Gwibdaith! Castell Conwy
Y penwythnos hwn rydym ni'n mynd â chi i dref gaerog drawiadol Conwy gerllaw. Mae'n gartref i gastell o’r drydedd ganrif ar ddeg ac yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Bydd gennych chi ddigon o amser i archwilio'r castell wrth eich pwysau ac yna mwynhau’r siopau, y caffis a’r bwytai annibynnol.