Ymunwch â ni ar gyfer dathliad grymus o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod sy’n cynnwys trafodaeth banel ysbrydoledig ar Wydnwch a Chydweithio. Mae’r digwyddiad hwn yn dod â phedair menyw nodedig ynghyd, gyda’u gwaith yn ymestyn ar draws cadwraeth, barddoniaeth a’r celfyddydau, arloesi ym maes iechyd byd-eang, a datblygu rhyngwladol. Mae pob un o’r panelwyr yn dod â safbwynt unigryw wedi’i lunio gan arweinyddiaeth, creadigrwydd, eiriolaeth a phrofiad bywyd.
Bydd y sgwrs yn cael ei chadeirio gan yr Athro Enlli Thomas, Is-ganghellor (Iaith Gymraeg, Diwylliant a’r Rhanbarth).
Ein Panelwyr:
Yr Athro Julia Jones OBE
Mae Julia yn athro gwyddor cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor sydd â’i hymchwil yn canolbwyntio ar wella effeithiolrwydd polisi ac ymarfer ym maes cadwraeth natur. Mae hi hefyd yn ymwneud yn uniongyrchol â pholisi ac ymarfer. Cafodd ei phenodi gan Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd i fwrdd y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur ac yn y swydd hon mae hi'n cyd-gadeirio grŵp sy’n cynnwys prif wyddonwyr pum corff cadwraeth natur statudol y Deyrnas Unedig. Mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr WWF-UK. Dyfarnwyd MBE iddi am wasanaeth i'r amgylchedd yn rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd y Brenin.
Hanan Issa
Bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptwraig ac artist Iraci-Gymreig yw Hanan Issa a hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd - y Mwslim cyntaf i gael ei hanrhydeddu â’r teitl. Mae’n ymhyfrydu yn nhraddodiad canu ar y gynghanedd yn Gymraeg a’i nod yw ehangu ymgysylltiad pobl â barddoniaeth. Mae ei gwaith yn ymdrin â themâu hunaniaeth, perthyn a natur. Mae’n llenor amryddawn. Hi ysgrifennodd a chyfarwyddo The Golden Apple (2022) a chyfrannodd at y rhaglen We Are Lady Parts ar Channel 4. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos mewn blodeugerddi o bwys, gan gynnwys Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales a Just So You Know: Essays of Experience, sy’n gyfrol yr oedd yn gyd-olygodd arni. Dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor yn 2025.
Dr Salamatu Jidda Fada
Addysgwr a gweithiwr proffesiynol ym meysydd cadwraeth a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yw Salamatu Jidda-Fada, ac mae’n ymroddedig i hyrwyddo hawliau a llesiant merched a genethod. Sefydlodd y Rhwydwaith Merched dros Ddatblygu Cynaliadwy a chyd-sefydlu Rhaglen Mentora LEAD ar gyfer myfyrwyr benywaidd ym Mhrifysgol Jos, Nigeria. Hi hefyd sy’n cynnull y fenter African Women in Conservation and Environment (AWiCONE) ac mae wedi mentora nifer o academyddion ar ddechrau a chanol eu gyrfa ledled Affrica. Mae hi'n arwain project The Shielded Girl Child mewn chwe thalaith yng ngogledd Nigeria. Mae hi wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor, a Gwobr Ieuenctid a Mentora gan y Nigerian Society of Conservation Biology.
Dr Elin Haf Davies
Dechreuodd gyrfa Elin Haf fel nyrs plant ac aeth ymlaen i weithio ym maes clinigol, yn y byd academaidd ac fel rheoleiddiwr, gan ennill BSc, MSc, a doethuriaeth. Arweiniodd ei phrofiadau iddi sefydlu Aparito yn 2014, gyda'r nod o ddigideiddio treialon clinigol a chyflymu datblygiad meddyginiaethau i glefydau sy'n cyfyngu ar fywyd. Roedd y dull yn canolbwyntio ar brofiad y claf a'r bwriad oedd gwneud treialon clinigol yn fwy hygyrch i bawb trwy eu llwyfan eCOA, Atom5TM.
Cenhadaeth Elin ar gyfer Aparito oedd diwallu anghenion cleifion, meddygon, rheoleiddwyr ac asiantaethau ad-dalu, ac mae hi'n parhau i fod wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau mesur canlyniadau mwy ystyrlon i gleifion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol. Cafodd Aparito ei brynu gan Eli Lilly and Company yn 2024.
Pan nad yw Elin yn gweithio, mae hi'n mwynhau treulio amser ar y môr. Mae hi wedi bod yn ddigon ffodus i fynd ar anturiaethau anhygoel sydd wedi ei galluogi i godi arian at elusennau sy'n agos at ei chalon: mae hi wedi croesi Môr yr Iwerydd a Chefnfor yr India mewn cwch rhwyfo ac wedi hwylio ar draws y Môr Tawel a Môr yr Iwerydd, gan dreulio cyfanswm o 204 diwrnod ar y môr.
I Elin, mae bod wrth drugaredd natur yn brofiad sy'n atgoffa pawb fod ganddynt eu "moroedd personol" eu hunain i'w croesi. Mae hi'n mwynhau'r her o gyfuno ei gyrfa broffesiynol ag anturiaethau eithafol sydd, yn ei barn hi, yn dod â datblygiad personol a phersbectif gwahanol i'r ddau.