Ymunwch â Ni am Ddathliad Gwych o Ŵyl Canol Hydref a Diwrnod Confucius!
Camwch i fyd o draddodiad a doethineb wrth inni ddathlu Gŵyl Canol Hydref a Diwrnod Confucius yn Neuadd Powis ar 29 Medi, 2023!
Profwch Hud Gŵyl Canol yr Hydref!
Mae Gŵyl Canol yr Hydref, a elwir hefyd yn Ŵyl y Lleuad, yn hoff ŵyl Tsieineaidd sy'n symbol o undod ac aduniad teuluol o dan y lleuad lawn. Mae'n amser y daw ffrindiau a theuluoedd ynghyd i werthfawrogi harddwch y lleuad a rhannu teisennau lleuad - danteithion blasus ac iddynt arwyddocâd diwylliannol dwfn.
Anrhydeddu Diwrnod Confucius: Diwrnod yr Athrawon!
Mae Diwrnod Confucius yn cyd-daro â Gŵyl Canol yr Hydref ac mae’n talu teyrnged i'r athronydd Tsieineaidd mawr, Confucius. Oherwydd ei bod hefyd yn Ddiwrnod yr Athrawon yn Tsieina, rydym yn anrhydeddu doethineb ac arweiniad addysgwyr ledled y byd.
Uchafbwyntiau’r Rhaglen Gyffrous:
Perfformiad Dawns Clasurol Han-Tang
Cewch eich swyno gan orfoledd a cheinder dawns glasurol draddodiadol Han-Tang. Aiff y perfformiad cyfareddol â chi ar daith i Tsieina’r hen fyd, ac ennyn naws Gŵyl Canol yr Hydref.
Gweithdy Dawns
Ymchwiliwch yn ddyfnach i gelfyddyd dawns! Ymunwch â'n gweithdy rhyngweithiol i ddysgu symudiadau cywrain perfformiad dawns Han-Tang. Doesdim angen profiad - dim ond brwdfrydedd!
Gweithdai Lu!
Caligraffeg: Darganfyddwch gelfyddyd caligraffeg Tsieineaidd a chreu campwaith.
Torri Papur: Crefftwch ddyluniadau cywrain gyda’r technegau torri papur traddodiadol.
Clymau Tsieineaidd: Archwiliwch gelfyddyd hynafol clymu cwlwm Tsieineaidd.
Tai Chi: Profwch dawelwch a manteision iechyd Tai Chi o dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol.
Mwynhewch Luniaeth Coffi, Te, a Theisennau
Wrth i chi ymgolli yn y gweithgareddau hyfryd, rydym yn eich gwahodd i flasu te, coffi a theisennau hyfryd i gyfoethogi eich profiad.
Croeso i Bawb!
Boed yn edmygydd angerddol o ddiwylliant Tsieineaidd neu'n chwilfrydig, mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb. Dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu am ddiwrnod llawn cyfoeth a mwynhad.
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych yma i ymgolli yn nhraddodiadau cyfoethog Tsieina. Marciwch eich calendr ar gyfer Medi 29, 2023, rhwng 1:00 a 3:00pm yn Neuadd Powis.
Ymunwch â ni am ddathliad bythgofiadwy o ddiwylliant, doethineb ac undod! Welwn ni chi yno!