
Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr
Mae’r Gwasanaeth Lles yn rhan o’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae’r gwasanaeth yn cynnig Cwnsela, Cyngor ar Iechyd Meddwl, Trais Rhywiol a Chefnogaeth Aflonyddu a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr.
Am wybodaeth a/neu chyngor, neu i wneud apwynitiad ebostiwch y gwasanaeth .
Mae'r Gwasanaeth Lles yma i'ch cefnogi chi drwy eich astudiaethau. Ond, os yr ydych angen cefnogaeth mewn argyfwng, gofynnir ichi gysylltu a'ch Meddyg am apwyntiad brys neu os yn teimlo nad oes modd gadw eich hyn yn saff, awgrymir ichi ffonio 999 neu ymweld a'ch Uned Damweiniau ac Ashosion brys.