Coping with flight cancellations in a post-COVID world: What are my consumer rights?
Bydd y gweithdy digwyddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau project ar hawliau defnyddwyr a hediadau a ganslwyd oherwydd COVID. Dilynir hyn gan sgyrsiau gan arbenigwyr hawliau defnyddwyr am yr hyn y gall teithwyr ei wneud pan fydd eu hediadau'n cael eu canslo, a ffyrdd posibl o wneud iawn am hynny. Gall cynrychiolwyr y cwmnïau hedfan rannu sut maen nhw'n ymateb i'r argyfwng hwn a rhoi trosolwg o'r newidiadau diweddar i bolisïau canslo hediadau. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y mynychwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i aelodau’r panel. Rhagwelir y bydd gan y mynychwyr well dealltwriaeth o'u hawliau fel teithiwr awyr a sut mae'r cwmnïau hedfan yn delio â'r argyfwng, a fydd o ganlyniad yn gwneud teithio yn llai brawychus.
Yn ystod pandemig COVID-19 cafodd niferoedd anhygoel o hediadau eu canslo, a hyd yn oed yn y cyfnod hwn pan fo pethau’n dod yn ôl i drefn, mae teithwyr yn dal i wynebu aflonyddwch ac dioddef y canlyniadau (e.e., siom, straen, cost anadferadwy, gwyliau coll). Mae ein hymchwil, a ariennir gan LAWPL, yn datgelu bod gan ddefnyddwyr ymwybyddiaeth isel o'u hawliau defnyddwyr a'r ffyrdd o gael iawndal am sefyllfaoedd o’r fath. Canfuwyd bod defnyddwyr yn ymddiried yn gyffredinol mewn cwmnïau hedfan i ofalu amdanynt, ond cafodd rhai defnyddwyr brofiadau negyddol o hawlio ad-daliad a chawsant eu hannog i dderbyn talebau teithio neu i ailarchebu. Oherwydd y diffyg gwybodaeth am sut i hawlio ad-daliadau, mae rhai wedi cael eu gadael ar eu colled.
Er bod cyfyngiadau teithio wedi'u codi a bod rheoliadau teithio'n mynd yn llai cymhleth, mae canslo hediadau’n parhau i fod yn broblem fawr i lawer o deithwyr. Mae'n hanfodol i ddefnyddwyr a chwmnïau hedfan gael deialog ar y mater hwn. Bydd y digwyddiad hwn, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n mynychu ddeall eu hawliau defnyddwyr fel teithwyr awyr ac i gwmnïau hedfan estyn allan at ddefnyddwyr.
Carmela Bosangit, Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd
Sara Drake, Darllenydd yng Nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Chyfraith Cystadleuaeth yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd
Dr Charlotte Rimmer, Darlithydd ac Ymchwilydd Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor.