Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Mercher, 11 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Allanol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do yn Powis os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:45am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.