Mae Andrew Green yn defnyddio'r deg llun gan Kyffin Williams sy'n eiddo i Brifysgol Bangor fel man cychwyn i drafod rhai o themâu a diddordebau'r artist, gyda chymorth detholiadau o'i weithiau celf eraill a'i ysgrifau cyhoeddedig.
Magwyd Andrew Green yn ne Swydd Efrog a daeth i Gymru ym 1973, ac wedi hynny bu'n gweithio mewn sawl llyfrgell brifysgol. Yn ystod ei gyfnod fel prif lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rhwng 1998 a 2013, daeth i adnabod Kyffin Williams, a derbyniodd gymynrodd fawr o weithiau Kyffin ar ran y llyfrgell. Mae Andrew yn awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys Wales in 100 Objects / Cymru mewn 100 gwrthrych, nofel ddychanol wedi ei lleoli ar gampws, Rhwng y silffoedd a Voices on the path: a history of walking in Wales. Bydd ei lyfr nesaf yn ymwneud â Chader Idris a'i artistiaid.
Nodwedd Arbennig: Taith Dywys o Gasgliad Kyffin Williams
Bydd cyfle prin i westeion sy'n dod i’r ddarlith ymuno â thaith dywys o amgylch casgliad y brifysgol o luniau Kyffin Williams.
Hawlfraint - trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.