“Fel sawl camp arall, mae golff yn dibynnu ar gytgord rhwng yr ymennydd a’r corff i drosi’r union gyfrifiadau a wneir cyn pob ergyd yn set o symudiadau sy’n gyrru’r bêl i’r cyfeiriad y bwriadwyd ei tharo.”

Dr Andy Cooke ,  Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon

Mewn cyfres o arbrofion a gynlluniwyd i daflu goleuni newydd ar y prosesau seicoffisiolegol sy'n sail i berfformiad dynol, mae ymchwilwyr y Sefydliad wedi bod yn mesur tonnau ymennydd, symudiadau llygaid, gweithgarwch cardiaidd, a chinemateg symudiadau yn yr eiliadau yn union cyn ac yn ystod swingio’r clwb. Mae eu canfyddiadau wedi datgelu mecanweithiau newydd ac wedi gosod y sylfeini ar gyfer ymyriadau hyfforddi newydd sy'n cael sylw cynyddol gan bwysigion y byd golff.

Ychwanegodd Andy: “Datgelodd dadansoddiadau o donnau’r ymennydd yn yr eiliad neu ddwy cyn y symud fod cynnydd sydyn o ran y synwyryddion sy’n cael eu hactifadu dros rannau blaen a chanolog yr ymennydd sef y rhannau sy’n gysylltiedig â chynllunio a rheoli symudiadau. Ar yr un pryd, gwelsom ostyngiad yn y synwyryddion sy’n cael eu hactifadu yn rhannau eraill yr ymennydd. Mae hyn yn awgrymu crynhoi ac ailgyfeirio tuag at gynllunio symudiadau, ac i ffwrdd o prosesau eraill, megis pryderu am berfformiad, cyn taro pytiau. Y peth mwyaf cyffrous yw bod y patrwm actifadu ffocal hwn yn llawer cryfach mewn arbenigwr nag mewn golffwyr sy’n dechrau ymddiddori yn y gamp. Roedd hyn yn dwysáu gydag ymarfer, a phan wnaethom ddadansoddi ergydion da ac ergydion gwael yn ôl-weithredol, canfuom fod y patrwm yn gryfach cyn pytiau llwyddiannus o gymharu â phytiau aflwyddiannus”.

Mewn geiriau eraill, roedd tonnau'r ymennydd yn gysylltiedig â'r symudiad, ac roedd ymchwilwyr y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yn gallu rhagweld a oedd y bêl yn debygol o fynd i'r twll ai peidio yn seiliedig ar donnau’r ymennydd cyn i'r bêl gael ei tharo.

Mae hyn yn gyffrous iawn ac yn agor y posibilrwydd y gellir cynnal hyfforddiant niwroadborth - lle rydym yn defnyddio adborth amser real i alluogi golffwyr i ddeall tonnau’r ymennydd, datblygu strategaethau i'w rheoleiddio a’u dysgu i gychwyn eu swing dim ond pan fyddant yn cynhyrchu'r patrwm sy'n ffafriol i ergydion llwyddiannus.”

Mae tîm y Sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal yr ymchwil niwroadborth hwn gyda golff a champau eraill ac mae'r cysyniad eisoes wedi'i ddefnyddio gan rai o chwaraewyr gorau'r byd gan gynnwys Justin Rose o Dîm Ewrop a Brooks Koepka o Dîm UDA.    

Ar wahân i donnau’r ymennydd, datgelodd yr ymchwil hefyd batrymau pwysig o ran ymddygiad syllu’r llygaid a gweithgarwch cardiaidd fel cynhwysion ychwanegol ar gyfer pytiau golff llwyddiannus.

“Roedd golffwyr sy’n dechrau ymddiddori yn y gamp a chwaraewyr profiadol yn dueddol o syllu ar y bêl am eiliad neu ddwy cyn dechrau ar y pyt, ond yn ystod y swing yr oedd y gwahaniaeth allweddol. Roedd chwaraewyr profiadol yn syllu ar y bêl wrth swingio am yn ôl ac yn parhau i syllu’n gyson ar yr un man am hyd at eiliad ar ôl i'r bêl gael ei tharo. Mewn cyferbyniad, roedd y dechreuwyr yn tueddu i neidio gyda'u llygaid i ddilyn y bêl wrth iddi symud. Gwelsom fod parhau i syllu’n gyson wrth swingio ac yn syth ar ôl taro'r bêl yn helpu i gael rhagor o bytiau i fynd i mewn i'r twll. Mae o yn bosib cadw’r llygaid yn llonydd drwy gydol y cyswllt wedi helpu’r golffwyr i gael ystum a a dienyddiad esmwyth.”

Dr Germano Gallicchio,  Darlithydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Andy added “Gwelsom hefyd arafiad rhyfeddol yng nghyfradd curiad y galon yn y 6-10 eiliad cyn pytio, gyda chyfradd curiad y galon yn gostwng tua 10 curiad y funud ymhlith dechreuwyr a thua 20 curiad y funud mewn chwaraewyr profiadol, gyda chyfradd isaf curiad y galon ar ddechrau'r swing.”

Mae hyn yn dangos bod canolbwyntio’r meddwl, cadw’r llygaid yn llonydd a chadw cyfradd curiad y galon yn ddigynnwrf yn gynhwysion allweddol ar gyfer cael pytiau gwych. 

Felly beth all golffwyr ei wneud i gyflawni'r cyflyrau seicoffisiolegol gorau posibl ar y lawntiau pytio? 

Mae'r tîm yn fodlon rhannu rhai awgrymiadau.

  1. Canolbwyntiwch ar y llinell a pha mor bell y mae angen taro'r bêl, gan gau allan synhwyrau a meddyliau eraill. “Canfu ein hymchwil y gall adrodd yn ddistaw cyfarwyddyd syml yn y meddwl fod o gymorth yn fan hyn – mae ciwiau megis glân … neu llyfn… yn aml yn gweithio’n dda ar gyfer swing golff”.
  2. Syllwch ar y bêl cyn swingio a chadwch eich llygaid yn edrych i’r un lle trwy gydol y swing.
  3. Byddwch yn llonydd iawn yn yr eiliadau cyn i chi fwriadu swingio. Gall sefyll yn llonydd, ar y cyd â syllu’n gyson ar yr un lle a meddwl am giw swingio syml, helpu eich curiad calon i ostwng.
  4. Gwasgwch eich llaw chwith wrth gerdded o ergyd i ergyd. “Mae hyn yn swnio braidd yn wallgof, ond mae’n seiliedig ar y wyddor o sut mae ein hymennydd yn gweithio – gall gwasgu’r llaw chwith helpu i ddadactifadu hemisffer chwith yr ymennydd – rhywbeth y llwyddom i’w ddangos mewn astudiaeth golff arall yn ddiweddar. Yn seiliedig ar ein hymchwil cynharach, rydym yn rhagweld y gall hemisffer chwith cymharol dawel helpu perfformiad trwy leihau’r siawns o orfeddwl wrth bytio.”

Andy concluded “Er ein bod yn gobeithio y gall ein canfyddiadau helpu i ddyrchafu perfformiad golff chwaraewyr elît ac amatur fel ei gilydd, rydym hefyd yn gweld yr ymchwil hwn fel sylfaen ar gyfer projectau newydd y tu hwnt i chwaraeon... e.e., helpu ymatebwyr brys i berfformio ar eu gorau wrth roi llawdriniaethau sy'n hanfodol i fywyd ... neu helpu pobl â chlefyd Parkinson i reoli symptomau echddygol y clefyd i wella ansawdd eu bywyd.”

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?