Amserlen Pabell Dôm Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ymunwch â ni am sgwrs gan Brifysgol Bangor am 2pm bob dydd, yn y Babell Gromen Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Teitl: Bwydo'r Dyfodol: Arloesi mewn Cynhyrchu Bwyd

Gyda:
Prysor Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol
Ffion Evans, Ôl-raddedig, Ysgol Gwyddorau Naturiol

Teitl: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru - Sicrhau dyfodol gofal iechyd cynaliadwy yng Ngogledd Cymru

Gyda: Dr Nia Jones, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Feddygol (Gofal Sylfaenol), Dr Mark Edwards a myfyrwyr

Title: Pweru Cynnydd: Arloesedd Ynni Carbon Isel yng Ngogledd Cymru

Chair: Dr Ed Jones, Ysgol Fusnes

Gwesteion:
Gerallt Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Menter Mon  (Morlais)
Ifer Gwyn, Ymgysylltiad Rhanddeiliaid, BP

Teitl: Taclo Dyfodol Rygbi

Cadeirydd: I'w gadarnhau

Gwesteion:
Seren Evans, Cydymaith Ymchwil mewn Gwyliadwriaeth Anafiadau Rygbi'r Undeb
Jess Kavanah, Rygbi Rhyngwladol Merched
Gwyn Derfel, Rheolwr Datgblygu’r Gymraeg, WRU

Teitl: Dathlu Merched Arloesol mewn Gwyddoniaeth

Cadeirio: Marian Wyn Jones, Cadeirydd y Cyngor

Gwesteion:
Yr Athro Delyth Prys, Canolfan Bedwyr
Manon Jones, Cyfarwyddwr Ymchwil, Seicoleg
Mollie Duggan Edwards, Darlithydd mewn Gwyddor Môr

Teitl: Cenedl Fach, Syniadau Mawr: Gwyddoniaeth

Gyda:
Delyth Williams, Gweinyddwr Prosiect, LCEE Research Network Wales

Teitl: Profion Geneteg ar gyfer Bywyd Diogel

Yr Athro Dyfrig Hughes o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru / Ysgol Gwyddorau Iechyd, sy'n cyflwyno'r Brif Ddarlith Wyddoniaeth eleni.

Title: Monitro Feirws yn Chwyldro: Olrhain COVID-19 a Firysau Eraill

Gyda:
Uwch Dechnegydd. Ysgol Gwyddorau Naturiol
Helen Howard Jones, Swyddog Cefnogi Prosiectau Ymchwil

Amserlenni Gweithgareddau Ysgolion yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ymwelwch â stondin pob Ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol difyr

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Gwyddorau Iechyd

Modelu moleciwlaidd rhithwir
Mae gallu modelu rhyngweithiadau rhwng meddyginiaethau a phrotein yn hanfodol wrth ddatblygu meddyginiaethau modern. Yn y gweithgaredd hwn, defnyddir amgylchedd rhithwir i ymgolli mewn strwythurau protein mawr.

Rheoli'r llwybr anadlu
Gan ddefnyddio manicin pwrpasol, byddwn yn dangos sut gellir cynorthwyo cleifion pan fyddant yn cael trafferth anadlu neu pan fyddant yn  anymwybodol. 
 

Chwilio am wythiennau a rhydwelïau gydag uwchsain
Byddwn yn defnyddio'r Uwchsain i'n helpu ni i ddod o hyd i'ch gwythiennau neu eich rhydwelïau.  Bydd hyn yn ein helpu i gymryd gwaed neu osod canwla.

Modelu moleciwlaidd rhithwir
Mae gallu modelu rhyngweithiadau rhwng meddyginiaethau a phrotein yn hanfodol wrth ddatblygu meddyginiaethau modern. Yn y gweithgaredd hwn, defnyddir amgylchedd rhithwir i ymgolli mewn strwythurau protein mawr.
 

Ystafell Belydr-X rithwir
Cyfle i gael hwyl a rhoi tro ar ddefnyddio peiriant pelydr-x mewn amgylchedd clinigol efelychiadol. Cyfle i ddefnyddio’r dechnoleg a ddefnyddir i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o radiograffwyr yn y brifysgol.

Rheoli clwyfau
Byddwn yn dangos sut i lanhau, swabio a rhoi dresin ar wahanol fathau o glwyfau gan ddefnyddio offer rheoli clwyfau a breichiau artiffisial neu glwyfau croen.
 

Anatomeg rithwir
Dewch i ddarganfod sut defnyddir amgylchedd rhithwir i ddysgu anatomeg. Gan ddefnyddio meddalwedd rhyngweithiol, gallwch ddelweddu ac archwilio'r system ysgerbydol, cyhyrau, pibellau, nerfau ac organau eraill mewn 3D.

Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau 
Uwch neu is? - Cyfle i roi eich gwybodaeth am gost gwasanaethau GIG ar brawf.
Pa werth ydym yn ei roi ar ddewisiadau pobl o ran iechyd a gofal iechyd? - Dewch i ddysgu am ein maes ymchwil.
 

Genedigaeth rithwir
Dewch i ddefnyddio ein adnodd rhithwir newydd gwych a ddefnyddir i ddysgu myfyrwyr ar y cwrs bydwreigiaeth. Cewch eich cludo yn syth ir ystafell esgor i ddarparu gofal uniongyrchol i'r ferch a'i phartner yn ystod yr enedigaeth. 

Her cyllideb cwch
Ymunwch â ni i ddylunio ac adeiladu cwch.  A fydd eich cwch yn arnofio? Yn hwylio? Yn edrych yn dda?  Dysgwch sut byddwn yn gwneud penderfyniadau gofal iechyd gyda'r Her Cyllideb Cwch! 

SIMMum
Dewch i arbrofi gyda SimMom. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgaredd efelychiadol sy’n seiliedig ar ofal bydwreigiaeth gan nodi arwyddion bywyd, gwrando ar guriad calon y ffetws a darparu gofal cyffredinol i SimMom.

Hwyl wrth gyfathrebu
Mae nyrsys yn defnyddio bob math o ffyrdd i gyfathrebu yn effeithiol. Ymunwch yn yr hwyl, arwyddo, Makaton, datrys y cod, bingo cyfathrebu a mwy!

Adnabod yr esgyrn
Allwch chi enwi'r esgyrn? Ble mae’r rhain yn y corff? 

Celloedd Henrietta Lacks (HeLa)
Mae'r gallu i dyfu celloedd dynol mewn labordy yn hanfodol ar gyfer ymchwil feddygol. Dewch i glywed stori Henrietta Lacks ac edrych ar ei chelloedd trwy ficrosgop.

Piniwch yr organ
Allwch chi enwi’r organau? Allwch chi osod yr organau yn y man cywir ar y corff? 

Modelau anatomegol
Edrychwch ar y modelau anatomegol, allwch chi enwi unrhyw un o'r rhannau?

Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg

Defnyddiwch eich sgiliau codio i ddatrys her Minecraft! Byddwn yn rhoi gwobrau ddwywaith y dydd!
 

Camwch i esgidiau asiant cudd a defnyddiwch eich sgiliau datrys problemau i ddianc rhag sefyllfa ludiog!

Ymwelwch â Phabell y Plant yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 11yb bob dydd, i gymryd rhan yn ein her 30-munud Torri Cod!
Allwch chi ei ddatrys? Defnyddiwch eich sgiliau torri cod a datrys problemau i agor y blwch cyn i'ch amser ddod i ben.
 

Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Profwch eich cydsymud llaw a llygad yn ein prawf amser adweithio.

Gellir defnyddio'r Batak i wella amser ymateb, hyfforddi lefelau stamina a ffitrwydd a gwella ymwybyddiaeth ofodol. Fe'i defnyddir mewn llawer o feysydd chwaraeon proffesiynol a pherfformiad uchel gan gynnwys F1, rygbi, pêl-droed, tenis, a chan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
 

Dewch i ddarganfod mwy am y rhaglen RILL, sef Rhaglen Iaith a Llythrennedd wedi ei ddatblygu gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor i asesu iaith a llythrenedd plant cyfnod allweddol 2.

Dewch i ddarganfod sut mae ein robot yn ein helpu i ddeall sut mae'r gallu i reoli gwrthrychau allanol yn datblygu trwy blentyndod. Mae'r robot yn profi ein gallu i daro targedau yn gyflym ac yn gywir wrth ddefnyddio offer siâp gwahanol. Mae hyn yn archwilio a yw'r ymennydd yn 'deall' sut mae blaen yr offeryn yn symud mewn perthynas â'r corff. Bydd ein canfyddiadau yn llywio datblygiad dyfeisiau gwell, yn benodol dwylo prosthetig i blant.
 

Darganfyddwch sut gallwn ni ddefnyddio'r prawf Stroop i fesur gallu a sgiliau sylw dethol unigolyn, cyflymder prosesu er mwyn gwerthuso galluoedd prosesu gweithredol cyffredinol.
 

Rhowch gynnig ar ddatrys Her Tŵr Hanoi. Defnyddir tŵr hanoi yn aml mewn ymchwil seicolegol ar ddatrys problemau, er enghraifft i astudio dilyniant datblygiadol mewn plant a phobl ifanc.
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?