidog a gorffen ar bier unigryw y ddinas. Tipyn mwy o her i’r daith yma!

 

Cyn cychwyn neu ar ôl dychwelyd efallai yr hoffech ymweld a’r Gadeirlan a/neu Storiel a chwblhau mwy o fodiwlau.

 

Yn y maes parcio: Cerddwch ymlaen i gyfeiriad y ddinas. Fe welwch Storiel ar y chwith. Efallai yr hoffech ymweld a Storiel i gwblhau modiwl 1 -6

 

1.Beth yw enw’r ardd sydd ar y dde?

2.Beth yw’r dyddiad sydd ar y fynedfa i’r ardd?

 

Daliwch i gerdded i gyfeiriad y stesion bysiau.

 

1.Pryd adeiladwyd yr adeilad ble mae swyddfeydd Cyngor y ddinas?

2.Fe welwch sawl arwydd i feicwyr a cherddwyr ar y ffordd; Beth sydd wedi ei ysgrifennu ar yr arwydd?

 

Ewch yn ôl i gyfeiriad gorsaf yr heddlu a cerddwch at y ffordd fawr cyn troi i’r chwith i’r y groesfan.

 

1.Pwy gyflwynodd y ffynnon ddŵr i’r ddinas?

2.Beth yw’r dyddiad sydd ar dalcen cefn Storiel?

 

Croeswch yn ofalus a cerddwch gyfochrog a ffordd yr A5 a dilyn llwybr y parc newydd; trowch i’r chwith a dilyn y grisiau i Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf. Trowch i dde a cherdded at Ffordd Meirion. Ewch heibio’r B.B.C a chroesi’n ofalus i’r llwybr troed/beics. Ar ol cyrraedd ffordd Siliwen fe welwch fwrdd gwybodaeth ar y chwith!

 

1.Beth a elwir y prosiect?

2.Beth a osodwyd yn y cae ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1931?

 

Gwnewch eich ffordd i lawr Ffordd Siliwen at Pier Bangor.

 

1.Pryd adferwyd y pier?

2.Pwy oedd y Peiriannydd Sifil a fu’n gyfrifol am adfer y pier?

 

Pa mor graff ydych? Tipyn o helfa drysor yw’r daith yma. Dyddiadau yw’r atebion i’r holl gwestiynau. Edrychwch yn ofalus ar yr adeiladau o’ch cwmpas.

 

1.Pryd adeiladwyd y cloc?

 

Gwnewch eich ffordd i lawr y Stryd Fawr.

 

1.Pryd sefydlwyd Banc yr HSBC?

 

Cariwch ymlaen i lawr y Stryd Fawr

 

1.Beth yw’r dyddiad ar y Plac Canada – Awstralia ar adeilad y Jubilee?

 

Wrth dy tafarn y Skerries trowch i’r chwith i lawr Ffordd Glynne ac wedyn i’r chwith ar ôl cyrraedd y Ffordd Fawr (A5)

 

1.Beth yw’r dyddiad ar hen adeilad Llain Deiniol?

 

Dilynwch y palmant am rhyw 300m tan cyrraedd y ffynnon ar gornel Ffordd Gwynedd.

 

1.Pryd gyflwynwyd y ffynnon i’r ddinas?

2.Beth yw’r dyddiad ar dalcen Storiel?

 

Ewch i lawr Ffordd Gwynedd i gyfeiriad y llyfrgell.

 

1.Pryd fu i’r llyfrgell agor?

 

Gwnewch eich ffordd i gyfeiriad y Gadeirlan.

 

1.Pryd adeiladwyd y porth i’r Ardd Beiblaidd?

 

Ewch i gyfeiriad yr orsaf bysiau.

 

1.Pryd adeiladwyd neuadd Cyngor y Ddinas?

 

Gorffennwch y daith wrth y cloc.

 

1.Pryd adnewyddwyd y cloc?

 

Lluniau

Mi fyddwch angen cymorth gan rhywun sydd yn adnabod Bangor yn dda. Aelodau hun y teulu neu ffrindiau. Taid a Nain o bosib. Tasg i wneud gyda’ch gilydd.

 

Beth oedd wedi ei leoli yma flynyddoedd yn ôl? 

