Ymunwch â Dr Karin Koehler Uwch Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth y 19eg Ganrif ar gyfer y Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Beth all llenyddiaeth Fictoraidd ei ddysgu inni am ddelio â dulliau cyfathrebu newydd? Beth allwn ni ei ddysgu o'r gorffennol am gynnal cysylltiad dynol ystyrlon yn hytrach na chyfathrebu â pheiriannau? Mae'r sesiwn hon yn edrych ar y ffyrdd y mynegodd awduron y bedwaredd ganrif ar bymtheg eu gobeithion a'u pryderon ynghylch byw mewn byd sy'n gynyddol rwydweithiol. Byddwn yn ystyried sut y gwnaethon nhw dynnu ar syniadau cyfoes am farddoniaeth i ddathlu manteision posibl technolegau cyfathrebu newydd. Bydd y sesiwn yn rhoi cipolwg ar fyd rhyfedd a rhyfeddol papurau newydd a chylchgronau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn annog safbwyntiau newydd ar ein perthynas ein hunain â'r cyfryngau a thechnoleg.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: