Mae Dr Alexander Shinn yn Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Mae wedi perfformio'n eang fel unawdydd gyda cherddorfeydd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau i lawer o glod beirniadol. Mae beirniaid wedi disgrifio ei chwarae fel "cain", "nobl", "sensitif", a "gwych" (Badische Zeitung). Cafodd ei ganmol am ei allu i greu "hwyliau hudol" a "lliwiau cyfoethog", ac fe'i disgrifiwyd fel "bardd wrth y piano".
RHAGLEN:
François Couperin (1688–1733): Detholiadau o "Pièces de clavecin" (Les barricades mystérieuses; Les ombres errantes ; La visionnaire)
Ludwig van Beethoven (1770–1827): Sonata yn A-fflat Fawr, op. 110
Frédéric Chopin (1810–1849): Ffantasi yn F leiaf, op. 49
Isaac Albeniz (1860–1909): Detholiadau o "Iberia" (Evocación; El Puerto)
Claude Debussy (1862–1918) : Reflets dans l'eau o "Delweddau", Bk. 1 a L'lsle joyeuse
![Dun mewn crys piws a gwallt byr yn llwydo tn edrych i'r dde. Rhydym yn ei weld mewn profil o'r cefn, ac yn gweld allweddellau'r piano, ond mae gweddill y llun yn ddu.t with short gerying hair plays piano and looks to the right, so we see his face in profile from the back, we see him and the piano keys the rest is black.](/sites/default/files/styles/16x9_1100w/public/2023-01/MusicatBangor%20Shinn%20distanceDSC_4204.jpg?h=a7077a5c&itok=FA8AM5Fb)
Datganiad Cyhoeddus: Alexander Shinn, ‘Les Barricades Mystérieuses (The Mysterious Barricades) – Beethoven, Chopin, Debussy, Couperin a mwy Datganiad Cyhoeddus am ddim gan Alexander Shinn
Yn y datganiad piano hwn bydd Alexander Shinn yn archwilio gweithiau o'r cyfnod Baróc hyd at y presennol, lle mae cyfansoddwyr wedi ceisio cyfleu cyflwr anffynadwy o realiti - un sy'n annibynnol o le ac amser.