GWYBODAETH BWYSIG I BOBL FYDD YN DOD I’R GYNHADLEDD

Cod Ymddygiad

Rydym wedi ymrwymo i wneud y gynhadledd hon yn un gynhyrchiol a difyr i bawb. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o aflonyddu ar gyfranogwyr. Os oes gennych bryder, anfonwch e-bost atom neu siaradwch ag un o drefnwyr y gynhadledd. Rhaid i gyflwynwyr/awduron ddatgan bod yr holl waith wedi ei wneud yn unol â chanllawiau ASAB/ABS ar gyfer trin anifeiliaid mewn ymchwil.

Person ar laptop

Cydraddoldeb

Fel cynhadledd fach, yn gyntaf, rydym yn ceisio herio ein hunain a'r gymuned ASAB i sicrhau amgylchedd o ofal a pharch i bob unigolyn. Yn ail, rydym yn ymdrechu i sicrhau cynrychiolaeth briodol o ferched a dynion yn unol â'r cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein cymuned ymchwil ym mhob agwedd ar gynhadledd ASAB.

group of smiling students
Credit:Nassom Azevedo @unsplash

Teuluoedd

Mae ASAB yn cynnig grantiau gofal plant gwerth hyd at £500. Bwriad y grantiau yw cyfrannu at gostau ychwanegol mynd i gynadleddau sy’n wynebu aelodau â phlant ifanc 

Mae ASAB Gwanwyn 2023 yn caniatáu gwisgo babanod ym mhob man ac yn croesawu plant a gofalwyr dan oruchwyliaeth (gweler polisi iechyd a diogelwch Prifysgol Bangor ynglŷn â phlant a phobl ifanc). Mae lle bwydo cyfforddus a chyfleusterau newid babanod ar gael hefyd. Gwahoddir y rhai sy'n dod i’r gynhadledd i ddarparu manylion y plant a/neu ofalwyr sy'n dod wrth gofrestru. Yna, efallai y bydd aelod o'r pwyllgor trefnu yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth.

Hygyrchedd

Ceir mynediad i gadeiriau olwyn a lifftiau yn y lleoliad. Gwahoddir pobl sy’n dod i’r gynhadledd i roi gwybodaeth am hygyrchedd neu anabledd wrth gofrestru ac efallai y bydd aelod o’r pwyllgor trefnu yn cysylltu â hwy i drafod unrhyw drefniadau cymorth posib. Bydd Cynhadledd Wanwyn ASAB 2023 yn sicrhau bod anghenion pawb sy’n dod i’r gynhadledd yn cael eu diwallu.

Cyfryngau Cymdeithasol

  • Dilynwch Gynhadledd Wanwyn ASAB 2023 ar Twitter @ASAB_conference a defnyddio #ASABangor wrth drydar.
  • Tagiwch @BangorUni, @BangorSNS a @BangorBioZoo wrth drydar am #ASABangor os yn briodol (dyma gyfrifon Trydar Prifysgol Bangor, Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, a Bioleg a Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor).
  • Gallwch drydar (neu gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol eraill) am yr hyn rydych yn ei glywed ac yn ei ddysgu yn #ASABangor, ond peidiwch â rhannu os bydd y siaradwr wedi gofyn yn benodol ichi beidio â gwneud hynny. Gellir rhannu cyflwyniadau a phosteri yn ddiofyn, ond gall siaradwyr ofyn i'r cyflwyniad, neu fanylion penodol neu sleidiau beidio â chael eu rhannu gan ddefnyddio symbol “dim cyfryngau cymdeithasol”.    
  • Dylech gyfathrebu â pharch ac ystyriaeth at eraill, gan ddilyn canllawiau arfer da eich sefydliad eich hun, neu gallwch ddarllen canllawiau Prifysgol Bangor ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Anfonwch e-bost atom neu siaradwch ag un o drefnwyr y gynhadledd (yn gyfrinachol) yn y lle cyntaf os oes gennych unrhyw bryderon neu sylwadau ynglŷn â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
  • Bwlio, aflonyddu, neu fod yn anghwrtais i unrhyw unigolyn neu grŵp.
  • Postio delweddau amhriodol neu dorri hawlfraint.
  • Postio delweddau neu ailddosbarthu sleidiau neu ddata os yw’r cyflwynydd wedi nodi “dim cyfryngau cymdeithasol”; mae symbol o'r fath yn nodi y gallai rhannu’r data olygu na fydd modd i’r awdur ei gyhoeddi neu rwystro gweithredu polisïau embargo neu debyg yn ddiweddarach.
Llun o gaeau gwyrdd gyda choed yn y cefndir ac awyr las uwchben
Credit:Lars_Nissen Pixabay

CYNALIADWYEDD

Ym Mhrifysgol Bangor ein nod yw:

  • Croesawu a hyrwyddo'r pum ffordd o weithio i gyflawni nodau llesiant Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig
  • Sicrhau'r safonau uchaf o ran perfformiad amgylcheddol (gan gadw ein hachrediad ISO14001:2015).
  • Cyfrannu at gwricwlwm sy'n adlewyrchu ymrwymiad y brifysgol i ddatblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.
  • Hyrwyddo cynaliadwyedd mewn gweithgareddau ymchwil, busnes a menter
  • Hyrwyddo ethos 'Mae'r Gymraeg i bawb' a normaleiddio'r profiad o fyw mewn amgylchedd amlieithog.
  • Hyrwyddo adroddiadau integredig i gyfleu gwybodaeth am lwyddiant
  • Cydweithio â'r prifysgolion eraill yng Nghymru i wneud Canolfan Ragoriaeth Ranbarthol Cymru yn realiti
  • Gwella ein dyfodol cynaliadwy

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin ar gynaliadwyedd, rhag ofn bod gennym ddiweddariad ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?