 

Pa rhif sy’n cyfateb i’r llun cywir ar y tudalennau nesaf:

  1. Ysbyty Môn ac Arfon

2. Cae Rygbi Dinas Bangor

3. Pictiwrs y Plaza

4. Caeau Chwarae Coleg y Normal

5. Pictiwrs y 'City'

6. Canolfan didoli a dosbarthu y Swyddfa Bost

7. Cae Peldroed Dinas Bangor

8. Ysbyty Dewi Sant

9. Canolfan Siopa Wellfield

10. Woolworths

 

Llun A 

Boots store Bangor

 

Llun B 

High rise block of flats

 

Llun C 

Yellow brick building on high street

 

Llun Ch

Menai Shopping Centre Bangor

 

Llun D

Old Post Office Bangor

 

Llun Dd

Parking space surrounded by two cars

 

Llun E

Treborth Football field and adjoining car park

 

Llun F 

Fitness First and Go Outdoors

 

Llun Ff 

Asda Supermarket Bangor

 

Llun G 

Tesco Supermarket Bangor

 

Mi fyddwch angen cymorth gan rhywun sydd yn adnabod Bangor yn dda.

Aelodau hun y teulu neu ffrindiau. Taid a Nain o bosib. Tasg i wneud gyda’ch gilydd.

 

Pa rhif sy’n cyfateb i’r llun cywir. 

  1. Pontio
  2. Eglwys Gadeiriol
  3. Storiel
  4. Stesion
  5. Hen Westy Siôr
  6. Colofn Goffa y Prifysgol
  7. Hen Neuadd y Farchnad
  8. Eglwys Sant Tegai
  9. Llyfrgell
  10. Pwll Nofio

 

Llun A 

Old George Hostel Bangor

Llun B 

Bangor Library

Llun C 

Saint Tegai's Church Bangor

Llun CH 

Storiel

Llun D 

Bangor City Cathedral

Llun DD 

Hen Neuadd Y Farchnad Bangor

Llun E

Bangor Baths

Llun F 

Memorial Arch Bangor

Llun FF 

Bangor Railway Station

Llun G 

Pontio

Rhywbeth i’r teulu i gyd. 

Mi fyddwch angen cymorth gan rhywun sydd yn adnabod Bangor yn dda. Tasg i wneud gyda’ch gilydd.

 

Pa rhif sy’n cyfateb i’r llun cywir? 

  1. Y Crematoriwm
  2. Mynedfa i’r Ardd Beiblaidd
  3. Canolfan Deiniol
  4. Teras Glandŵr (Tai ar gyfer y Dosbarth Canol yn y 19ganrif)/
  5. Safle’r Gwesty’r Penrhyn Arms, cartref cyntaf Prifysgol Bangor
  6. Prif fynedfa i Gastell Penrhyn
  7. Prif fynedfa i Stad y Faenol
  8. Yr Hen Coleg Normal
  9. Cerrig yr Orsedd
  10. Yr Hen Canonri/Amgueddfa ac Ysgol Breswyl Breifat

 

Llun A

Bangor University Old College

Llun B 

Bangor Green Fields

Llun C 

Bangor Crematorium

Llun CH 

Entrance to Penrhyn Castle Bangor

Llun D

Building next door to Bangor Cathedral

Llun DD

Deiniol Centre Bangor

Llun E 

Entrance to Bible Garden Bangor

Llun F 

Bangor Museum and ex Independent School

Llun FF

Entrance to Vaynol Estate

Llun G 

Penrhyn Arms Hotel Bangor

Rhywbeth i’r teulu i gyd. 

Pa mor dda yw eich daearyddiaeth o’r ardal? Dyfalwch ble tynnwyd y lluniau yma. 

 

Pa rhif sy’n cyfateb i’r llun cywir? 

  1. Safle’r Hen Coleg ar Ffordd Siliwen/Old College Site on Siliwen Road
  2. Allt Coed Mawr/Top of Coed Mawr Hill
  3. Pier Bangor/Bangor Pier
  4. Teras y Prifysgol/University Terrace
  5. Porth Penrhyn/Penrhyn Port
  6. Tir Castell Penrhyn/Penrhyn Castle grounds
  7. Rhodfa Hirael/Hirael Promenade
  8. Y feddygfa yn Felinheli/Surgery in Felinheli
  9. Parc Bryn Cegin/Bryn Cegin Park
  10. O flaen Tafarn Garddfon Felinheli/In front of Garddfon Pub Felinheli

 

Llun A 

Road down to Felinheli Surgery

Llun B 

Looking out to sea Felinheli

Llun C 

Bryn Cegin Park Bangor

Llun CH

Penrhyn Port Bangor

Llun D

Hirael Promenade

 Llun DD

Bangor Pier

Llun E 

Old College Site Siliwen Road

Llun F 

Top of Coed Mawr Hill

Llun FF 

Penrhyn Castle Grounds

Llun G 

Bangor University Terrace