Ecoamgueddfa Pen Llŷn yn Eisteddfod Boduan
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yw cartref yr Ecoamgueddfa o fewn Prifysgol Bangor, wrth i Dr Einir Young a Gwenan Griffith weithio’n agos gyda Dr Kate Waddington, Dr Leona Huey, Dr Gary Robinson, Dr Karen Pollock a’r Athro Peter Shapely. Derbyniodd y prosiect LIVE gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.
Wrth i gyfnod tair blynedd prosiect LIVE, sydd wedi ariannu gwaith Ecoamgueddfa Llŷn dros y tair blynedd ddiwethaf ddirwyn i ben, roedd yn wych gallu rhannu’r llwyddiannau a’r cynnyrch gyda phobl yr ardal a chyda phawb ddaeth i fwynhau bwrlwm stondin yr Ecoamgueddfa yn yr Esiteddfod Genedlaethol eleni. Nod yr Ecoamgueddfa yw sicrhau fod Pen Llŷn yn cael ei barchu fel cartref yn ogystal â chyrchfan, fel yr amlinellir a rei gwefannau: www.ecoamgueddfa.org a www.ecomuseumlive.eu.
Cafwyd amserlen hynod lawn gyda 21 digwyddiad i gyd, ond nid oes lle i sôn am bob un ohonynt.
Un o’r uchafbwyntiau oedd cael croesawu dwy o ysgolion y sir bob bore i arddangos y cefnlenni a grëwyd ar gyfer prosiect ‘Gair Mewn Gwlân’.
Rhannwyd llawer o gynnyrch yr ecoamgueddfa – y taflenni dysgu Cymraeg, Cymraeg yn yr Eisteddfod, chwe thaflen y Saffaris bywyd Gwyllt, a chafwyd sesiwn gan Rhys Mwyn a Dr Kate Waddington yn trafod y creiriau o Feillionnydd ger Rhiw a gafodd eu harddangos drwy’r wythnos, ac fe wnaethon nhw hefyd lansio taith rithiol Tre’r Ceiri (ecomuseumlive.eu) – adnodd sydd ar gael fel arddangosfa barhaol ym Mhorth y Swnt.
Lansiadau lu!
Lansiwyd tri llyfr a chyfres o flogiau gan Aled Hughes yn ystod wythnos yr Eisteddfod:
CipLŷn – llyfr sy’n benllanw prosiect LIVE
Cyfrol yw CipLŷn sy’n cyflawni dau nod, sef cyflwyno Ecoamgueddfa Llŷn i’r genedl a rhoi’r cyfle i 14 o ‘ferchaid’ Llŷn gael rhannu eu profiadau a’u teimladau am eu milltir sgwâr eu hunain drwy air a llun. Ceir ynddi gofnod o’u teimladau tuag at fro eu mebyd, at y gymuned ac am eu dyheadau a’u pryderon am y dyfodol gan roi cip i ni ar eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn frwdfrydig iawn yn lleol ac o’r tu hwnt i Gymru.
Dyma oedd gan Dr Jamie Davies o wasg AHRC i’w ddweud:
Gair mewn Gwlân
Mae ‘prosiect’ yn air rhy ddi-ddim i gyfleu gwir bwêr y gwaith a gafodd ei arwain gan y Prifardd Esyllt Maelor ac a gofnodwyd yn y llyfryn hwn, Gair mewn Glwân, drwy gyllid yr Ecoamgueddfa (LIVE).
Rhoddwyd y cyfle i 37 o ysgolion cynradd Gwynedd roi geiriau ac enwau ar gefnlenni o sgwariau a gafodd eu gwau gan bobl o bedwar ban byd ond, yn bennaf, o Wynedd.
Meddai Esyllt: “Mae yma enwau porthoedd a phyllau, ogofâu a chreigiau, ffermydd a ffynhonnau, caeau, afonydd, moelydd a phonciau chwarel. Disgyblion ysgolion y prosiect fu’n dewis yr enwau ac yna’n mynd ati gyda chymorth cyfeillion yr ysgol i’w brodio, eu gwnïo a’u gosod ar y cefnlenni. Mae oriau o lafur cariad yma. A tydw i ddim wedi sôn am y cerddi eto! Maen nhw yma rhwng y tudalennau yn aros i chi droi atyn nhw.”