Bydd yr amgueddfa ar agor ddydd Sadwrn, 13 Mehefin, o 10am i 4pm, gan gynnig gweithgareddau am ddim sy'n addas i’r teulu cyfan.
Bydd awr dawel ddynodedig yn digwydd rhwng 10am ac 10.45am.
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i archwilio Amgueddfa Byd Natur y Brifysgol a dysgu mwy am y sbesimenau sydd ar ddangos.
Mae’r Casgliad Swoleg yn cynnwys tua 40,000 o eitemau, gyda thua 500 ohonynt yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Byd Natur yn Adeilad Brambell. Wedi'i ddatblygu'n wreiddiol fel adnodd addysgu, ac yn dal i gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw hyd heddiw, mae'r casgliad rhyfeddol hwn yn parhau i ysbrydoli'r brifysgol a'r gymuned ehangach.
Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys sgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn, wyau, a sbesimenau wedi'u cadwoli mewn jariau gwirodydd. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys cyrn elc 7,500 oed o Iwerddon, sgerbwd cythraul Tasmania, oen gyda dau ben, amrywiaeth o adar o Seland Newydd, a chrwban o’r Galapagos. Mae rhai o'r rhywogaethau a ddangosir bellach mewn perygl, megis y kakapo o Seland Newydd. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr siarad â myfyrwyr a fydd ar gael i ateb cwestiynau.
Mae Amgueddfa Byd Natur Brambell yn Adeilad Brambell yn arddangos sbesimenau o gasgliadau sŵoleg a daeareg y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys sgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn, entomoleg, molysgiaid, sbesimenau wedi'u cadwoli mewn jariau hylif, ffosiliau a mwynau. Mae'r casgliadau hyn yn rhan o Gasgliadau Prifysgol Bangor ac wedi cyflawni achrediad Amgueddfeydd, sef y safon i amgueddfeydd. Caiff y casgliad sŵoleg hefyd ei ddefnyddio at ddibenion addysgu ac mae'r casgliad rhyfeddol hwn yn parhau i ysbrydoli'r brifysgol a'r gymuned ehangach.
Mae uchafbwyntiau'n cynnwys cyrn elc 7,500 oed o Iwerddon, sgerbwd cythraul Tasmania, oen gyda dau ben, amrywiaeth o adar o Seland Newydd, a chrwban o’r Galapagos.
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr siarad â myfyrwyr a fydd ar gael i ateb cwestiynau.
Archebu:
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Er mwyn gwella profiad yr ymwelwyr a sicrhau bod yr arddangosfeydd yn weladwy, nifer penodol o bobl fydd yn cael bod yn bresennol bob awr. Bydd angen archebu slot ymlaen llaw. Archebwch slot fesul awr os gwelwch yn dda. Am resymau iechyd a diogelwch, dim ond am yr amser rydych wedi'i archebu y bydd eich tocyn yn ddilys, a bydd pob ymweliad yn gyfyngedig i 45 munud.
Mae Adeilad Brambell wedi'i leoli gyferbyn ag ASDA. Mae cyfarwyddiadau ar gael yma: http://www.bangor.ac.uk/tour/LocationMap.pdf