Pam Lai- Sgwrs a pherfformiad gan Good cop bad cop
Celfyddydau Avant-Garde yng Nghymru
Good cop bad cop yw partneriaeth artistig John Rowley a Richard Huw Morgan. Maent wedi bod yn creu gwaith ar y cyd ac ar wahân ar draws ffurfiau celfyddydol gan gynnwys delweddau symudol, gosodiadau a gwaith sain, yn bennaf ar y ffin rhwng arferion perfformio theatrig a chelfyddyd gain ers 1992. Yn eu gwaith, maent wedi bod yn datblygu strategaethau artistig sy’n debyg i rai’r Avant Garde ers dechrau’r 20fed ganrif, ond sy'n mynd i'r afael â sefyllfa benodol y Gymru gyfoes.
Sgwrs Artistiaid: Bydd John a Richard yn siarad am eu gwaith.
Perfformiad (i’w gyhoeddi)
*Mae’r perfformiad yn cael ei gyd-gynnal a’i gefnogi gan y project ymchwil a ariennir gan yr AHRC “Ail-ddyfeisio’r Digwyddiad Byw”