Barddoniaeth mewn Trosiadau Trawsatlantig: Ymwneud Rhwng Ieithoedd
Cynhadledd
Bydd beirdd a chyfieithwyr blaenllaw yn dod i Brifysgol Bangor am gynhadledd ryngwladol a fydd yn archwilio rhan cyfieithu wrth lunio cydberthnasau rhwng barddoniaeth Ewrop ac America, yn enwedig mewn traddodiadau modernaidd ac arbrofol. Wrth edrych ar sut mae barddoniaeth mewn gwahanol ieithoedd yn croesi’r Iwerydd, bydd y gynhadledd yn cloriannu'r cyferbyniadau a’r tensiynau yn ogystal â’r synergeddau, y cysylltiadau presennol a'r potensial i gydweithredu a chreu cysylltiadau newydd.
Cynhelir Barddoniaeth mewn Cyfieithiadau Trawsatlantig: Ieithoedd yn Cyfarfod o’r 14eg tan yr 17eg o Fehefin. Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a darlleniadau barddoniaeth cyhoeddus am ddim. Ymhlith y siaradwyr mae’r bardd Coreaidd-Americanaidd Don Mee Choi, y bardd a’r cyfieithydd Johannes Göransson, y bardd o Giwba Víctor Rodríguez Núñez, y cyfieithydd Katherine Hedeen, a’r bardd Forrest Gander sydd wedi ennill Gwobr Pulitzer. Trefnir y gynhadledd gan yr Athro Zoë Skoulding o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Ieithoedd, mewn cydweithrediad â Dr Dan Eltringham o Brifysgol Sheffield. Fe’i hariennir gan yr AHRC a’r Academi Brydeinig.
Nosweithiau barddoniaeth:
Dydd Mawrth y 14eg o Fehefin 7pm Yr Auckland Arms, Porthaethwy
Cyflwynir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Am ddim.
Barddoniaeth yn yr Auckland
Noson o farddoniaeth ryngwladol (yn yr awyr agored os yw hi’n braf), yn cynnwys:
Gerardo Beltrán (Mecsico/Gwlad Pwyl)
Juana Adcock (Mecsico/Yr Alban)
Jean Portante (Lwcsembwrg/Ffrainc-yr Eidal)
Ellen Dillon (Iwerddon)
Rebecca Kosick (DU/UDA)
Ghazal Mosadeq (Iran/Canada/DU)
Dydd Mercher y 15fed o Fehefin 6.30pm Pontio PL2
Barddoniaeth Ar Draws Cefnforoedd
Cyflwynir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Am ddim.
Julia Fiedorczuk ac Alan Holmes: Psalmy/Psalms
Ymddangosodd y cydweithrediad hwn rhwng y bardd Pwylaidd Julia Fiedorczuk a’r cerddor o Gymru Alan Holmes yn wreiddiol fel CD a gynhwyswyd gyda chasgliad Julia Psalmy 2014-2017. Mae’r cerddi, a gyflwynir gyda chyfieithiad gan Bill Johnston (UDA), wedi’u hysbrydoli’n fras gan Salmau’r Hen Destament wedi’u dehongli mewn cyd-destun seciwlar, ecolegol. Mae’r project wedi’i ddatblygu rhwng Porthaethwy yng ngogledd Cymru, Warsaw (Gwlad Pwyl) a Korčula (Croatia), gyda recordiadau ychwanegol o blaned Iau, Sadwrn, Neifion, Wranws a Phlwton (trwy garedigrwydd NASA).
Darlleniad Barddoniaeth: Vincent Broqua a Jay Gao
Bardd a chyfieithydd barddoniaeth o ogledd America yw Vincent Broqua yr enillodd ei lyfr diweddaraf Photocall, projet d’attendrissement y Prix du Roman Gay 2021 (barddoniaeth). Cyhoeddir cyfieithiad Saesneg o’i farddoniaeth gan Cole Swensen o dan y teitl Recover gan Wasg Pamenar yn ddiweddarach eleni. Mae'n athro llawn yn yr Université Paris 8.
Mae Jay Gao yn fardd Albanaidd Tsieineaidd, yn awdur ffuglen, ac wedi cyhoeddi tri phamffled o farddoniaeth. Mae ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Imperium (2022), ar fin cael ei chyhoeddi gan Carcanet Press. Mae'n Olygydd Cyfrannol The White Review, ac wedi cael ei dderbyn yn fyfyriwr ymchwil PhD yn Adran Saesneg a Llenyddiaeth Gymharol Prifysgol Columbia. Mae'n gorffen MFA mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Brown ar hyn o bryd.
Zoë Skoulding ac Oana Avasilichioaei: Môn_Mesh_Tréal: Perfformiad Seinofarddonol
Mewn cyfnewidiad o farddoniaeth a sain rhwng Ynys Môn a Montréal, a ddatblygwyd fwy neu lai yn ystod y cyfyngiadau symud ac a gyflwynir yn fyw am y tro cyntaf yma, mae Zoë Skoulding ac Oana Avasilichioaei yn archwilio traddodiad dwyieithog eu priod ynysoedd. Yng nghanol y Gymraeg, y Ffrangeg, a'r pellteroedd cefnforol rhwng cyfandiroedd ac ieithoedd, maent yn darganfod presenoldeb diriaethol: rhwng Ynys Môn a Montréal mae môr, mae mater. Mae ieithoedd ac egni yn gwthio trwy wyneb y Saesneg i'w wneud yn ofod o wead anwastad, anghysur ac anghyfarwydd.
