O’r Llyfr i’r Llwyfan: Tarddiad y ddrama Gymraeg a’r traddodiad o addasu gweithiau llenyddol ar gyfer y llwyfan (Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor)
Dr Manon Wyn Williams (Prifysgol Bangor)

O’r Llyfr i’r Llwyfan:
Tarddiad y ddrama Gymraeg a’r traddodiad o addasu gweithiau llenyddol ar gyfer y llwyfan
Cyfrwng ifanc iawn yw’r ddrama Gymraeg o’i chymharu â chyfryngau llenyddol Cymraeg eraill. Cynigiodd yr anterliwtiau yn y ddeunawfed ganrif ryw ffurf o weithgarwch theatrig i Gymry’r cyfnod, ond daethpwyd â’r traddodiad hwnnw i’w derfyn yn sgil y Diwygiad Methodistaidd. Ni welwyd seiliau'r hyn a adwaenwn heddiw fel mudiad y ddrama Gymraeg, sy’n bur wahanol i’r anterliwtiau, hyd nes dechrau’r ugeinfed ganrif. Bydd y papur hwn yn olrhain tarddiad y ddrama Gymraeg ac yn amlygu cyfraniad gwerthfawr addasiadau o destunau llenyddol yn hynny o beth, ac yn arbennig felly addasiadau o weithiau tad y nofel Gymraeg, Daniel Owen.