Ym mis Hydref eleni, bydd dinas Bangor yn cymryd lle canolog mewn dathliad bywiog o'i gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol gyda Gŵyl Hanes Bangor, sy'n coffáu 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu un o ddinasoedd hynaf Prydain a dinas hynaf Cymru.
Cynhelir yr ŵyl ddeuddydd yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae’n cynnwys rhaglen gyfoethog o weithdai, trafodaethau, arddangosfeydd rhyngweithiol, a sgyrsiau gwadd, pob un wedi'i gynllunio i ddod â hanes rhyfeddol Bangor yn fyw.
Mae'r digwyddiad yn ystod y dydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i'r cyhoedd, gyda rhaglenni dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg i adlewyrchu gwreiddiau diwylliannol y ddinas.
Prif Sgyrsiau gyda Greg Jenner a Kate Williams
Un uchafbwynt rhaglen gyda'r nos yr ŵyl ar y ddau ddiwrnod fydd dwy brif sgwrs: Bydd Greg Jenner, hanesydd cyhoeddus Prydeinig, awdur llwyddiannus, a darlledwr, yn traddodi “Ask a Historian: “An Evening with Greg Jenner”, yn dod â hanes yn fyw gyda’i hiwmor a’i fewnwelediad nodweddiadol, tra bydd yr hanesydd, y darlledwr, a’r awdur llwyddiannus, yr Athro Kate Williams, yn cyflwyno “Queens, Castles and Welsh Heroines: “Secrets Behind The Castle Walls”, gan ddatgelu straeon a gwaddol pwerus merched nodedig yn hanes Cymru. Mae tocynnau ar werth ar wefan Pontio, a thocynnau ar gyfer sesiynau’r bore a’r prynhawn o’r gweithdai “Get thy Bearings!” ar gael ar wefan Storiel.
Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor (gan gynnwys Pontio), Cyngor Dinas Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor, gyda chefnogaeth gan sawl sefydliad lleol allweddol. Mae Gŵyl Hanes Bangor yn fwy na digwyddiad yn unig; mae'n ddathliad o gymuned, hunaniaeth, a'r straeon sydd wedi llunio ein gorffennol ac a fydd yn dylanwadu ar ein dyfodol.
Edrychwch ar fanylion holl ddigwyddiadau’r ŵyl Hanes isod, yn ein hamserlen o ddigwyddiadau ar gyfer y diwrnod.
Dydd Gwener 17.10.2025
6 YH - 7 YH
Mae Greg Jenner yn hanesydd, awdur a darlledydd poblogaidd, ymysg ei weithiau mae rhaglen deledu ‘Horrible Histories’, cyfres llyfrau ‘Totally Chaotic History’ a podcast ‘You’re Dead to Me’.
Ymunwch â Greg wrth iddo roi ei farn ar bob dim sy’n ymwneud â hanes!
Rhagor o wybodaeth: https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/g%C5%B5yl-hanes-bangor
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Mae hwn yn ddigwyddiad tocynnau.
Safonol a Henoed £10
Myfyriwr a Phlentyn £5
Dydd Sadwrn 18.10.2025
Trwy'r dydd
Mwynhewch gweithgareddau, pethau rhyngweithiol a phethau i blant ar stondinau ein partneriaid!
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Canolfan Ddysgu Arforol Bangor
- Sefydliad Confucius
- M-SParc
- Coleg Treftadaeth Bangor
- Menter Iaith Bangor
- Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor
- LleCHI LleNI Cyngor Gwynedd
- Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor
10am – 4pm
Mwynhewch yr arddangosfeydd e.e. Meddygaeth yng ngogledd Cymru, Ystad Penrhyn a chaethwasiaeth, Pêl droed ym Mangor, addysg ym Mangor, Kate Roberts a Choleg Bangor o dan arweiniad tîm yr Archifdy 10yb – 4yp.
Bydd y Pontifical hefyd i’w weld fel rhan o’r arddangosfa am y Gadeirlan yng nghoridor Siambr y Cyngor.
