Diwrnodau Agored Sefydliad Confucius: Plygu Papur
Daw’r grefft Tsieineaidd o blygu papur o tua’r ganrif gyntaf neu’r ail ganrif OC. Defnyddir dalen gyfan o bapur i wneud amrywiol siapiau tri dimensiwn. Nod plygu’r papur yw gwneud y siâp a ddymunir heb dorri’r papur. Mae'n weithgaredd difyr ac yn ein hyfforddi i wella ein gallu i feddwl. Mae celf Tsieineaidd plygu papur yn seiliedig ar natur. Mae'n dangos y cysyniad o gydfyw’n gytûn rhwng pobl Tsieineaidd a natur.
Does dim angen cofrestru, galwch heibio a rhowch gynnig arni!