Mae'r argyfwng amgylcheddol yn gwaethygu - mae busnesau'n teimlo effeithiau newid hinsawdd a dirywiad natur. Ond beth maent yn ei wneud amdano ac a allwn ddibynnu ar fyd busnes i ddatrys yr argyfwng hinsawdd a natur ar ein rhan? Pan ddechreuodd Becky ei gyrfa dros 25 mlynedd yn ôl (ar ôl gwneud gradd mewn coedwigaeth ym Mangor), nid oedd cynaliadwyedd corfforaethol yn bodoli hyd yn oed. Bydd hi'n myfyrio ar sut mae cynaliadwyedd ym myd busnes wedi datblygu, a'r rhan y mae busnes wedi ei chwarae a'r rhan y gallai ei chwarae yn y dyfodol.
Mae Dr Rebecca Heaton yn arbenigwr blaenllaw mewn newid hinsawdd a chynaliadwyedd a chyfraniad defnydd tir at ddyfodol carbon isel. Dechreuodd ei gyrfa yn astudio coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, a ddylanwadodd ar ei hymrwymiad gydol oes i ddeall sut mae tirweddau, gwyddoniaeth a pholisi yn croestorri. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae hi wedi gweithio mewn uwch swyddi mewn diwydiant, ym maes ymchwil ac yng nghyrff cynghori'r llywodraeth, gan gynnwys gwasanaethu ar bwyllgor y Deyrnas Unedig ar newid hinsawdd. Mae Dr Heaton yn cael ei chydnabod yn eang am ei gallu i bontio rhwng dealltwriaeth wyddonol â chamau ymarferol, gan ddylanwadu ar strategaeth genedlaethol ar sero net, ynni adnewyddadwy a rheoli tir cynaliadwy.