Darganfod Diwylliant Tsieina – Gweithdai Amser Cinio Am Ddim!
Mahjong ar Waith: Strategaeth, Sgil a Chyd-destun Diwylliannol Sesiwn 2
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol a hamddenol amser cinio sy’n dathlu harddwch celfyddydau a chrefftau Tsieineaidd. Bob wythnos, cewch gyfle i archwilio sgil draddodiadol wahanol, dan arweiniad tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Mynediad: Am ddim – nid oes angen cofrestru
Mynediad i bawb: Ar sail y cyntaf i’r felin
Mae’r sesiwn ddilynol hon yn adeiladu ar y gweithdy cyflwyniadol, gan ganiatáu i gyfranogwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o Mahjong drwy chwarae estynedig.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Cryfhau eich dealltwriaeth o’r rheolau a’r teils
- Magu hyder drwy chwarae dan arweiniad
- Dysgu strategaethau sylfaenol
- Profi Mahjong fel gweithgaredd cymdeithasol a diwylliannol