Sesiwn galw heibio Cais Taith - Coleg Meddygaeth ac Iechyd (Ar-lein)
Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol Cymru. Mae rhaglen Symudedd Ymchwil Taith yn cefnogi symudedd corfforol allanol a mewnol ymchwilwyr ôl-raddedig (PGR), ymchwilwyr gyrfa gynnar (ECR), yn ogystal â thechnegwyr a staff cymorth ymchwil ac arloesi eraill i gyrchfannau byd-eang. Ar gyfer yr alwad hon, bydd hyd y symudeddau’n amrywio rhwng 2 ddiwrnod a 48 wythnos.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ac yn cau am 4yp ar 30 Ionawr 2026.
Bydd y sesiwn hon, dan arweiniad Dr Nathan Bray (Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig y Coleg), yn edrych ar sut i baratoi cais am gyllid Taith, gan ddefnyddio enghreifftiau o geisiadau llwyddiannus blaenorol gan CoMH.
Mae’r canllawiau, y ffurflen gais a rhagor o wybodaeth ar gael yma.