Tiwtor
Dr Gareth Evans-Jones

Mae Dr Gareth Evans-Jones yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd, ac yn awdur creadigol. Wrth ei waith, mae’n cyson ymwneud â gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau, syniadau a chredoau, a bydolygon, ac yn ymwybodol o’r angen i barchu diwylliannau gwahanol a pheidio â’u meddiannu. Mae ganddo arbenigedd mewn diwylliannau mwyafrif byd, a sgyrsiau rhwng grwpiau ffydd, ac mae wedi cynnal gweithdai yn y gorffennol ar sut i osgoi meddiant diwylliannol mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys y gweithdy sut i osgoi meddiant diwylliannol mewn llyfrau a gynhaliwyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2021