Dwylo ar Dannau'r Delyn
Bydd Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru yn dechrau ym mis Hydref 2022 gyda thaith "Dwylo ar Dannau'r Delyn", sef cyfres o ddigwyddiadau i'r delyn mewn colegau, ysgolion a neuaddau gymunedol ledled Gymru, i arwain at yr Ŵyl.
Lansir yr Ŵyl mewn cyngerdd ym Mhrifysgol Bangor am 7.30yp ar nos Sadwrn 22 Hydref, lle bu Elinor yn Athrawes y Delyn am gyfnod hir. Yn dilyn hyn, cynhelir gweithdy telyn, dosbarth meistr a chyngerdd mewn deuddeg lleoliad trwy Gymru, gan ddechrau yn yr Adran Gerdd ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sul, Hydref 23ain, gyda'r athrawes telyn lleol, Angharad Wyn Jones. Canolfan Gerdd William Mathias sydd yn gyfrifol am drefnu'r daith o Fôn i Gaerdydd, mewn cyd-weithrediad â chwmni Telynau Vining / Camac.
Rhaglen y dydd - 23 Hydref 2022
11am Arddangosfa telynau CAMAC a thelynorion yn cyrraedd.
11.15 - 12.00 Gweithdy telyn byr efo Elinor
12-00 - 1.15 Perfformiadau unigol gan delynorion ifainc gyda sylwadau gan yr athrawon
1.15 pm Toriad am ginio
2.00 - 3.00 Cyngerdd cyhoeddus gan Elinor, yr athro / athrawes leol a'r telynorion ifanc.
3pm Diwedd
