Ymunwch â ni am ddiwrnod creadigol a theuluol ar ddydd Sadwrn 31 Hydref yn yr Amgueddfa Byd Natur yn Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.
Gweithdai Ffeltio gyda Nodwydd i Blant (8–12 Oed)
Bydd yr artist lleol Elen Williams yn arwain dau weithdy ymarferol, lle caiff plant gyfle i ddysgu ffeltio gyda nodwydd er mwyn creu eu Bwystfilod Bach eu hunain, wedi eu hysbrydoli gan y natur a'r sbesimenau diddorol sydd i’w cael yng nghasgliadau'r Amgueddfa.
Amseroedd y Gweithdy:
· 10:00am – 12:00pm
· 1:00pm – 3:00pm
Nifer y llefydd: Dim mwy na 10 plentyn ym mhob sesiwn
💷 Yn rhad ac am ddim
Rhaid archebu (Noder bod rhaid i bob plentyn fod ag oedolyn gyda nhw drwy gydol yr ymweliad.)
Ariennir y digwyddiadau hyn drwy gyllid grant gan Lywodraeth Cymru drwy Dîm Amgueddfeydd yr Adran Ddiwylliant, a chan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Diogelu'r Gorffennol. Ysbrydoli'r Dyfodol. Cefnogwch Ni.