Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Llongyfarchiadau! Fy enw i ydi Peredur Webb-Davies a dwi'n darlithio mewn Ieithyddiaeth.
Dwi'n rhan o adran lle mae pawb yn astudio Ieithyddiaeth - Linguistics, neu Iaith Saesneg neu Ddwyieithrwydd. Da ni o dan ysgol fwy lle mae pawb yn yr ysgol yn astudio Iaith, Diwylliant a Chelfyddydau.
Fel myfyriwr efo ni yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf mi fyddi di yn dysgu am beth ydi iaith a sut mae iaith yn cael ei ddefnyddio. Fyddi di yn edrych ar amrywiaeth iaith, hanes iaith a manylion gramadeg iaith, sut i ddisgrifio strwythur geiriau a sain iaith.
Mae Bangor yn le gwych i astudio, mai'n ddinas fach a chyfeillgar ac mae wrth gwrs yn ddwyieithog a Chymreig iawn. Felly da ni'n edrych ymlaen iawn i dy weld di yma yn fuan. Llongyfarchiadau eto a hwyl fawr.
Cwestiynau Cyffredin
Mewn wythnos arferol, bydd gennych gydbwysedd o ddysgu strwythuredig a hyblyg, gydag 6–11 o oriau cyswllt ym mlwyddyn 1 a 2, ynghyd ag amser ychwanegol ar gyfer astudio annibynnol. Yn ogystal â sesiynau wedi eu hamserlennu, byddwch yn gallu cyfarfod â chyd-fyfyrwyr gyda diddordebau tebyg (fel Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor), yn ogystal ag aelodau staff yn ystod eu horiau swyddfa.
Gall oriau cyswllt amrywio pob wythnos yn dibynnu ar eich cwrs penodol, eich blwyddyn astudio a chyfuniad y darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.
Na, nid oes rhaid bod yn rhugl mewn ail iaith, ond gall fod yn fuddiol. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyrsiau iaith os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu iaith arall. Bydd ein modiwlau iaith rhagarweiniol hefyd yn eich helpu i ddeall gwahanol strwythurau ieithyddol ar draws ieithoedd, hyd yn oed os nad ydych yn siarad iaith arall.
Efallai y bydd graddedigion eisiau dilyn gyrfaoedd mewn cyfieithu, ymchwil ieithyddiaeth, cyhoeddi, lecsicograffeg, ysgrifennu cynnwys, cyfathrebu, y cyfryngau, neu weithio gyda chwmnïau technoleg sy'n arbenigo mewn prosesu iaith naturiol (NLP). Bydd y radd yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau i chi sy'n werthfawr ar draws llawer o feysydd gyrfa gwahanol sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth a thu hwnt. Gallwch ddewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-radd bellach a hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn therapi iaith a lleferydd neu yrfa mewn addysgu ar lefel gynradd neu uwchradd, TEFL neu TESOL.
Mae myfyrwyr ac ymchwilwyr yn elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf, o stiwdio sain a recordio o safon broffesiynol gyda siambr anatseiniol, i labordai tracio llygaid, EEG ar gyfer astudiaethau ERP, ac adnoddau ieithyddiaeth corpws cynhwysfawr. Gallant hefyd wneud defnydd o fan astudio ac ymlacio pwrpasol Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor, sy'n cael ei harwain gan fyfyrwyr ac sydd â llyfrgell helaeth ar thema ieithyddiaeth sy'n cynnwys llawer o destunau craidd.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Dr Peredur Webb-Davies
Bod y fath beth a 'siarad yn gywir'. Cyn belled a bod rhywun yn gallu cael ei ddeall, yna sut bynnag maen nhw'n siarad - dim ots pa mor safonol neu ffurfiol, neu i'r gwrthwyneb - maen nhw'n siarad yn gywir. Ond mae llawer o bobl (tu allan i ieithyddiaeth, wrth gwrs!) yn credu bod rhywbeth gwell am siarad gan ddefnyddio gramadeg safonol, er enghraifft; y gwirionedd yw mai dim ond un ffurf ar iaith ydi hwnnw, yn briodol ar gyfer rhai sefyllfaoedd ond nid pob un.
Rydw i'n hoffi agor llygaid pobl i amrywiaeth iaith ac i'r holl ffyrdd gwahanol mae pobl yn defnyddio iaith fel Saesneg neu Gymraeg. Mae darganfod a thrafod y rhesymau pam mae pobl yn siarad yn wahanol yn ddiddorol iawn hefyd.
- Diddorol
- Pwysig
- Agor llygaid
Yr Athro Eben Muse
Cefais fy magu mewn siop lyfrau. Astudiais lenyddiaeth yn y Coleg, a diwylliant llyfrau oedd yn fy nenu i.
Mae gan bawb eu stori eu hunain i'w hadrodd am eu profiadau wrth ddarllen a rhannu llyfrau. Dwi’n mwynhau dod â'r straeon hynny at ei gilydd i ddeall sut mae llyfrau'n ymgysylltu â'n diwylliant.
Mae hon yn brifysgol bersonol iawn. Dwi’n gwybod enwau pob un o’m myfyrwyr, a dwi’n dweud helo pan fyddwn yn cyfarfod mewn caffis neu yn y cyntedd.
Nid ydych bob amser yn gwybod i ble yr ydych yn mynd nes i chi gyrraedd pen y daith.