11am-5pm
Dewch i ymweld a Storiel 11yb-5yp. Fel rhan o’r Wyl.
10am - 3pm
Croeso cynnes i bawb i ymweld â’r Gadeirlan
10 YB
Croeso gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley. Cyflwyniad i’r drafodaeth gan Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd. Panel trafod am hanes a threftadaeth llechi gyda Elin Tomos, Dr Dafydd Gwyn a Dr Dafydd Roberts.
Pontio PL5, lefel 5
Er gwyddwn ble mae’r mwyafrif o long-ddrylliadau o amgylch ein arfordir, rydym dal ddim yn gwybod llawer am beth yn union ydynt. Bydd y drafodaeth yma yn rhoi gwybodaeth ar raglen arolwg gan dîm Prifysgol Bangor dros ddegawd gyda’r bwriad o adnabod llong-ddrylliadau yn Môr Iwerddon. Dyma gyfle unigryw i ddarganfod pam mae’r ymchwil yma mor bwysig yn nhermau helpu i ddiogelu ein anghenion ynni yn y dyfodol a dysgu am ddarganfyddiadau sydd wedi creu syndod yn ddiweddar ar y cysylltiadau rhwng rhai o’r llong-ddrylliadau yma a hanes lleol. Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal a’r llong-ddrylliadau gyda Dr Michael Roberts, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
Pontio PL2, lefel 2
Claddfa tywysog cyntaf Cymru, y gadeirlan yw’r sefydliad eglwysig dihafal yng Ngwynedd, a wedi bod yn bencadlys esgob ers y 6ed ganrif. O dan arweiniad Dr Shaun McGuinness, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, bydd y drafodaeth, trwy edrych ar lythyrau gwreiddiol a dogfennau eraill sy’n bodoli, yn edrych ar rai o’r ddigwyddiadau dramatig a ddigwyddodd yn y gadeirlan yn ystod yr Oesoedd Canol Uwch, digwyddodd ble roedd yr esgobion yn chwarae rhan allweddol. Noddir y sesiwn gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
Cadeirlan
Hanes dinas Bangor (sesiwn ddwyieithog).
Man cyfarfod: Derbynfa Pontio ger Ffordd Deiniol.
Arweinir gan Rhys Mwyn, cerddor ac archaeolegydd
11 YB
Croeso gan Yr Athro William Heath, Pennaeth Ysgol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor.
Cyflwyniad i waith Tom Parry Jones (John Brinley Jones, PPM Technology) a ‘W.E. Williams: peiriannwr ac arloeswr hedfan’ (Yr Athro Iestyn Pierce, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor).
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Sesiwn ar hanes a hunaniaeth y gem ym Mangor a’r gogledd. Cadeirir gan Dr Jonathan Ervine, Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, gyda Beth Jones, ymchwilydd PhD, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor ; Dr Glynne Roberts, cefnogwr a hanesydd pêl droed Bangor; a Mei Emrys, hanesydd pêl droed Cymru.
Pontio PL2, lefel 2
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg.
Arweinir gan Lynette Williams, Prifysgol Bangor
11.15 YB
Dewch i ddysgu mwy am hanes y chwareli gyda Dr Leona Huey a Dr Gary Robinson, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.
Pontio PL5, lelel 5
11.30 YB - 1 YP
Sesiwn 1af
Gweithdai liw a llun i'r teulu syn ymwneud a mapiau Bangor
Dewch i ddysgu mwy am mapiau John Speed o Fangor. Gweithdai yn cyfuno daearyddiaeth gyda celf a chrefft. Hwyl I’r teulu oll, bydd cyfle i greu mapiau a chymharu mapiau Bangor y gorffennol, presennol a’r dyfodol!
Bydd Rhys Lloyd Jones yn cyflwyno gweithdy hwyl gyda Bangor yn ganolig iddo.
