Tuag at Faniffesto o Garedigrwydd Rhwng Rhywogaethau
Gŵyl 'Bod yn Ddynol'
Dewch i’r gweithdy awyr agored unigryw hwn sy’n archwilio ffyrdd creadigol o ddeall, perthnasu a chysylltu â’n hamgylchedd “mwy-na-dynol” yn amgylch Afon Menai.
Yn dilyn cyflwyniad, bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn myfyrdod byr, dan arweiniad. Yna bydd cyfranogwyr yn archwilio ac yn ymateb i'r amgylchedd lleol trwy symudiadau tywys, a thrwy ryngweithio â deunyddiau naturiol, ochr yn ochr ag aelodau o dîm 'Utopias Bach', prosiect celf amlgyfrwng lleol. Yna bydd y grŵp yn dod at ei gilydd i rannu eu meddyliau ac i gyfrannu at 'Maniffesto o Garedigrwydd Rhyngrywogaethau'.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd te, coffi a bisgedi ar gael. Mae croeso i bob oedran fynychu, er nad yw'r digwyddiad hwn wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer plant ifanc. Sylwch fod y digwyddiad hwn i fod i gael ei gynnal yn yr awyr agored. Cynghorir dillad ac esgidiau addas. Os yn bosibl, dewch â dillad coch tywyll, melyn mwstard a/neu frown. Os bydd y tywydd yn arw, bydd y gweithgaredd hwn yn symud dan do.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae'r gweithgaredd hwn i fod i gael ei gynnal yn yr awyr agored. Os bydd tywydd gwael, bydd y gweithgaredd hwn yn symud dan do yn Adeilad George. Cysylltwch â'r trefnydd ynglŷn â gofynion mynediad penodol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Hyb Gŵyl Prifysgol Bangor.