Dysgu proffesiynol i ymarferwyr

Adnoddau i gefnogi cyflwyno addysgu dwyieithog

Rydym ar drothwy cyfnod o newid sylweddol ym myd addysg. Dyma ein cyfle i gymryd perchnogaeth o'r her, a cheisio dulliau arloesol o ddysgu iaith leiafrifol, ac rydym wedi cychwyn ar y daith.

Pwrpas y llyfryn 'Dulliau Addysgu Dwyieithog’ yw cynnig trosolwg cychwynnol o'r llenyddiaeth ryngwladol sy'n ymwneud â dulliau dysgu ac addysgu dwyieithog. Mae'r llyfryn yn nodi cyd-destunau ystafell ddosbarth lle mae dwyieithrwydd yn arwain yr addysgu, gan gysylltu'r arferion hynny â'r cyd-destun addysgol yma yng Nghymru, fel sy'n nodweddiadol o brofiadau go iawn y dysgwr.  

Darllen yr e-Lyfr

Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Bangor gynhadledd undydd (cyn-bandemig) ar 'Gymraeg mewn Addysg a Dwyieithrwydd'

Canolfan Bedwyr

Mae Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs iaith y Cynllun Sabothol i athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr a chynorthwywyr ystafell ddosbarth sy'n dymuno gwella eu Cymraeg a magu mwy o hyder wrth ddefnyddio'r iaith.

Mae'r cwrs ar gael ar dair lefel, ac mae Canolfan Bedwyr ym Mangor yn cyflwyno'r cwrs Uwch: 

  • Uwch (siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl)
  • Mynediad (dysgwyr)
  • Sylfaen (dysgwyr)

Meistr mewn Addysg.

Mae saith prifysgol wedi dod ag arbenigwyr byd-enwog ynghyd i drawsnewid dyfodol addysgu. Fel rhan o'r buddsoddiad mwyaf mewn dysgu athrawon proffesiynol ledled Cymru, mae Prifysgol Bangor bellach yn cynnig gradd genedlaethol Meistr mewn Addysg.

 

MA Astudiaethau Addysg

Mae ein cwrs MA Astudiaethau Addysg llawn-amser yn rhaglen hyfforddedig 12 mis i bobl sydd eisiau gwneud gradd MA trwy astudiaeth ddwys lawn-amser. Mae gan fyfyrwyr ddewis o fodiwlau sy'n gwneud cyfanswm o 180 credyd. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i apelio at myfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol.

Mae ein rhaglen MA Astudiaethau Addysg rhan-amser wedi’i threfnu o amgylch pum penwythnos y flwyddyn, sy’n addas i bobl leol ac i rai sy’n teithio ymhellach, ac mae’n cynnig awyrgylch gefnogol a chyfeillgar i ddysgu ynddi.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?