RHAGLEN GYNHADLEDD WANWYN ASAB

Siaradwyr llawn

 

Headshot of Ines

Dr Ines Fürtbauer

Teitl y sgwrs: ‘A time-depth perspective of behavioural endocrinology’

Bywgraffiad: Mae Dr Ines Fürtbauer (Baglor Vienna, PhD Göttingen) yn Athro Cysylltiol yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil ym maes ecoleg ymddygiadol ac endocrinoleg ac mae’n canolbwyntio ar ddeall yr achosion a’r canlyniadau yn ogystal â gwerth addasol amrywiad mewn ymddygiad gyda phwyslais cryf ar weithredoedd a mecanweithiau hormonaidd. Trwy gyfuno amrywiaeth eang o dechnegau dadansoddi hormonau anfewnwthiol o’r radd flaenaf â thechnolegau tracio anifeiliaid, nod Dr Fürtbauer yw ymestyn terfynau endocrinoleg ymddygiadol nid yn unig i fynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol a rhagorol yn y maes ond hefyd i fynd i’r afael â materion pwysig a materion llosg ym maes lles, rheolaeth a chadwraeth anifeiliaid.

Headshot of Steve H Montogomery

Dr Stephen H Montgomery

Teitl y sgwrs: ‘Evolution of neuronal elaboration and cognition’

Bywgraffiad: Dechreuodd fy ngyrfa ymchwil gyda PhD ar esblygiad ymennydd primatiaid gyda Nick Mundy, cyn i mi ymuno â labordy Judith Mank, am gyfnod byr yn Rhydychen ac yna yn UCL, o dan gymrodoriaethau ar ddechrau gyrfa olynol gan y Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851 ac Ymddiriedolaeth Leverhulme. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuais gyfres o brojectau ar esblygiad ymennydd mewn gloÿnnod byw neodrofannol a ddatblygodd i fod yn destun ymchwil fy Nghymrodoriaeth Ymchwil gyfredol, a gyllidir gan NERC a'r ERC. Yn 2019 ymunais â’r gyfadran yn Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bryste i adeiladu labordy gyda diddordeb mewn ymddygiad anifeiliaid, niwrobioleg esblygiadol a niwroecoleg. Mae gan ein grŵp ddiddordeb mewn sut mae ymennydd yn esblygu i gynhyrchu amrywiaeth ymddygiadol ac ecolegol. Er mwyn ceisio deall y cysylltiadau hyn, rydym yn cyfuno amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymddygiad ac ecoleg, niwroanatomeg a datblygiad, a genomeg gymharol.

 

headshot of David Fisher

Dr David Fisher

Teitl y sgwrs: ‘Networking with beasts: Connecting with animal behaviour through edges and vertices.’

Bywgraffiad: Cwblhaodd David ei BSc mewn Swoleg ac MRes ym Mhrifysgol Lerpwl, gyda Tom Price yn goruchwylio'r olaf. Yna gwnaeth ei PhD ar gampws Prifysgol Exeter yn Penryn yng Nghernyw gyda Tom Tregenza a Rolando Rodríguez-Muñoz. Yn dilyn hyn aeth David i Ganada ar gyfer dwy ôl-ddoethuriaeth, y cyntaf gydag Andrew McAdam ym Mhrifysgol Guelph, yr ail gyda Jonathan Pruitt ym Mhrifysgol McMaster. Ym mis Ionawr 2020 symudodd yn ôl i Brydain i ddechrau fel Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Aberdeen, lle mae wedi bod yn adeiladu ei grŵp ymchwil ei hun. Mae David yn fiolegydd esblygiadol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ymddygiad, yn enwedig ymddygiadau cymdeithasol, ac yn amlaf ar infertebratau, ond mae ei ddiddordebau'n amrywiol. Mae wedi gweithio ar wiwerod, dolffiniaid, adar môr, pryfed ffrwythau, criced, a phryfed cop cymdeithasol, gan astudio anifeiliaid yn y gwyllt ac yn y labordy, ac mae wedi arwain adolygiadau, erthyglau dulliau, a phapurau damcaniaethol yn ogystal ag astudiaethau empirig.

 

image of coffe and tea mugs in a circle

SGWRS DROS BANED

Yn ystod egwyliau coffi’r bore (29 a 30 Mawrth), bydd cyfranogwyr y gynhadledd yn cael cyfle i gwrdd â rhai o aelodau staff academaidd Prifysgol Bangor sy’n gweithio ym maes ymchwil Ymddygiad a Ffisioleg Anifeiliaid.

Os hoffech gael sgwrs dros baned gydag unrhyw un o drefnwyr y gynhadledd a enwir isod, yna cliciwch ar eu henw i weld eu tudalen we a’u cyfeiriad e-bost. Cysylltwch â hwy trwy e-bost gan roi "ASAB Spring 2023 coffee meetup" fel teitl i’ch neges.

Professor Richard HollandDr Katherine JonesDr Graeme ShannonDr Kirsty MacLeodDr Darren ParkerDr Ewa KrzyszczykDr Caroline Bettridge, a Dr Alexander Georgiev

Drawing ideas on a whiteboard
Credit:Kaleido @Unsplash

GWEITHDY

Rydym wrthi’n paratoi diwrnod difyr o weithdai!

Dewch yn ôl yma maes o law i weld yr amserlen.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?