Mae ein tîm Llwyddiant Myfyrwyr: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y brifysgol a sicrhau eich bod yn parhau i symud ymlaen wrth i chi baratoi at eich gyrfa ar ôl graddio.
Mae ein Cefnogaeth yn canolbwyntio ar bedair thema er mwyn eich helpu i Archwilio, Profi, Mynegi a Chysylltu, felly pa bynnag gam rydych chi arno wrth feddwl am Yrfa, rydym gyda chi bob cam o'r ffordd.
Mae'r Stiwdio Gyrfaoedd wedi ei lleoli ar lawr cyntaf Llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau, ac mae’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm. Nid oes rhaid cael apwyntiad, gallwch alw heibio ar amser sy'n gyfleus i chi.
Ewch ar daith o amgylch y Stiwdio Gyrfaoedd
Defnyddiwch y daith ryngweithiol o'r Stiwdio Gyrfaoedd i gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion a chwrdd â rhai o'n Cymhellwyr Gyrfa.
Cwrdd â'ch Cymhellwyr Gyrfa
Myfyrwyr, yn union fel chi, yw ein Cymhellwyr Gyrfa, ac maent wedi cael hyfforddiant llawn. Maent yn darparu cefnogaeth ar bob agwedd, o ystyried dewisiadau, i gynllunio eich gyrfa a gwneud cais am swydd.
Pa bynnag gam rydych chi arno wrth feddwl am yrfa; maent yma i’ch helpu.
Galwch heibio i weld y tîm i gael gwybod mwy!
Abigail
Fy nghyngor mwyaf defnyddiol, er nad yw'n wreiddiol (!), yw gwneud cais am BOB DIM! Nid oes ots a ydych yn teimlo mai chi yw'r unigolyn gorau i’r swydd, neu a oes gennych y set sgiliau cywir ar hyn o bryd. Mae gwneud cais am gymaint ag y gallwch yn cynyddu eich sgiliau ymgeisio ac yn helpu cynyddu eich hyder i wynebu pobl anghyfarwydd. Ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gwneud doethuriaeth yn syth ar ôl BSc ac MSC, ond gwnes gais a chefais le! Ni allwch fyth wybod pa swydd y gallech ei chael os na fyddwch yn gwneud cais amdani!
George
Manteisiwch ar bob cyfle i wneud cais am interniaethau haf! Interniaethau yw un o'r ffyrdd gorau o ennill profiad perthnasol mewn diwydiant, cael blas ar wahanol lwybrau gyrfa, a dangos eich menter a'ch brwdfrydedd i gyflogwyr posib.
Kallolini
Peidiwch â gadael i ddiffyg hyder eich rhwystro rhag gwneud rhywbeth. Ymchwiliwch yn drylwyr, siaradwch â phobl yn yr un maes/swydd, paratowch yn drylwyr a meddyliwch am yr hyn sy'n gwneud i chi sefyll allan, tynnwch sylw at eich cryfderau a pheidiwch ag anghofio teilwra eich CV i gyd-fynd â’r swydd.
Luce
Fy awgrym mwyaf defnyddiol yw camu y tu allan i'r hyn sy’n gyfarwydd i chi. Boed yn gamau bach neu fawr, rydych yn siŵr o ddysgu pethau newydd, nid yn unig am eich gwaith, ond amdanoch chi eich hun hefyd.
Nyasha
Rwy'n meddwl mai fy awgrym gorau yw peidio â chyfyngu eich hun i’r hyn rydych yn meddwl sy'n bosib, ond i feithrin perthynas â phobl a rhwydwaith o'ch cwmpas. Po fwyaf y byddwch yn gwthio eich gyrfa, y mwyaf y byddwch yn ei gael ohoni. Rwy’n hoffi’r agwedd ‘chewch chi ddim byd heb ofyn’.
Ollie
Peidiwch ag ofni cymryd cam rydych chi'n meddwl sydd i gyfeiriad anghywir. Mae pob profiad yn rhoi sgiliau gwerthfawr i chi, ac weithiau'n rhoi dealltwriaeth newydd o'ch maes, eich bywyd neu'ch nodau – pethau a all wir eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa!
Phillippa
Nodwch beth sy'n bwysig i chi a beth yw eich gwerthoedd. Dewch o hyd i gwmni a swydd sy'n cyd-fynd â'r gwerthoedd hynny.
Saskia
Cofiwch nad oes rhaid i'ch taith tuag at yrfa fod yn llinell syth i fod yn llwyddiannus. Rhowch ganiatâd i chi eich hun ystyried gwahanol ddiddordebau a chanolbwyntiwch ar feithrin sgiliau trosglwyddadwy - fel cyfathrebu clir a hyblygrwydd - a fydd yn ddefnyddiol iawn i chi ble bynnag byddwch yn gweithio yn y pen draw.
Sebastian
Peidiwch â disgwyl tan y byddwch yn teimlo'n "barod" cyn gwneud cais am rywbeth newydd. Daw'r rhan fwyaf o ddatblygiad gyrfa o ymgymryd â phethau anghyfarwydd a dysgu wrth wneud.