Nodiadau bywgraffiad: Dr Mary Mabel Tannahill
Bywyd cynnar a dylanwadau teuluol (1932–1950)
Ganwyd Dr Mary Mabel Tannahill, a elwid yn Mabel, ar 19 Awst 1932 i deulu llewyrchus yn Glasgow â thraddodiadau artistig, llenyddol a chyfiawnder cymdeithasol cryf. Roedd ei mam, May Reid, yn artist a hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Glasgow yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–1918), ar adeg pan oedd y sefydliad ar flaen y gad mudiadau’r swffragwyr a’r swffragetiaid. Etifeddodd Mabel werthoedd ei mam a fyddai'n sail i'w hymrwymiad gydol oes i gydraddoldeb merched a diwygio cymdeithasol.
Roedd ei thad yn awdur, bardd a chyfieithydd llenyddiaeth Ewropeaidd i Sgoteg a Saesneg, ac yn ddisgynnydd uniongyrchol o deulu Robert Tannahill (1774–1810), y "bardd gwehydd" o Paisley. Roedd teulu ehangach Tannahill wedi bod yn gysylltiedig ers tro byd ag anghydfod gwleidyddol ac eiriolaeth dros y rhai dan orthrwm, gydag aelodau'n ymfudo ledled y byd, gan gynnwys Adamson Tannahill, a wasanaethodd fel uwch swyddog o dan George Washington yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America (1776–1783).
Gan iddi dreulio ei phlentyndod yn Glasgow yn ystod y rhyfel, roedd Mabel yn ymwybodol iawn o gonfensiynau cymdeithasol — a'u heriau. Yn ddiweddarach, cofiodd ei chyd-ddisgyblion yn cwestiynu annibyniaeth, dillad ac ymddygiad ei mam, profiadau a helpodd i lunio ei hyder a'i hannibyniaeth o oedran cynnar.
Hyder cynnar a newyddiaduraeth
Yn niwedd yr 1940au, pan oedd hi yn yr ysgol o hyd, sicrhaodd Mabel gerdyn y wasg trwy ei thad a dechreuodd gyfweld ffigurau cyhoeddus yr oedd hi'n eu hedmygu. Roedd y rhain yn cynnwys y canwr Jean Sablon o Ffrainc yn Theatr Empire Glasgow, a'r golffwyr blaenllaw Dai Rees a Norman von Nida yn St Andrews. Achosodd un cyfweliad o'r fath, a gynhaliwyd yn ystod oriau ysgol a chafodd ei gyhoeddi'r bore canlynol, wrthdaro cofiadwy â'i phennaeth — arwydd cynnar o'i natur benderfynol a'i hunanhyder.
Addysg feddygol a phrofiad Ewropeaidd (1950–1957)
Aeth Mabel i Brifysgol Glasgow yn 1950, gan astudio Gaeleg yr Alban i ddechrau cyn dechrau hyfforddiant meddygol yn 1951, gan gymhwyso yn 1957. Yn ystod gwyliau’r brifysgol teithiodd yn helaeth ar draws Ewrop ar ei phen ei hun, gan ddod yn rhugl yn Almaeneg a Ffrangeg.
Gweithiodd fel:
- cynorthwyydd clinigol ym Mhrifysgol Giessen, yr Almaen
- cynorthwyydd epidemiolegol ymchwil yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd, Zagreb, o dan yr Athro Andrija Štampar (1888–1958) — sef sylfaenydd Sefydliad Iechyd y Byd ac eiriolwr blaenllaw dros feddygaeth gymdeithasol ac “Iechyd i Bawb”
Roedd y profiadau hyn yn ymgorffori ymrwymiad gydol oes i iechyd y cyhoedd, iechyd ataliol a chyd-destun cymdeithasol mewn meddygaeth.
Graddio a merched mewn meddygaeth
Yn 1957, graddiodd Mabel mewn carfan o 152 o fyfyrwyr meddygaeth, ac o'r rhain dim ond 33 oedd yn ferched (22%). Roedd ei chenhedlaeth hi o feddygon benywaidd yn ymwybodol iawn o anghydraddoldeb rhywedd o fewn y proffesiwn. Roedd y dyfyniadau a ddewiswyd gan raddedigion benywaidd yn y gyfrol graddio a gyhoeddwyd yn adlewyrchu ymwybyddiaeth ffeministaidd dawel a phendant a fyddai’n diffinio llawer o’u gyrfaoedd yn ddiweddarach.
Iechyd cyhoeddus a seiciatreg yn Llundain (1959–1974)
Yn 1959, priododd Mabel feddyg arall a symudodd i Lundain i astudio yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, gan ennill Diploma mewn Iechyd y Cyhoedd. Wedi hynny, hyfforddodd mewn seiciatreg yn Ysbyty Sant Bartholomew o dan yr Athro Linford Rees, a ddaeth yn fentor ac yn ffrind gydol oes iddi.