Storiel
12 YP
Croeso gan Yr Athro William Heath, Pennaeth Ysgol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor. Dewch i ddysgu mwy am hanes Pont Borth gyda Kerry Evans, UK Highways A55 Ltd; John Cole a Gareth Jones, Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Fenai.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Mae addysg wedi bod yn bwysig iawn i'r bobl yng ngogledd-orllewin Cymru am ganrifoedd lawer, ac mae Bangor wedi chwarae rôl allweddol yn y datblygiad ers y sefydlwyd Ysgol Friars yn 1557. Agorwyd ysgolion yn yr ardal gan Griffith Jones Llanddowror, Yr Eglwys Anglicanaidd, Y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd ynghyd a byrddau ysgol lleol a’r cynghorau sir. Dewch i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o ysgolion trwy glywed hanesion rhai o’r athrawon mwyaf difyr a diddorol gyda Gwyn Ellis, Swyddog Addysg Archifdy Gwynedd.
Pontio PL5, lefel 5
Yn draddodiadol mae haneswyr wedi gweld ‘Seisnigeiddio’ yr uchelwyr fel agwedd critigol yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru ers y Deddf Uno yn 1534 a 1543. Er hyn, mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynglŷn a pryd, pam ac i ba raddau y gollodd y grŵp dylanwadol yma y gallu i siarad Cymraeg. Yn y drafodaeth yma bydd Dr Shaun Evans, Darlithydd mewn Hanes Cymru a’r Cyfnod Modern Cynnar ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn edrych ar y berthynas rhwng yr uchelwyr a’r Gymraeg. Gan gydnabod trywydd hir-dymor yn nirywiad y Gymraeg sy’n ddiamheuol, mae’n nodi fod nifer o berchnogion tir wedi cadw’r brwdfrydedd a’r gallu i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y pedwerydd ganrif ar bymtheg. Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at gymeriad ieithyddol yr uchelwyr Cymreig a’u tai gwlad, ac yn cynnig dealltwriaeth pwysig o’r berthynas rhwng y tenant a’r perchennog tir ar stadau Cymreig a gweinyddiaeth cyfiawnder yng nghymunedau Cymreig, ac yn darparu cynnwys pwysig ar hanes dwyieithrwydd yng Nghymru.
Pontio PL2, lefel 2
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg.
Arweinir gan Helen Gwerfyl, Prifysgol Bangor.
1 YP
Yn y drafodaeth yma byddwch yn dysgu fwy am Nennius, y mynach a’r hanesydd nawfed ganrif a oedd yn debygol o fod yn ddisgybl Elvodotus, esgob Bangor. Adnabyddir Nennius ymysg ysgolheigion am ei waith Historia Brittonum (Hanes y Prydeinwyr), sydd yn cynnwys, ymysg eraill, yr unig restr sydd yn bodoli o frwydrau y credir a fu cynnwys yr arwr chwedlonol Arthur yn ymladd – neu’r Brenin Arthur fel y welwyd yn y storïau canol oesoedd yn hwyrach ymlaen. Arweinir gan Yr Athro Raluca Radulescu, Cyd-gyfarwyddwr Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i ddysgu mwy am y berthynas rhwng lleoliadau, emosiynau ac ymddygiad gyda’r cerddor ac archaeolegydd Rhys Mwyn.
Pontio PL5, lefel 5
Dewch i ddysgu mwy gyda John Richard Williams, awdur ‘Er Lles Llawer: Meddygon Esgyrn Môn’
Pontio PL2, lefel 2
2 YP
Dewch i ddysgu mwy am yr hanes Iddewig lleol gyda’r Athro Nathan Abrams, Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal a chymerwch ran yn y dathlu gyda Dr Marian Gwyn a Race Council Cymru.
Pontio PL2, lefel 2
2il sesiwn 2yp – 3:30yp
Gweithdai liw a llun i'r teulu syn ymwneud a mapiau Bangor
Dewch i ddysgu mwy am mapiau John Speed o Fangor. Gweithdai yn cyfuno daearyddiaeth gyda celf a chrefft. Hwyl I’r teulu oll, bydd cyfle i greu mapiau a chymharu mapiau Bangor y gorffennol, presennol a’r dyfodol!
