Po fwyaf yr agorwch eich ceg, y mwyaf rydych chi'n gorfodi perfformiad': Alex Turner, newid arddull, a normau sosioieithyddol mewn cerddoriaeth boblogaidd.
Cylch Ieithyddiaeth Bangor
Dr Paul Flanagan - Prifysgol Gaer
Mae’r sgwrs hon yn archwilio patrymau newid arddull yn iaith berfformio prif leisydd yr Arctic Monkeys, Alex Turner. Oherwydd ei ddefnydd nodedig o’i acen a’i dafodiaith frodorol o Sheffield, roedd yn destun chwilfrydedd ieithyddol i academyddion a beirniaid cerdd fel ei gilydd pan ddaeth y grŵp i frig y siartiau gyda’u halbwm cyntaf yn ôl yn 2006. Dros amser, gwelwyd bod Turner wedi symud tuag at arddull fwy Americanaidd yn ei ganu. Mae Flanagan yn ymchwilio i newidiadau mewn gramadeg, geirfa a ffonoleg yn chwe albwm y band hyd yma, gan edrych ar yr un pryd ar newidiadau yn arddull yr eirfa a’r gerddoriaeth, yn ogystal â lleoliad daearyddol, poblogrwydd, a chynulleidfa darged. Mae’r myfyrdodau’n taflu goleuni ar gymhlethdodau methodolegol, ac ar natur cerddoriaeth boblogaidd fel maes ymholi ieithyddol, yn ogystal â chodi cwr y llen ar waith diweddaraf Turner, sef 'The Car' a ryddhawyd gan y band yn ddiweddar.