Daliodd Mabel swyddi fel:
- Cofrestrydd mewn Seiciatreg, Ysbyty Sant Bartholomew
- Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd a Seiciatrydd Ymgynghorol, Ysbyty Sant Thomas (o 1970)
Cyhoeddodd gwaith mewn cyfnodolion meddygol, darlithiodd yn eang, a chyfrannodd yn rheolaidd at Health Trends , sef cyhoeddiad gan yr Adran Iechyd a’r Swyddfa Gymreig.
Yn ystod y blynyddoedd hyn, ffurfiodd gyfeillgarwch parhaol â ffigurau rhyngwladol blaenllaw ym maes seiciatreg, iechyd cyhoeddus a meddygaeth gymdeithasol, gan gynnwys Syr Michael Rutter, yr Athrawon Shula ac Isaac Marks, Dr Paul Fenje (rhaglen dileu'r frech wen Sefydliad Iechyd y Byd), a'r Athro N. N. Wig, a fu'n gynghorydd allweddol i Sefydliad Iechyd y Byd ar draws y Dwyrain Canol a De Asia yn ddiweddarach.
Cymru, seiciatreg a gofal cymunedol (1974–1989)
Yn 1974, symudodd Mabel i ogledd Cymru yn dilyn penodiad ei gŵr i swydd uwch gydag Unilever. Daeth yn seiciatrydd ymgynghorol gyda Bwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru, ychydig cyn colli ei gŵr yn 1979 — a nododd ei chydweithwyr yn ddiweddarach ei gwytnwch proffesiynol eithriadol yn ystod y cyfnod hwn.
Yng ngogledd Cymru, canolbwyntiodd Dr Tannahill ar:
- ddad-sefydliadoli a gofal cymunedol
- urddas, annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol i gleifion sy'n aros am gyfnod hir
- cydweithrediad rhwng clinigwyr, seicolegwyr a Phrifysgol Bangor
Gweithiodd yn agos gyda seicolegwyr ac Adran Seicoleg y Brifysgol i ddatblygu rhaglenni a gwasanaethau adsefydlu arloesol i bobl ag anableddau dysgu.
Roedd ei harweinyddiaeth academaidd yn cynnwys:
- Arholwr Allanol mewn Seiciatreg, Prifysgol Lerpwl
- Darlithydd Clinigol er Anrhydedd, Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru, Caerdydd
- Eiriolwr sefydlol dros isadran seiciatreg academaidd yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, a agorwyd yn swyddogol yn 1989
Arweinyddiaeth genedlaethol a dylanwad polisi
Cynrychiolodd Dr Tannahill Gymru ar Fwrdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, gwasanaethodd fel Cadeirydd y Coleg yng Nghymru, a chynghorodd y Swyddfa Gymreig ar strategaeth iechyd meddwl, gan gynnwys Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru (1987).
Roedd hi hefyd yn gefnogwr cryf o gysylltiadau agosach rhwng y GIG a phrifysgolion, gan gredu bod y cydweithio hwn yn hanfodol o ran gofal iechyd effeithiol, ar sail tystiolaeth.
Gwaddol diwylliannol, llenyddol a ffeministaidd
Ochr yn ochr â meddygaeth, cynhaliodd Mabel ymgysylltiad dwfn â llenyddiaeth, celf a hanes merched. Cefnogodd yr arddangosfa garreg filltir Glasgow Girls: Women in Art and Design 1880-1920 (1990) a'r curadur Jude Burkhauser, yn rhannu ymrwymiad i adfer gwelededd diwylliannol merched.
Yn 2024, caffaelwyd darn celf wedi’i beintio gan ei mam Night and Day gan Ysgol Gelf Glasgow, gyda'r elw o’r gwerthiant yn cael ei rannu rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Bangor, gan atgyfnerthu etifeddiaeth ryng-genedlaethol addysg a llwyddiannau merched.
Mae cysylltiadau llenyddol ei theulu yn cynnwys Hugh MacDiarmid, y mae ei ohebiaeth â theulu Tannahill yn cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.
Epilog
Mae bywyd Dr Mabel Tannahill yn adlewyrchu integreiddio prin o ragoriaeth glinigol, arweinyddiaeth academaidd, rhyngwladoldeb ac argyhoeddiad ffeministaidd. Mae ei gwaddol — mewn meddygaeth, addysg, diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol — yn parhau i ysbrydoli Project Tannahill ym Mhrifysgol Bangor.
Nodiadau golygyddol:
Mae'r bywgraffiad hwn wedi'i addasu o nodiadau bywgraffyddol gwreiddiol a ysgrifennwyd gan Yr Athro David T. Jones, Mawrth 2026.