
Dr Iwan Llewelyn-Jones a'r Athro Angharad Price (Prifysgol Bangor)
Mae 2024 yn nodi can mlynedd a hanner ers i’r cyfansoddwr Rwsiaidd Modest Mussorgsky (1839-1881) gyfansoddi ei waith piano unawdol arloesol ‘Pictures at an Exhibition’ (1874). Mae’r casgliad rhyfeddol hwn o ddarnau byr yn rhedeg y gamut o fynegiant pianistaidd ac fe’u hysbrydolwyd gan gyfres o baentiadau a grëwyd gan y pensaer/arlunydd Viktor Hartmann (1834-1873) sy’n cynnwys cipluniau diddorol o dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol Rwsia ar draws y 19eg ganrif.
Wedi’i ddisgrifio gan y pianydd Rwsiaidd Sviatoslav Richter, a roddodd dros 100 o berfformiadau o ‘Pictures’ yn ystod ei yrfa, fel ‘un o’r goreuon, os nad y gwaith piano mwyaf nodedig yn y repertoire Rwsiaidd’, mae’r campwaith hwn hefyd wedi swyno cynulleidfaoedd cyngherddau ledled y byd, yn enwedig drwy trawsgrifiad cerddorfaol meistrolgar Maurice Ravel (1922).
Mae pianyddion a cherddolegwyr wedi dadansoddi a meddwl yn ddwys am ymagwedd hynod unigol ac arloesol Mussorgsky at dechneg piano a seinyddiaeth pianistaidd. Yn y seminar hon, bydd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn ymuno â’r awdur Angharad Price i ddadbacio’r gwaith diddorol hwn mewn archwiliad o’i themâu, harmonïau, ynganiadau, deinameg, elfennau perfformio eraill, ac i fynd i’r afael â’r cyd-destun ehangach.
Yn 2024, comisiynwyd y cyfansoddwr Albanaidd Gemma McGregor i gyfansoddi darn newydd mewn ymateb i’r darn olaf ond un yn ‘Pictures at an Exhibition’: ‘The Hut of Baba-Yaga’. Bydd darn Gemma, ‘In Pursuit’, yn cael ei berfformio gan Iwan Llewelyn-Jones yn ystod y seminar hon.