Helfa Ffwng
Ymunwch â ni am fore o chwilio am fadarch gwyllt
Ymunwch â’n helfa draddodiadol fore Sadwrn i chwilio am fadarch gwyllt yng Ngardd Fotaneg Treborth, sy’n cynnwys gweithdai adnabod madarch a gynhelir gan arbenigwyr lleol, cystadlaethau ffwngaidd a lluniaeth.
Mae mycota (neu fflora ffyngol) yr ardd fotaneg yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yng Ngogledd Cymru a chynhaliwyd teithiau hel ffyngau yno ers dros dri deg o flynyddoedd. Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr i ryfeddu at yr amrywiaeth anhygoel o gaws llyffant, ysgwyddau, codennau mwg, ffyngau jeli a chingroen a welir ar y teithiau hyn.
- Nid oes angen cadw lle.
- Awgrymir cyfraniad o £5 ar y drws.
- Mae parcio am ddim ar gael ym maes parcio’r cae chwaraeon.