Mae’r cwrs ar-lein 5 wythnos hwn, a gyflwynir gan Adran Gleidyddiaeth Prifysgol Bangor, yn cyflwyno myfyrwyr i’r meddylwyr a’r dadleuon sydd wedi siapio'r meddwl gwleidyddol. Bob wythnos, byddwn yn canolbwyntio ar un athronydd mawr, gan olrhain eu dylanwad ar ein dealltwriaeth o awdurdod, rhyddid, democratiaeth a chyfiawnder.
Manylion y cwrs:
Amserlen: Ddyddiau Mawrth am 5yp (gellir ymuno ag unrhyw nifer o sesiynau)
Fformat: Darlithoedd ar-lein
Cost: Am ddim
Iaith: Saesneg
Pynciau fesul wythnos:
Ddydd Mawrth 7 Hydref @ 5yp: Platon a’r Athronwyr Brenhinol
Ddydd Mawrth 14 Hydref @ 5yp: John Locke a’r Contract Cymdeithasol
Ddydd Mawrth 21 Hydref @ 5yp: Hannah Arendt a Gwleidyddiaeth Rhyddid
Ddydd Mawrth 28 Hydref @ 5yp: John Rawls a Damcaniaeth Cyfiawnder
Ddydd Mawrth 4 Tachwedd @ 5yp: Angela Davis a Gwleidyddiaeth Rhyddhau
Cyflwynir y cwrs mewn ffordd hygyrch a deniadol, heb ofyn am wybodaeth flaenorol, dim ond chwilfrydedd am wleidyddiaeth a syniadau.
Perffaith i ddisgyblion Lefel A mewn Athroniaeth neu Wleidyddiaeth sydd eisiau ymestyn eu gwybodaeth ac archwilio seiliau meddwl gwleidyddol.