Dydd Iau yr 16eg o Fehefin 6.30pm Pontio PL2
Cyflwynir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Am ddim.
Croesfannau’r Iwerydd: Darlleniad Barddoniaeth
Don Mee Choi, Forrest Gander a Víctor Rodríguez Núñez, gyda chyfieithiadau gan Katherine M. Hedeen, Johannes Göransson, Grug Muse
Mae Don Mee Choi yn enedigol o Seoul, De Korea, ac yn awdur y casgliad DMZ Colony (Wave Books, 2020) a enillodd y Wobr Llyfrau Cenedlaethol, Hardly War (Wave Books, 2016), The Morning News Is Exciting (Action Books, 2010), a sawl pamffled o gerddi ac ysgrifau. Mae hi'n gymrawd MacArthur a Guggenheim 2021. Mae hi'n gyfieithydd nodedig o farddoniaeth gyfoes gan feirdd benywaidd Corea.
Bardd, nofelydd, ysgrifydd a chyfieithydd Americanaidd yw Forrest Gander y mae ei gasgliadau barddoniaeth diweddar yn cynnwys Twice Alive (2021). Ymhlith ei wobrau llenyddol niferus mae Gwobr Barddoniaeth Pulitzer 2019, a enillodd am ei gasgliad Be With (2018). Mae ei gerddi yn aml yn defnyddio dirnadaeth o ddaeareg ac yn sôn am dirweddau, y mae'n eu trin fel lleoliad sylfaenol neu ffynhonnell weithredu. Mae wedi cyfieithu barddoniaeth Gozo Yoshimasu, Coral Bracho, Pablo Neruda ac Alfonso D'Aquino ymhlith eraill. Mae'n byw yng Nghaliffornia.
Mae cyfieithiadau diweddaraf Katherine M. Hedeen yn cynnwys Book of the Cold gan Antonio Gamoneda (World Poetry Books), prepoems in postspanish and other poems gan Jorgenrique Adoum (Action Books), a from a red barn gan Víctor Rodríguez Núñez (co•im•press). Mae hi'n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Kenyon ac yn Rheolwr-olygydd Action Books. Mwy o wybodaeth: www.katherinemhedeen.com
Mae gan y bardd Ciwbaidd Víctor Rodríguez Núñez dros saith deg o gasgliadau o'i farddoniaeth wedi'u cyhoeddi ledled y byd. Mae wedi derbyn gwobrau sylweddol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae ei gerddi dethol wedi eu cyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd. Ei lyfr diweddaraf mewn cyfieithiad Saesneg yw from a red barn (co•im•press, 2020) Mae'n rhannu ei amser rhwng Gambier, Ohio, lle mae'n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Kenyon, a Havana, Ciwba. Mwy o wybodaeth: www.victorrodrigueznunez.com
Ganed Johannes Göransson yn Sweden ac mae bellach yn byw yn South Bend, Indiana, lle mae'n dysgu ym Mhrifysgol Notre Dame. Mae’n awdur wyth o lyfrau, gan gynnwys POETRY AGAINST ALL, The Sugar Book a Transgressive Circulations: Essays on Translation, a llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, Summer. Mae'n gyfieithydd nifer o feirdd, gan gynnwys Aase Berg, Ann Jäderlund, Helena Boberg, Kim Yideum ac Eva Kristina Olsson.
Mae Grug Muse (1993) yn fardd ac ysgrifwraig sy’n gweithio’n bennaf trwy’r Gymraeg. Mae hi wedi ysgrifennu i’r Guardian, Poetry Wales, O’r Pedwar Gwynt a Planet. Mae hi’n un o gyd-olygyddion Welsh (Plural) (2022, Repeater), casgliad o ysgrifau sy’n dychmygu Cymreictod neilltuol ond cynhwysol. Cyhoeddwyd ei hail gasgliad o farddoniaeth, merch y llyn, yn 2021. Mae ganddi ddinasyddiaeth Americanaidd a Phrydeinig, ac mae ei gwaith yn archwilio themâu o gwmpas dwyieithrwydd, ecoleg a ffeminyddiaeth.
Dydd Gwener yr 17eg o Fehefin 6pm Pontio PL2
Cyflwynir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Am ddim.
Pamenar yn cyflwyno: Rhys Trimble, Mau Baiocco, Emma Gomis, Jèssica Pujol Duran, James Wilkes ac E. Tracy Grinnell
Mae Pamenar Press yn gyhoeddwr trawsddiwylliannol, amlieithog, arbrofol annibynnol gyda swyddfeydd yn y DU, Canada ac Iran. Bydd y darlleniad hwn, a gyflwynir gan y cyhoeddwr Ghazal Mosadeq, yn dathlu ystod o gyhoeddiadau diweddar a rhai sydd ar y gweill.