DAW GŴYL AMGUEDDFEYDD CYMRU 2025 I AMGUEDDFA HANES NATUR BRAMBELL, PRIFYSGOL BANGOR
Mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn falch o gymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, sy’n cynnig digwyddiadau rhad ac am ddim ledled Cymru, sy’n addas i'r holl deulu yn ystod hanner tymor yr Hydref, tra hefyd yn dathlu hanes cyfoethog a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymru.
Fel rhan o'r ŵyl eleni, bydd yr Amgueddfa ar agor ar y Dydd Sadwrn, 25 o Hydref rhwng 11yb i 3yp. Dyma gyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yna.
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r myfyrwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.
Nid oes angen cofrestru.
Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiriadau ar gael ar y gwefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf