Hanes Iddewig Bangor
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas
Mae gan Fangor hanes Iddewig rhyfeddol o gyfoethog hyd yn oed os nad yw bob amser yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Wrth i’r Stryd Fawr newid, mae olion o’r hanes hwn mewn perygl o gael eu colli.
Ar y daith gerdded ddwyieithog hon, byddwn yn mynd â chi o amgylch safleoedd allweddol yn hanes Iddewig Bangor, yn eich cyflwyno i bersonoliaethau, busnesau a synagogau. Beth oedd yn denu Iddewon i Fangor a pham wnaethon nhw aros? Sut gwnaethon nhw siapio eu hamgylchedd a sut gwnaeth hynny eu siapio nhw? Ymunwch â'r daith gerdded hamddenol hon i ddarganfod mwy.
Arweinwyr y teithiau: Gareth Roberts a'r Athro Nathan Abrams - Am ragor o wybodaeth cysylltwch: n.abrams@bangor.ac.uk, 01248382196.