Bangor University Chamber Choir

Golau a Thywyllwch Côr Siambr Prifysgol Bangor

Bywgraffiadau

Yn grŵp bach oddeutu ugain o gantorion brwdfrydig, y Côr Siambr dan arweiniad Guto Pryderi Puw yw un o ensemblau lleisiol mwyaf hyblyg Prifysgol Bangor. Mae’r Côr yn perfformio croestoriad eang o gerddoriaeth o’r oesoedd canol hyd at y presennol, gan gynnal cyngherddau yn rheolaidd ym Mangor ac mewn lleoliadau eraill ar draws Ogledd Cymru. Yn Nhachwedd 2017 perfformiodd y Côr (dan arweiniad Stephen Rees) yn ystod y cyngerdd Ordinary Men yn Eglwys y Plwyf, Biwmares ac fel rhan o’r cyngerdd Dychwelyd yn Pontio yn ystod Gŵyl Gerdd Bangor yn 2020. Perfformiwyd hefyd gyda’r baswr amryddawn Jeffrey Williams a’r pianydd Iwan Llewelyn Jones fel rhan o Gyngerdd Nadolig yn Eglwys Santes Fair, Conwy yn Rhagfyr 2022. 

Graddiodd Guto Pryderi Puw mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor yn 1993 a thrwy Ysgoloriaeth Parry Williams derbyniodd ei Ddoethuriaeth yn 2002. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd Cerdd yn y Brifysgol yn 2006 gan arbenigo mewn Cyfansoddi a Cherddoriaeth Gyfoes gan ei ddyrchafu’n Bennaeth Cyfansoddi yn 2015. Bu’n weithgar yn hyrwyddo cerddoriaeth newydd yng ngogledd Cymru drwy ei gysylltiad fel Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Bangor, yr hwn y bu’n un o’i sefydlwyr yn 2000.   

Fel cyfansoddwr daeth Puw i lygaid y cyhoedd am y tro cyntaf wedi iddo ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1995 ac 1997. Yn 2006 fe’i penodwyd yn Gyfansoddwr Preswyl cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda’i Concerto ar gyfer Obo yn ennill ‘Gwobr y Gwrandawyr’ yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig yn 2007 tra perfformiwyd ‘…onyt agoraf y drws…’ yn ystod y Proms yn yr un flwyddyn. Rhyddhawyd detholiad o’i gyfansoddiadau cerddorfaol ar y CD Reservoirs ar label Signum Records yn 2014.

Bu’n un o sefydlwyr Côr Cyntaf i’r Felin yn 2003 gan eu harwain hyd 2015. Yn 2007 cafodd ei benodi’n Arweinydd a Chyfarwyddwr Artistig Côr Siambr Prifysgol Bangor. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?