Bydd Rhys Lloyd Jones yn cyflwyno gweithdy hwyl gyda Bangor yn ganolig iddo.
Sesiwn prynhawn - https://www.eventbrite.co.uk/e/gwyl-hanes-bangor-history-festival-tirffurf-get-thy-bearings-tickets-1676253983789?aff=oddtdtcreator
Storiel
3 YP
“Y bygythiad fwyaf i ddiwylliant Cymreig a fu erioed”. Efaciwîs, y BBC a bomio Maesgeirchen (Maes G). Gydag arweiniad Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinesig, Cyngor Dinas Bangor, bydd y sesiwn yma yn edrych ar effaith yr Ail Rhyfel Byd ar Fangor ac yn trafod rhai o’r gweithrediadau a ddigwyddodd i warchod ei hunaniaeth unigryw.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal cyn sefydlu dinas Bangor gyda’r archaeolegydd Dr Erin Lloyd Jones.
Pontio PL5, lefel 5
Ddewch i ddysgu mwy am hanes dyddiau cynnar y Brifysgol gyda’r hanesydd Gari Wyn. Bydd pwyslais y sgwrs ar gyfraniad unigolion amlwg yn ogystal a chyfraniad brodorion lleol y cylch yn ogystal ag ar egluro sut yn union y llwyddwyd i esblygu o fod yn Brifysgol mewn gwesty i fod yn Brifysgol safonol o fewn muriau un o’r adeiladau mwyaf eiconig a welwyd yn Nghymru.
Pontio PL2, lefel 2
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg.
Arweinir gan Lynette Williams, Prifysgol Bangor.
3.30 YP
Dewch i ddysgu fwy am drysorau Storiel! Arweinir gan Frances Llewellyn, Ffrindiau Storiel
4 YP
Dewch i ddysgu mwy am fywyd Charlotte Price White a Gladys Thoday gyda Dr Dinah Evans, Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus, a Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i wrando ar hanes a phrofiadau unigolion sydd wedi cynrychioli etholaethau lleol. Gyda’r Cyng. Medwyn Hughes, Maer Bangor, yn cadeirio, mae’r panel yn cynnwys Sian Gwenllian AS (Plaid Cymru), Aelod y Senedd dros Arfon ers 2016; Robin Millar (Ceidwadwyr), Aelod Seneddol dros Aberconwy 2019-2024; a Claire Hughes AS (Llafur), Aelod Seneddol dros Bangor Aberconwy ers 2024.
Pontio PL5, lefel 5
Mae enwau lleoedd yn bwysig ac yn gysylltiad gyda’n gorffennol. Dewch i ddysgu fwy am hanes enwau ardal Bangor a thu hwnt gyda’r Athro Emeritws Hywel Wyn Owen, un o sylfaenwyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Is-Lywydd er Anrhydedd yr English Place-Name Society a chyn-Lywydd y Society for Name Studies in Britain and Ireland.
PL2, Lefel 2, Pontio
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg.
Arweinir gan Helen Gwerfyl, Prifysgol Bangor.
6 YH - 7 YH
Yr Athro Kate Williams, sy’n hanesydd, awdur a chyflwynydd teledu, fydd yn cloi'r ŵyl. Ymysg ei gweithiau mae ‘England’s Mistress’, ‘Becoming Queen’ a ‘The Ring and the Crown: A History of Royal Weddings 1066 – 2011’. Ymunwch â Kate am daith hwyliog, diddorol ac ysgogol drwy hanes.
Rhagor o wybodaeth: https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/g%C5%B5yl-hanes-bangor
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Mae hwn yn ddigwyddiad tocynnau.
Safonol a Henoed £10
Myfyriwr a Phlentyn £5
Partneriaid
