SMOGG - Cerfluniau menyn
Celfyddydau Avant-Garde yng Nghymru – digwyddiad nawr ac yn y man
Hoffech chi allu mynegi eich dicter am yr argyfwng tai yng ngogledd Cymru yn greadigol? Mae SMOGG yn eich gwahodd i weithgaredd chwareus, llawn hwyl sy’n cyfuno hanes Meibion Glyndŵr, yr argyfwng ail gartrefi presennol a’r heriau ôl-Brexit yn niwydiant llaeth Cymru. Byddwn yn eich helpu i ddefnyddio menyn Cymru i greu siâp un o’r ail gartrefi yn eich tref. Bydd yn weithred ddi–drais, a byddwn yn gosod ein cerfluniau menyn gorffenedig yn y mannau niferus sydd.
Dewch â phecyn o fenyn i wneud eich cerflun a thywel gyda chi. Rhagor o wybodaeth i ddod yn fuan am weithgaredd cerflunio menyn o bell.
“Mae dyfodol cyfraniad y Deyrnas Unedig yn y cynlluniau hyn yn aneglur a bydd yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Brexit. O gymharu â diwydiannau amaethyddol eraill yng Nghymru, mae disgwyl i’r sector llaeth wynebu llai o heriau. Mae’r farchnad laeth yn llai dibynnol ar gymorthdaliadau a marchnadoedd allforio na’r diwydiant cig eidion a defaid, ac yn fwy dibynnol ar bris llaeth a’r galw lleol.
Fodd bynnag, gallai newidiadau i’r status quo arwain at nifer o oblygiadau i sector llaeth y Deyrnas Unedig, sydd ar hyn o bryd wedi ei integreiddio i raddau helaeth â pholisi’r UE. Er enghraifft, mae mewnforion o wledydd eraill sy’n cynhyrchu llaeth fel Seland Newydd wedi eu cyfyngu ar hyn o bryd gan gwotâu'r UE. Os caiff y cwotâu eu dileu a chyfran Seland Newydd o'r farchnad yn cynyddu, gallai hyn roi pwysau ar gynhyrchwyr lleol. Ar hyn o bryd mae’r Deyrnas Unedig yn elwa ar fewnforion ac allforion llaeth heb dariff yn yr UE. Yn ôl Rabobank, pe bai’r Deyrnas Unedig yn gwneud cytundeb masnach heb dariff gyda’r UE yna mae’n debygol y byddai’n ‘busnes fel arfer’ i’r diwydiant. Fodd bynnag, os collir hyn, gallai cynhyrchwyr llaeth y Deyrnas Unedig wynebu tariffau o 35.4% ar allforion i’r UE. Amcangyfrifir y byddai wedi costio tua £1.5-2 biliwn i’r diwydiant pe bai’r tariffau hyn wedi eu gosod yn 2016.”Ymchwil y Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.cynulliad.cymru Briff Ymchwil: Y sector llaeth. Mehefin 2018, https://research.senedd.wales/media/3rwntzzp/18-043-the-dairy-sector.pdf, t.16.
â golygfeydd hyfryd ar hyd arfordir gogledd Cymru er mwyn iddynt fwynhau haul haf hinsawdd newydd Môr y Canoldir gyda’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru.